Heblaw am y cynnwys ar y safle help hwn, sydd ar gael mewn amryw iaith, mae'r adnoddau cysylltiedig ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydych yn gwybod eich bod yn brysur. I'ch helpu i ddefnyddio'ch technoleg Blackboard yn llwyddiannus i gynyddu ymrwymiad myfyrwyr, i arbed amser i chi ac i wella perfformiad myfyrwyr, cynigwn nifer o adnoddau, digwyddiadau a chyfleoedd hyfforddiant.
Cael Atebion i'ch Cwestiynau
Blackboard Help
Cael help i ddefnyddio cynnyrch Blackboard gyda fideos, awgrymiadau arfer gorau, tiwtorialau a mwy.
Tiwtorialau Fideo Blackboard Learn
Gwyliwch fideos byr, diddorol ar gyfer hyfforddwyr sy'n ymdrin â dylunio cyrsiau, cyfathrebu, cydweithio ac asesu ar ein sianel YouTube.
help.blackboard.com/Learn/Instructor/Watch_Videos
Cymuned Blackboard
Cysylltu, rhannu a dysgu gan eich cyfoedion. Postiwch gwestiwn ar y bwrdd trafod, dilynwch sgyrsiau rhwng eich cyfoedion neu cyflwyno adborth ar gynnyrch yn y gyfnewidfa syniadau.
Cymerwch olwg ar Gynnyrch Diweddaraf Blackboard
CourseSites gan Blackboard
Dyma wahoddiad i roi cynnig ar Blackboard Learn gyda phrofiad Ultra. Dyma rhyddhad cynnaf o Gwrs Ultra - cadwch i fyny gyda'r llifoedd gwaith newydd dros amser.
Blackboard Collaborate
Cofrestrwch ar gyfer eich treial am ddim o'n datrysiad un clic ar we-gynadledda ac ystafell ddosbarth rithwir. Edrychwch i weld sut rydym wedi gwneud dysgu ar-lein mor rhyngweithiol â'r ystafell ddosbarth - unrhyw bryd, unrhyw le.
Dysgwch o'ch Cyfoedion ac Arbenigwyr Blackboard
Blackboard Innovative Teaching Series
Dysgwch y brif strategaethau ar gyfer addysged i gynyddu effeithlonrwydd addysgwr a gwella canlyniadau dysgu yn ystod y gweminarau hyn am ddim a ddysgir gan addysgwyr gyda chefnogaeth arbenigwyr Blackboard.
Rhaglen Cwrs Rhagorol
Cychwynnwch arni gyda'r Gyfeireb Rhaglen Cwrs Rhagorol, cyflwynwch eich cwrs am adolygiad gan gyfoedion, gwirfoddolwch i fod yn adolygwr cwrs, neu gallwch gael rhagolwg o waith cyrsiau llwyddiannus blaenorol a grëwyd gan addysgwyr eraill i gael syniadau newydd.
Grwpiau Defnyddwyr Blackboard
Ymunwch â defnyddwyr rhanbarthol eraill Blackboard sydd â diddordeb mewn rhwydweithio, dysgu o arbenigwyr ar bynciau penodol, a rhannu arferion gorau gyda'i gilydd. (Mae'n bosibl bod grwpiau defnyddwyr ar gael mewn ieithoedd heblaw am Saesneg.)
community.blackboard.com/usergroups
Rhaglenni Hyfforddiant Blackboard
Dewch o hyd i gyfleoedd datblygiad proffesiynol yn benodol i dechnolegau Blackboard, gan gynnwys hyfforddiant ar y platfform a hyfforddiant addysgeg. Mae hyfforddiant ar y platfform yn cynnwys hyfforddiant ar y safle ac ar-lein, ardystiad a deunyddiau. Mae'r hyfforddiant addysgeg yn hyrwyddo arferion gorau o ran hyfforddiant yn y gyfadran, dylunio cyrsiau, a datblygiad proffesiynol.
blackboard.com/consulting-training
BbWorld
Ymunwch â miloedd o addysgwyr o ledled y byd am gyweirnodau, dros 200 o sesiynau, gweithdai ymarferol cyn cynadleddau, a chyfleoedd i rwydweithio a rhannu arferion gorau gyda chyfoedion o'r un meddylfryd - ynghyd â diweddariadau gan Blackboard.
Lawrlwythwch ap Blackboard Instructor
Arbedwch amser
Mae Blackboard Instructor yn eich caniatáu i anfon cyhoeddiadau, gwirio'ch cyrsiau'n sydyn a monitro trafodaethau.
Cael rhagolwg o gynnwys sy'n addas i ddyfeisiau symudol
Sicrhewch bod eich deunyddiau cwrs, cynnwys ac asesiadau'n addas i ddyfeisiau symudol ar gyfer myfyrwyr sy'n defnyddio ap Blackboard.
Cwblhau tasgau'n hawdd
Mae dyluniad syml Blackboard Instructor sy'n ffocysu ar y defnyddiwr yn eich helpu i gael mynediad sydyn am yr hyn rydych yn edrych am ac i symud trwy tasgau'n sydyn.
Cysylltu â myfyrwyr
Cysylltwch â'ch myfyrwyr yn syth o'ch ffôn gan ddefnyddio Collaborate.
Lawrlwytho ar eich dyfais Apple®
Lawrlwytho ar eich dyfais Android™
Dysgu rhagor
Blackboard Instructor ar y Safle Cymorth