Graddau ar gyfer pob cwrs

Yn y rhestr ble mae eich enw yn ymddangos, dewiswch Graddau.

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fudiadau hefyd.

Trefnir eich graddau yn ôl enw cwrs a thymor yn nhrefn yr wyddor. Gallwch ddewis y rhan fwyaf o eitemau mewn unrhyw gwrs i weld y manylion.

Eisiau cael rhagor o fanylion am gwrs penodol? Dewiswch enw cwrs i fynd i dudalen graddau'r cwrs hwnnw. Mae'n bosib y bydd gennych ddau fath o gwrs.

Os yw’ch hyfforddwr wedi gosod y radd gyffredinol, dewiswch y bilsen radd nesaf at enw'ch cwrs i agor panel sydd â rhagor o wybodaeth.

Rhagor am eich gradd gyffredinol


Graddau mewn cwrs

  1. Mewn cwrs, gallwch weld eich tudalen Graddau Cwrs ar y bar llywio. Dewiswch eicon y Llyfr Graddau i weld y graddau a bostiwyd gan eich hyfforddwr.
  2. Mae'ch Gradd Gyffredinol yn cyfrifo'ch perfformiad hyd yn hyn. Dewiswch bilsen y radd i ddysgu mwy am sut caiff eich gradd gyffredinol ei chyfrifo. Efallai bydd eich hyfforddwr yn dewis peidio ag ychwanegu gradd gyffredinol.
  3. Ar gyfer pob eitem, gallwch weld y statws a sawl ymgais sydd gennych chi. Gweld pa ymgeisiau rydych wedi'u dechrau, wedi'u cyflwyno cyn y dyddiad dyledus, ac os oes unrhyw gyflwyniadau sy'n hwyr neu a fydd yn hwyr. Wedi’r dyddiad dyledus, mae gwybodaeth am y cyflwyniad yn ymddangos yn goch.

    Os mai un ymgais yn unig a ganiateir a'ch bod yn cyflwyno cyn y dyddiad dyledus, ni fyddwch yn gweld ail linell o destun ar gyfer yr eitem.

  4. Dewiswch eitem i agor y panel Manylion a Gwybodaeth i weld eich gradd gyfredol a sut cafodd ei chyfrifo. Gallwch hefyd weld sawl ymgais sydd gennych chi ac os oes neu a fydd unrhyw geisiadau'n hwyr.
  5. Os yw'r dyddiad dyledus wedi mynd heibio, fe gewch eich hysbysu y bydd eich ymgais nesaf yn cael ei nodi fel un hwyr.
  6. Dewiswch bilsen y radd i weld eich cyflwyniad. Os wnaethoch chi sawl ymgais, mae'r panel Cyflwyniad yn agor. Os yw'ch hyfforddwr wedi anodi ffeil uwchlwythoch chi fel eich cyflwyniad, gallwch weld yr anodiadau'n fewnol. Ewch i bwnc graddau aseiniad i weld sut mae sylwadau lluosog yn ymddangos yn eich PDF wedi'i anodi.

Wedi’r dyddiad dyledus, efallai byddwch yn gweld seroau ar gyfer gwaith nad ydych wedi’i gyflwyno. Gallwch dal i gyflwyno ymgeisiau er mwyn diweddaru'ch gradd. Eich hyfforddwr sy'n pennu cosbau gradd ar gyfer gwaith hwyr.

Mwy ar seroau a roddwyd i waith hwyr dyledus

Os yw'ch hyfforddwr yn defnyddio'r nodwedd graddio presenoldeb, byddwch yn gweld gradd presenoldeb.

Mwy ar eich gradd presenoldeb

Gweld ymgeisiau ac adborth

Yn y panel Cyflwyniad, gallwch weld pa ymgeisiau sydd â graddau ac adborth. Dewiswch yr ymgais rydych eisiau gweld. Bydd eich cyflwyniad yn agor, a gallwch weld y radd a sut gafodd ei chyfrifo. Gallwch adolygu'ch gwaith ac ehangu'r panel Adborth os adawyd sylwadau gan eich hyfforddwr.

