Integreiddiad Blackboard Learn
SafeAssign ar waith
Mae SafeAssign yn seiliedig ar algorithm paru testun unigryw sy’n gallu nodi cyfatebiadau union ac anunion rhwng papur a gyflwynwyd a deunydd ffynhonnell. Mae’r algorithm perchnogol hwn yn dadansoddi testun cyflwyniad ac yn optimeiddio’r geiriau a’r termau i’w chwilio yn erbyn ffynonellau data lluosog. Mae canlyniadau a ddychwelir o bob gwasanaeth yn cael eu prosesu ymhellach yn seiliedig ar y pwysau a ddychwelir gan y gwasanaeth chwilio a phwysoli cymharol gan yr algorithm SafeAssign, sy’n pennu’r canlyniad i’w ddychwelyd yn yr Adroddiad Gwreiddioldeb.
Cymharir cyflwyniadau myfyrwyr i SafeAssign yn erbyn nifer o ffynonellau:
- Archifau dogfennau sefydliadol : Yn cynnwys pob papur a gyflwynwyd i SafeAssign gan ddefnyddwyr yn eu sefydliadau priodol.
- Global Reference Database: Mae'n cynnwys mwy na 59 miliwn o bapurau a roddwyd yn wirfoddol gan fyfyrwyr o sefydliadau cleient Blackboard i helpu atal llên-ladrad ar draws sefydliadau.
- ProQuest ABI/Inform Journal Database: Mae’n cynnwys mwy na 3,000 o gyhoeddiadau, 5 miliwn o ddogfennau, a thros 200 o gategorïau pwnc o’r 1970au hyd heddiw, o Hysbysebu i Astudiaethau Menywod.
- Y Rhyngrwyd: Mae SafeAssign yn chwilio’r we ehangach am destun tebyg gan ddefnyddio gwasanaeth chwilio mewnol.
Global Reference Database
Mae Global Reference Database SafeAssign yn gronfa ddata ar wahân lle mae myfyrwyr yn cyflwyno copïau o’u papurau’n wirfoddol i atal llên-ladrad. Mae’r gronfa ddata hon wedi ei gwahanu o gronfa ddata fewnol pob sefydliad lle mae papurau’n cael eu storio gan bob sefydliad cyfatebol. Mae myfyrwyr yn rhydd i ddewis yr opsiwn i wirio eu papurau heb eu cyflwyno i’r Global Reference Database. Nid oes rhaid i fyfyrwyr gyflwyno papurau i’r gronfa ddata hon. Maent yn cyflwyno eu papurau’n wirfoddol ac yn cytuno i beidio â dileu papurau yn y dyfodol. Nid yw Blackboard yn hawlio perchnogaeth o bapurau a gyflwynwyd.
Cysylltu â'r Global Reference Database
Mae’r Global Reference Database yn caniatáu i sefydliadau chwilio eu storfa ddata eu hunain yn ogystal â nifer o storfeydd data eraill. Mae mynediad i’r gronfa ddata wedi ei alluogi yn ddiofyn. I gysylltu â’r Gronfa Ddata Gyfeirio Fyd-Eang, dylech sicrhau fod gweinyddwyr Rhaglen Blackboard yn gallu cael mynediad at y gwesteiwr a phyrth canlynol.
Mae’r pyrth hyn ar gyfer traffig HTTP allanol yn unig.
URL Blackboard Learn
: safeassign.blackboard.com
Cyfeiriad IP: 34.202.93.213 a 34.231.5.82
Pyrth: 80, 443
Caniatewch draffig i mewn am yr holl gysylltiadau a sefydlwyd ar gyfer Learn trwy ganiatáu cysylltiad gyda baner ac eithrio SYNC o unrhyw borth o'r Cyfeiriadau IP canlynol: 34.202.93.213 a 34.231.5.82. Mae SafeAssign yn gwneud galwadau gwasanaeth gwe i’ch system Blackboard o’r IP hwn.
Peiriant chwilio mewnol
Mae’r mynegeion chwilio rhyngrwyd a ddefnyddir gan SafeAssign wedi eu cynllunio ar gyfer dibynadwyedd, perfformiad, ac effeithiolrwydd yn erbyn nifer fawr yr ymholiadau chwilio a weithredir gan SafeAssign. Ni ellir adnewyddu'r mynegeion chwilio hyn mor aml â'r sawl a ddefnyddir gan wasanaethau chwilio ar y rhyngrwyd i ddefnyddwyr. Yn gyffredinol, gellir disgwyl i’r mynegeion hyn fod yn gyfredol o fewn 1-3 diwrnod o newid. Oherwydd y cyfuniad o’r nodweddion mynegeion chwilio hyn a’r pwysoli a weithredir gan yr algorithm SafeAssign, efallai na fydd y canlyniadau a ddychwelir mewn Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yr un fath â’r canlyniadau a ddychwelir gan wasanaeth chwilio rhyngrwyd defnyddwyr ar gyfer unrhyw frawddeg neu gymal unigol.
