Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Gallwch ddewis ble rydych am ddechrau graddio: 

  • O’r Ffrwd Gweithgarwch 

  • O'r ddewislen lywio sylfaenol 

  • O aseiniad 

  • O’r Llyfr Graddau 

  • O'r dudalen Cyflwyniadau 
     

 
Cyrchu graddio o'r Ffrwd Gweithgarwch 

Pan fydd cyflwyniadau myfyrwyr yn barod i'w graddio, cewch hysbysiad yn y Ffrwd Gweithgarwch. Dewiswch Cyflwyniadau newydd yn barod i'w graddio yn y Ffrwd Gweithgarwch i fynd i Lyfr Graddau'r cwrs a dechrau graddio. 
 

You can access grading from the Activity Stream

 

Cyrchu graddio o'r ddewislen lywio sylfaenol

I weld faint o aseiniadau sy'n barod i'w graddio ar gyfer pob un o'ch cyrsiau a chyrchu opsiynau graddio, dewiswch Graddau o'r ddewislen lywio ar y chwith. Mae'ch tasgau graddio yn cael eu rhestru fesul cwrs. Byddwch yn gweld pa aseiniadau sy’n barod i'w graddio, neu aseiniadau sy'n hwyr ar gyfer un neu fwy o fyfyrwyr.
 

Access grading from the navigation menu

 

Cyrchu graddio o aseiniad

Gallwch hefyd ddechrau graddio'n uniongyrchol o aseiniad yn eich cwrs. Dewiswch y tab Cyflwyniadau i weld pa fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r aseiniad a dechrau graddio.  
 

Access grading from the submissions page


Cyrchu graddio o'r Llyfr Graddau

Cyrchu Llyfr Graddau y cwrs o'r bar llywio yn eich cwrs i weld pwy sydd wedi gwneud cyflwyniadau a dechrau graddio.
 

Start grading from the Gradebook

 

Gallwch raddio gwaith cwrs, rheoli eitemau, a chyhoeddi graddau o ddwy wedd: 
 
Gwedd Eitemau Graddadwy. Unwaith eich bod yn y Llyfr Graddau, rhestr yr Eitemau Graddadwy yw eich gwedd ddiofyn. Gallwch weld yr holl waith cwrs rydych wedi'i aseinio, statws graddio pob aseiniad, ac a oes graddau i'w cyhoeddi.
 

Gradable items view in the Gradebook


Gwedd grid. Mae'r wedd grid myfyrwyr yn dangos y sgoriau mae myfyrwyr wedi'u hennill ar gyfer pob aseiniad ac mae'n gadael i chi wybod pan fydd aseiniadau i'w graddio. I gyrchu'r wedd grid, dewiswch yr eicon grid yn y Llyfr Graddau. Dewiswch Graddio Nawr o golofn aseiniad i ddechrau graddio gwaith myfyriwr. 
 

Grid view from the Gradebook

Dysgu rhagor am lywio yn y Llyfr Graddau 
 

Cyrchu graddio o'r dudalen Cyflwyniadau 


Mae'r dudalen Cyflwyniadau yn dangos yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ac mae'n caniatáu i chi gadw golwg ar yr holl gyflwyniadau ar un dudalen. Gallwch gyrchu'r dudalen Cyflwyniadau naill ai o asesiad neu o wedd yr Eitemau Graddadwy yn y Llyfr Graddau. 
 
Gweld pa ymgeisiau sy’n barod i’w graddio’n gyflym. Defnyddiwch y ddewislen Hidlo ar y dudalen Cyflwyniadau i ddangos dim ond y cyflwyniadau hynny sydd angen eu graddio. Nid yw’r ddewislen Hidlo yn ymddangos ar gyfer eitemau mewn grwpiau neu drafodaethau. 
 
Bydd lluniau proffil myfyrwyr yn ymddangos â chylch coch pan fyddant yn hwyr yn cyflwyno eu gwaith neu pan fydd y dyddiad cyflwyno wedi mynd heibio heb gyflwyno unrhyw ymgais. 
 

You can see every submissions' status from the submissions page

 

Gweld stampiau amser cyflwyniadau

Pan fyddwch yn dechrau neu'n adolygu graddio, gallwch gyfeirio at stamp amser cyflwyniad i weld mwy o wybodaeth. Mae stampiau amser yn ymddangos ar dudalennau cyflwyniad myfyrwyr ac ar eu paneli ymdrechion pan fyddwch chi wedi caniatáu mwy nag un ymgais ar asesiad.