Rhagor am sut mae gwaith hwyr yn ymddangos

Os yw’ch hyfforddwr wedi gadael adborth ar gyfer ymgeisiau lluosog, gallwch ddarllen adborth pob ymgais. Mae neges yn ymddangos os yw'ch hyfforddwr wedi gwrthwneud gradd derfynol yr eitem.

Example of a grade override from the student view

Gallwch hefyd weld sawl ymgais sydd gennych ar dudalen Graddau Cwrs. Gallwch weld pa gyflwyniadau a gyflwynoch cyn y dyddiad cyflwyno ac a oes unrhyw gyflwyniadau sy'n hwyr neu rai a fydd yn hwyr.

Derbynneb Cyflwyno

Os yw'ch sefydliad yn ei ganiatáu, byddwch yn derbyn hysbysiad drwy e-bost ar gyfer pob aseiniad neu brawf rydych yn eu cyflwyno sy'n cynnwys gwybodaeth megis enw a maint y ffeiliau a atodwyd. Ar gyfer aseiniadau grŵp, bydd yr holl aelodau yn eich grŵp yn derbyn y dderbynneb pan fydd un aelod yn cyflwyno ar ran y grŵp.  Gallwch hefyd lawrlwytho eich derbynneb cyflwyno (.txt).
 

Rhagor am y dudalen Graddau Cwrs


Hysbysiadau graddau newydd

Pan fydd graddau'n cael eu postio, gallwch ddod o hyd iddynt yn eich ffrwd gweithgarwch. Dewiswch Gweld eich gradd i ddangos eich gradd.

Rhagor am y ffrwd gweithgarwch

The activity stream of the Student's view is open with the "View my grade" button clicked and an example grade highlighted.

Gallwch hefyd gael mynediad at yr eitem yn eich cwrs er mwyn adolygu'ch gradd ac adborth mewn cyd-destun.


Graddau ac adborth

Os oes angen i'ch hyfforddwr raddio cwestiynau yn eich asesiad, mae Heb ei Raddio yn ymddangos yn yr adran Graddio.

Efallai bydd eich hyfforddwr yn dewis peidio dangos atebion cywir cwestiynau a farcir yn awtomatig nes i bob myfyriwr gyflwyno ei waith. Bydd baner yn ymddangos ar frig yr asesiad gyda’r wybodaeth hon. Ewch yn ôl yn nes ymlaen i weld a gafodd yr atebion eu datgelu.

Mae rhaid i’ch hyfforddwr raddio rhai mathau o gwestiynau â llaw megis Traethodau, ac wedyn cyhoeddi gradd ac adborth yr asesiad. Mae'ch graddau hefyd yn ymddangos ar y tudalennau graddau cyffredinol a rhai'r cwrs.

Mwy ar gael mynediad at raddau

Rhagor ar opsiynau sgorio cwestiynau

Rhagor ar newidiadau i sgôr cwestiynau

Gallwch hefyd gael mynediad i'r asesiad yn eich cwrs er mwyn adolygu'ch gradd ac adborth mewn cyd-destun. Dewiswch deitl y prawf neu aseiniad ar dudalen Cynnwys y Cwrs a bydd y panel Manylion a Gwybodaeth yn agor. Dewiswch unrhyw le yn adran Graddio i adolygu'r hyn a gyflwynwyd gennych, yr atebion cywir sydd ar gael, a'ch gradd ac adborth. Os yw'ch hyfforddwr wedi gadael adborth, dewiswch eicon y swigen siarad i'w weld.

Ar gyfer cwestiynau lle dewisoch fwy nag un ateb, gallwch ddewis Dangos yr opsiynau eraill i adolygu'r dewis o atebion.

Seroau a roddwyd i waith gorddyledus

Os yw’ch hyfforddwr wedi’i gosod, mae'n bosibl y byddwch yn gweld seroau ar gyfer gwaith nad ydych wedi'i gyflwyno ar ôl i'r dyddiad cyflwyno fynd heibio. Gallwch dal i gyflwyno ymgeisiau er mwyn diweddaru'ch gradd. Eich hyfforddwr sy'n pennu cosbau gradd ar gyfer gwaith hwyr.

