Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau a chyfeirebau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Gwrthwneud graddau

Gallwch wrthwneud gradd drwy roi gradd wahanol â llaw i ddisodli'r sgôr a gyfrifwyd.

Override grade option on a graded submission.

Yn y bilsen radd, gallwch roi gwerth rhifol nad yw'n fwy na phum digid. Gallwch gynnwys dau ddigid ychwanegol ar ôl y pwynt degol.

Gwrthwneud gradd ar gyfer ymgeisiau lluosog — Os ydych yn caniatáu ymgeisiau lluosog, gallwch wrthwneud y radd derfynol yn unig, nid y graddau ar gyfer pob ymgais. Mae gradd wrthwneud yn cael blaenoriaeth dros bob cofnod gradd arall, gan gynnwys ymgeisiau mae myfyriwr yn eu cyflwyno ar ôl i chi neilltuo gradd wrthwneud. 

  • Os ydych yn ailraddio cwestiwn, defnyddir y sgôr a ailraddiwyd ar sgôr yr ymgais. Os newidiwch radd â llaw ar gyfer yr asesiad yn y llyfr graddau, ni fydd y sgôr a ailraddiwyd yn newid y sgôr gwrthwneud.
  • Os ydych yn mynd i raddio ymgais arall ar ôl i chi newid y radd derfynol â llaw, mae’r radd wrthwneud yn dal i ddisodli gradd yr ail ymdrech y byddwch chi’n ei haseinio. Efallai byddwch eisiau tynnu pwyntiau ar ôl i fyfyriwr wneud pob ymgais neu mae'r dyddiad dyledus wedi mynd heibio.

I wrthwneud y radd derfynol ar gyfer cyflwyniad, dewiswch y ddewislen wrth ochr y radd derfynol.

Shows the menu selected for a students multiple attempts where you can override the final grade

Gwthwneud gradd sydd â chyfarwyddyd cysylltiedig — Os ydych yn gwrthwneud gradd sydd â chyfarwyddyd cysylltiedig, mae'r radd wrthwneud yn ymddangos ym mhilsen radd y cyfarwyddyd. Pan fyddwch yn edrych ar y cynnwys, bydd y panel Manylion y Cyfarwyddyd yn nodi fod y radd wedi’i gwrthwneud.

Example message of when you have overriden a grade
  • Gallwch hefyd wrthwneud gradd bresennol o’r cyfarwyddyd cysylltiedig. Rhowch sgôr newydd ym mhilsen radd y cyfarwyddyd. Byddwch yn gweld y neges gwrthwneud yn y cyfarwyddyd a’r label gwrthwneud yn y llyfr graddau. Er na chewch ddefnyddio’r cyfarwyddyd bellach, gallwch ehangu’r meini prawf i weld y disgrifiadau.

Ym mhilsen radd y cyfarwyddyd, gallwch roi gwerth rhifol nad yw'n fwy na phum digid. Gallwch gynnwys un ddigid ychwanegol ar ôl y pwynt degol. Mae gradd gyffredinol y cyfarwyddyd bob tro'n cael ei thalgrynnu i un pwynt degol.

  • Os byddwch yn penderfynu eich bod am newid y radd a defnyddio’r cyfarwyddyd i neilltuo graddau, dewiswch ailraddio gan ddefnyddio'r cyfarwyddyd. Daw'r cyfarwyddyd yn weithredol, a gallwch ei defnyddio i ddarparu graddau ar gyfer yr aseiniad. Bydd y radd newydd yn ymddangos yn y llyfr graddau a bydd y label gwrthwneud yn diflannu.

Gwrthwneud y radd gyffredinol — Os ydych yn gosod gradd gyffredinol ar gyfer eich cwrs, gallwch wrthwneud cyfrifiad awtomatig y radd. Ewch i wedd Graddau y llyfr graddau a dewiswch gell gradd gyffredinol myfyriwr. Gallwch nodi gwerth newydd neu dewiswch o'r nodiannau gradd gyffredinol byddwch yn eu sefydlu ar gyfer y cwrs. Bydd cell y radd yn newid i lwyd i ddynodi bod y radd wedi'ii gwrthwneud. I ddad-wneud y gwrthwneud, dewiswch y gell a dewiswch Dad-wneud y Gwrthwneud. Bydd y radd yn newid yn ôl i'r cyfrifiad gradd gyffredinol byddwch yn ei sefydlu ar gyfer y cwrs.

Mwy ar sut i sefydlu'r radd gyffredinol

Rhowch adborth ar gyfer graddau gwrthwneud

O wedd Graddau y llyfr graddau, dewiswch y radd wrthwneud yn y bilsen radd a dewiswch Adborth o'r ddewislen. Bydd y panel Gradd ac Adborth yn agor. Rhowch eich adborth i'r myfyriwr ac wedyn ei gadw. 

Gall myfyrwyr weld adborth gwrthwneud ar ôl i raddau gael eu cyhoeddi.

Pan fyddwch yn cyhoeddi graddau, gall myfyrwyr eu gweld ynghyd ag unrhyw adborth rydych wedi ei darparu. Mae pob darn o adborth ar gyfer pob ymgais, hyd yn oed ymgeisiau heb eu graddio, yn cael eu dangos i fyfyrwyr.

Graddau a gyhoeddwyd

Os byddwch yn dewis cyhoeddi graddau ac wedyn eu gwrthwneud, bydd myfyrwyr yn gweld y graddau a ddiweddarwyd. Os byddwch yn tynnu gradd a gyhoeddwyd yn gyfan gwbl, bydd yr eitem yn dychwelyd i fod "heb ei graddio". Ar ôl i chi neilltuo graddau newydd, bydd angen i chi gyhoeddi’r graddau hynny eto.


Gwedd myfyriwr o'r radd wrthwneud

Os ydych yn gadael adborth am ymgeisiau lluosog, gall myfyrwyr ddarllen adborth pob ymgais ar ôl i chi bostio graddau. Bydd neges yn ymddangos os ydych wedi gwrthwneud gradd derfynol yr eitem.

Example of a grade override from the student view