Fformatau amgen
Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?
Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?
Mae Ally yn darparu fformatau amgen ar gyfer y mathau hyn o gynnwys:
- Ffeiliau PDF
- Ffeiliau Microsoft® Word
- Ffeiliau Microsoft® Powerpoint®
- Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
- Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
- Cynnwys a grëir yng ngolygydd cwrs yr LMS (WYSIWYG)
Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer Blackboard Learn Ultra, Blackboard Learn Gwreiddiol, Instructure Canvas, D2L Brightspace a Schoology y mae fformatau amgen ar gyfer cynnwys WYSIWYG ar gael.
Gellir cynhyrchu'r fformatau amgen hyn:
- Fersiwn OCR (ar gyfer dogfennau wedi'u sganio)
- PDF wedi'i dagio (ar gyfer ffeiliau Word, PowerPoint ac Open Office/LibreOffice ar hyn o bryd)
- HTML sy'n addas ar gyfer dyfeisiau symudol
- Sain
- ePub
- Braille Electronig
- BeeLine Reader
- Fersiwn Cyfieithiedig
- Mae’r Fersiwn Cyfieithiedig wedi’i analluogi yn ddiofyn. Gall gweinyddwyr gyflwyno cais am gymorth i’w alluogi.
A gynhyrchir fformatau amgen ar ôl cyflwyno cais i lawrlwytho?
Pan ofynnir am fformat amgen ar gyfer eitem o gynnwys am y tro cyntaf, bydd Ally yn ei gynhyrchu ar alw. Ar gyfer y rhan fwyaf o achosion, fe’i cynhyrchir o fewn 1-2 funud.
Ar ôl ei gynhyrchu, lawrlwythir y fformat amgen. Wedyn, mae Ally yn cadw'r canlyniad yn y storfa, er mwyn cynhyrchu a lawrlwytho ceisiadau ychwanegol ar gyfer yr un fformat amgen o'r storfa ar unwaith.