Yn flaenorol, roedd Blackboard SafeAssign yn dibynnu ar wasanaeth BOSS Yahoo! i ddarparu canlyniadau ehangach o'r rhyngrwyd. Oherwydd anghymeradwyaeth gwasanaeth BOSS Yahoo! ar 31 Mawrth, 2016, mae Blackboard wedi datblygu gwasanaeth chwilio mewnol i ddarparu canlyniadau o'r rhyngrwyd ar gyfer SafeAssign. Does dim angen i gwsmeriaid wneud unrhyw beth i alluogi gwasanaeth chwilio mewnol SafeAssign, gan fod y newid wedi cael ei wneud yng Ngwasanaeth Canolog SafeAssign ac mae'n berthnasol i bob cleient.
Datblygwyd y gwasanaeth chwilio mewnol gan ddefnyddio'r dechnoleg ymlusgo a mynegeio ddiweddaraf, ac mae'n caniatáu i Blackboard leihau dibyniaeth ar a datguddiad i offer trydydd parti yn sylweddol. Gan fod y gwasanaeth chwilio yn cael ei weinyddu'n fewnol bellach, mae gan Blackboard y gallu i wella a mireinio canlyniadau chwilio dros amser a gwella ansawdd a pherfformiad cyffredinol cynnyrch SafeAssign. Ar ben hynny, mae unrhyw bryder posib am rannu data cleientiaid gyda phartneriaid Blackboard yn diflannu'n gyfan gwbl gan ddefnyddio'r ymagwedd newydd hon at ddarparu canlyniadau chwilio o'r rhyngrwyd.
Oherwydd natur newidiol y rhyngrwyd, gall fod adegau pan nad yw gwasanaeth chwilio mewnol SafeAssign yn cynnwys tudalennau gwe neu wefannau penodol eto ac o ganlyniad mae'n bosibl na fydd Adroddiadau Gwreiddioldeb Safe Assign yn adnabod testun cyfatebol posib o fewn gwaith myfyrwyr. Pan fydd y sefyllfaoedd hyn yn codi, bydd Blackboard yn ymchwilio ffynhonnell y cynnwys gwe ac, os yn bosibl, yn ychwanegu'r cynnwys at wasanaeth chwilio mewnol SafeAssign ar gyfer cyflwyniadau yn y dyfodol.
Mae datblygiad gwasanaeth chwilio mewnol SafeAssign yn dystiolaeth bellach o ymrwymiad Blackboard at gefnogi swyddogaethau cynnyrch SafeAssign a defnydd cwsmeriaid Blackboard Learn o wasanaeth SafeAssign. Fel arfer, bydd Blackboard yn parhau i fonitro SafeAssign am gyfleoedd i'w gwella ac yn annog adborth gan gwsmeriaid yn ymwneud â chanlyniadau chwilio a pherfformiad SafeAssign yn gyffredinol.
I'ch atgoffa, efallai na fydd y canlyniadau a ddychwelir mewn Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yn cyfateb yn union i'r canlyniadau a ddychwelir gan wasanaeth chwilio ar y rhyngrwyd ar gyfer defnyddwyr (e.e. Google, Bing, ac ati) ar gyfer brawddeg neu ymadrodd unigol. Dylid defnyddio'r canlyniadau o wasanaeth SafeAssign fel arf yn unig yn ôl disgresiwn yr athro neu hyfforddwr. Oherwydd maint a chwmpas y pwnc academaidd a nifer yr adnoddau a chwilir gan SafeAssign, nid nod y canlyniadau yw gwarantu neu nodi fel arall bod llên-ladrad wedi digwydd neu beidio. Yr hyfforddwr sy'n parhau i fod yn gyfrifol am asesu llên-ladrad posib, a dylid ystyried canlyniadau SafeAssign yng nghyd-destun adnoddau eraill a synnwyr cyffredin.
Adroddiadau Gwreiddioldeb SafeAssign
Ar ôl prosesu cyflwyniad papur, mae SafeAssign yn creu adroddiad sy'n cynnwys manylion am ganran y testun yn y papur sy'n cyd-fynd â ffynonellau sy'n bodoli eisoes. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos y ffynonellau amheus sy'n dychwelyd cyfatebiad ar gyfer pob adran o'r papur a gyflwynwyd. Gall hyfforddwyr ddileu ffynonellau sy’n cyd-fynd o’r adroddiad a’i brosesu eto. Mae hyn yn ddefnyddiol os yw’r papur yn barhad o waith a gyflwynwyd yn flaenorol gan yr un myfyriwr.
Yng Ngwedd Cwrs Ultra, mae SafeAssign yn creu Adroddiad Gwreiddioldeb ar gyfer pob rhan o'r cyflwyniad, gan gynnwys atebion testun rhydd ac atodiadau.