Byddwch yn gweld eich gradd o sero ar eich tudalennau Graddau ac ym mhanel Manylion a Gwybodaeth yr eitem.

Os ydych wedi galluogi hysbysiadau yn y ffrwd am raddau, rhoddir gwybod i chi am y radd o sero yn eich ffrwd.


Pils graddau

Eich hyfforddwr sy'n pennu sut i ddangos eich gradd ar gyfer pob eitem a raddir:

  • Gradd ar ffurf llythyren
  • Pwyntiau
  • Canran
Grades organized by letter

Mae pilsen radd pob cwestiwn asesiad ac eitem a raddir yn ymddangos mewn lliwiau neu â chefndiroedd tywyll.

Ar gyfer y pils graddau wedi’u lliwio, mae'r amrediad sgôr uchaf yn wyrdd a'r isaf yn goch. Ar yr adeg hon, ni all eich hyfforddwyr newid y lliwiau neu'r canrannau. Mae'r lliwiau yn mapio i'r canrannau hyn:

  • > 90% = gwyrdd
  • 89–80% = melyn/gwyrdd
  • 79–70% = melyn
  • 69–60% = oren
  • 59–50% = coch
Course grades for an individual student

Gall eich sefydliad analluogi’r sgema lliwiau ar gyfer pob cwrs. Mae’r pils graddau yn ymddangos gyda chefndiroedd tywyll a graddau gwyn. Ni ddefnyddir lliwiau i gyfleu perfformiad.

Course grades for an individual student

Gwrando ar adborth a recordiwyd.

Gall eich hyfforddwr adael fideo neu recordiad sain gydag adborth ychwanegol ar radd eich asesiad. Mae'r recordiadau'n ymddangos ym mhanel Adborth pan fydd eich hyfforddwr yn pennu gradd ar gyfer pob cyflwyniad.

Dewiswch eicon y ffilm i ffrydio'r fideo i'ch cyfrifiadur neu ddyfais. Gallwch reoli’r fideo trwy’r dulliau arferol megis rhewi’r fideo neu lithro bar y chwaraeydd. Mae porwyr modern yn cefnogi chwarae ffeiliau fel hyn heb fod angen ategyn porwr. Ni allwch allgludo neu lawrlwytho'r recordiad o adborth ar hyn o bryd.


Gradd gyffredinol

Mae'r radd gyffredinol yn eich helpu i olrhain sut rydych yn perfformio ym mhob un o'ch cyrsiau. Gallwch weld a ydych ar y trywydd cywir ar gyfer y radd rydych chi ei eisiau neu os oes angen i chi wella.

Os yw'ch hyfforddwr wedi gosod y radd gyffredinol, mae'n ymddangos ar eich tudalen Graddau cyffredinol ac y tu mewn i'ch cwrs ar y dudalen Graddau Cyrsiau. Dewiswch y bilsen gradd i ddysgu mwy am sut mae'n cael ei gyfrifo.

Mae'r panel Gradd Gyffredinol yn dangos i chi sut caiff eitemau a chategorïau eu pwysoli. Er enghraifft, yn seiliedig ar ddewisiadau eich hyfforddwyr, gall profion gyfri am fwy na gwaith cartref neu gwisiau. Mae'r ganran a restrir gyda phob cofnod yn dynodi faint mae'n cyfrannu at gyfrifiad eich gradd gyffredinol.

Os yw'ch hyfforddwr yn penderfynu diystyru'ch gradd gyffredinol, bydd neges yn ymddangos ar dop y panel hwn. Mae'n bosibl y byddwch yn dal i weld gradd yma neu nodiant gradd er mwyn dynodi bod eich cyfranogiad yn y cwrs yn unigryw. Mae enghreifftiau o nodiannau gradd yn cynnwys Eithriedig, Wedi’i Dynnu Allan, ac Anghyflawn. Gall eich hyfforddwr hefyd greu nodiannau personol.