Llywio syml

O'r adeg y byddwch yn mewngofnodi, bydd gennych fynediad at y nodweddion craidd yn y ddewislen lle mae'ch enw yn ymddangos. Gallwch ddychwelyd i'r ddewislen yn hawdd o le bynnag ydych chi - hyd yn oed os ydych chi mewn cwrs. Fe welwch cipolwg o'r rhestr y tu ôl i'r haenau eraill sydd gennych ar agor.

Pan fyddwch yn dewis unrhyw ddolen o'r ddewislen, fe welwch wedd gyffredinol ar draws pob un o'ch cyrsiau. Er enghraifft, mae Graddau yn dangos eich sgoriau ar draws pob un o'ch cyrsiau—nid oes rhaid i chi lywio i bob un ar wahân.

Image of the base navigation on the left, with the activity stream on the right. An image of the inside of a course is overlaying the base navigation.

Y pethau y gallwch eu gwneud!

Tudalen y Sefydliad: Dod o hyd i wybodaeth am eich sefydliad.

Proffil: Gwneud newidiadau i'ch persona ar-lein.

Ffrwd Gweithgarwch: Gweld y gweithrediadau diweddaraf ar gyfer eich cyrsiau.

Cyrsiau: Llywio i gyrsiau blaenorol, cyfredol a'r rhai i ddod.

Mudiadau: Cael mynediad at y mudiadau rydych yn aelod ohonynt.

Calendr: Gweld digwyddiadau cwrs a dyddiadau dyledus ar gyfer eich cyrsiau.

Negeseuon: Gweld ac anfon negeseuon yn eich cyrsiau.

Graddau: Gwirio'ch graddau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau.

Offer: Cael mynediad at swyddogaethau cyffredinol sydd y tu allan i gwrs megis portffolios neu'r Casgliad o Gynnwys.