Rhagor am yr Adroddiad Gwreiddioldeb
Cefnogaeth iaith yn SafeAssign
Dysgwch fwy am gefnogaeth iaith yn SafeAssign
Mae SafeAssign yn cefnogi Saesneg yn unig yn swyddogol, ond does dim cyfyngiadau technegol ar y gwasanaeth sy'n eich atal rhag ei defnyddio gydag ieithoedd eraill. Gall y canlyniadau amrywio a ni ellir eu gwarantu. Mae gan Blackboard bartneriaeth gyda gwerthwr llên-ladrad arall, TurnItIn. Mae TurnItIn yn integreiddio gyda Blackboard Learn ac mae ar gael ar gyfer cleientiaid rhyngwladol neu unrhyw un sydd angen cefnogaeth ar gyfer Ieithoedd heblaw am Saesneg. I ddysgu mwy, ewch i www.turnItIn.com.
Ffurfweddu a chofrestru SafeAssign
- Ewch i'r Panel Gweinyddydd a dewiswch Blociau Adeiladu. Wedyn, dewiswch Offer sydd wedi’u Gosod.
- Dewch o hyd i'r Bloc Adeiladu SafeAssign Yn ei ddewislen, dewiswch Gosodiadau. Ar y dudalen ffurfweddu, dewiswch Gosodiadau SafeAssign.
- Rhowch yr wybodaeth ganlynol:
- Enw Sefydliad
- URL y gweinydd lleol: Mae URL y gweinydd lleol yn dilysu'r system gofrestru ac yn atal twyllo a hacio i mewn i gronfa ddata ganolog y gwasanaeth.
- Enw cyntaf gweinyddwr SafeAssign
- Cyfenw gweinyddwr SafeAssign
- Cyfeiriad e-bost gweinyddwr SafeAssign
- Teitl swydd gweinyddwr SafeAssign
- Dewiswch gylchfa amser. Mae hyn yn sicrhau fod yr amser a ddangosir yn y Bloc Adeiladu SafeAssign yn cyd-fynd â gweinydd Blackboard Learn.
- Dewiswch Dangos ID Myfyrwyr i ganiatáu i hyfforddwyr weld ID y myfyrwyr yn y tabl sy'n rhestru'r papurau a gyflwynwyd. Os nad yw'r opsiwn hwn wedi'i dewis, bydd hyfforddwyr yn gweld enw'r myfyriwr yn unig.
- Dewiswch Caniatáu SafeAssignments mewn Mudiadau i ganiatáu i fudiadau ddefnyddio SafeAssign ar gyfer aseiniadau.
- Nodwch destun y Datganiad Rhyddhau Sefydliad sy'n ymddangos ym mhob aseiniad sy'n defnyddio SafeAssign. Mae'r neges hon yn rhybuddio myfyrwyr bod eu gwaith yn cael ei wirio am lên-ladrad. Gadewch y blwch testun yn wag os nad ydych eisiau darparu rhybudd.
- Dewiswch Gweithgarwch y Global Reference Database i gyflwyno aseiniadau gan ddefnyddio SafeAssign i'r Global Reference Database ac i ganiatáu dadansoddi papurau a gyflwynwyd gan sefydliadau eraill. Os nad yw wedi ei ddewis, fe gyfyngir ar y mynediad hwn.
- Dewiswch Rwy'n derbyn i gydnabod Cytundeb Trwydded SafeAssign.
- Dewiswch Cyflwyno.
- Agorwch dudalen Gosodiadau eto. Os yw'r cysylltiad yn llwyddiannus, bydd y neges Statws Cysylltu: Cysylltwyd yn ymddangos ar dop y dudalen.
Ar ôl cysylltu'n llwyddiannus â SafeAssign, byddwch yn derbyn cod ymuno yn y dderbynneb. Defnyddir y cod ymuno i adnabod eich sefydliad a'i ddata cyflwynol cysylltiol. Defnyddir y cod ymuno hefyd i ddatrys problemau ac wrth fudo gweinyddion.
Galluogi SafeAssign yn Blackboard Learn
- Ewch i'r Panel Gweinyddydd a dewiswch Blociau Adeiladu. Wedyn, dewiswch Offer sydd wedi’u Gosod.
- Dewch o hyd i'r Bloc Adeiladu SafeAssign
- Yn ei dewislen, dewiswch Gosod Argaeledd.
Ychwanegu SafeAssign at gyrsiau
- O'r Panel Gweinyddwr, dan Cyrsiau, dewiswch Gosodiadau Cwrs.
- Dewiswch Offer Cwrs.
- Dewch o hyd i SafeAssign yn y rhestr a dewiswch Ymlaen. Nid yw SafeAssign ar gael i westeion nac arsylwyr.
- Dewiswch Cyflwyno.