Er enghraifft, ar dudalen cyflwyniad myfyriwr, gallwch weld pryd wnaeth y myfyriwr wneud y cyflwyniad a phryd y gwnaethoch chi gyhoeddi’r radd. Mae’r stamp amser yn ymddangos mewn coch gyda label “hwyr” ar ôl i’r dyddiad cyflwyno basio.
 

Submission timestamp appears when pointer is over the submission icon.

 

Graddio aseiniad sydd ag ymgeisiau lluosog 

Mae ymgeisiau lluosog yn newid sut mae gradd derfynol yr aseiniad yn cael ei chyfrifo'n awtomatig. Dewiswch sut rydych eisiau cyfrifo'r radd derfynol: 

  • Cyfartaledd yr holl ymgeisiau 

  • Ymgais cyntaf â gradd 

  • Ymgais â'r radd uchaf 

  • Ymgais olaf â gradd 

  • Ymgais â'r radd isaf 
     

The Assignment settings panel is open with the "Grade attempts" dropdown list displayed and the "Average of all attempts" option selected.


Yn ddiofyn, mae'r dudalen graddio yn dangos yr ymgais mwyaf perthnasol yn seiliedig ar y gosodiad Graddio ymgeisiau a statws cwblhau graddio: 
 

Gosodiad Graddio Ymgeisiau 

Statws cwblhau graddio 

Ymgais diofyn a ddangosir 

Ymgais olaf â gradd 

Unrhyw un 

Ymgais diweddaraf 

Ymgais cyntaf â gradd 

Unrhyw un 

Ymgais cyntaf 

Ymgais â'r radd uchaf 

Pob ymgais yn cael eu graddio 

Ymgais â'r radd uchaf 

Ymgais â'r radd isaf 

Pob ymgais yn cael eu graddio 

Ymgais â'r radd isaf 

Cyfartaledd yr holl ymgeisiau 

Pob ymgais yn cael eu graddio 

Ymgais diweddaraf 

Ymgais â'r radd uchaf 

Mae ymgeisiau heb eu graddio 

Ymgais hynaf heb ei raddio 

Ymgais â'r radd isaf 

Mae ymgeisiau heb eu graddio 

Ymgais hynaf heb ei raddio 

Cyfartaledd yr holl ymgeisiau 

Mae ymgeisiau heb eu graddio 

Ymgais hynaf heb ei raddio 

 
Mae hyn yn caniatáu i chi werthuso a graddio gwaith myfyrwyr yn gyflym. Pan fydd angen tasgau graddio ychwanegol ar y dull cyfrifo gradd, bydd yn mynd â chi i'r dasg honno. Os nad oes angen hynny, dangosir yr ymgais mwyaf berthnasol a raddiwyd.

 

Attempt selector improvements

 

Gweld ymgeisiau unigol 

Gallwch raddio aseiniad gydag ymgeisiau lluosog o'r un lleoedd yr ydych yn graddio aseiniad cyffredinol: 

  • Y Ffrwd Gweithgarwch 

  • Y Llyfr Graddau 

  • Yr aseiniad 

Pan fyddwch yn dewis enw myfyriwr, bydd panel yn ymddangos sy'n dangos pob ymgais, ynghyd â'r dyddiad y cafodd ei gyflwyno. Dewiswch ymgais i weld y cyflwyniad. 

Mae'r opsiynau adborth yn ymddangos wrth ochr pob ymgais. Dewiswch eicon y swigen siarad i agor y panel adborth. Gallwch sgrolio drwy'r aseiniad ac ychwanegu adborth cyffredinol a gradd. 

Defnyddiwch y panel ar y dde i lywio drwy dabiau fel cyfarwyddiadau, adborth ac adroddiad gwreiddioldeb. Gallwch hefyd lywio i'r wedd cyflwyniad a thabiau'r panel â bariau sgrolio gwahanol. Mae bariau sgrolio annibynol yn caniatáu i hyfforddwyr neu raddwyr sgrolio i fyny ac i lawr drwy gynnwys y cyflwyniad heb effeithio ar lywio'r tab ochr neu'r pennyn.

Neges Atgoffa: Pan fyddwch yn cyhoeddi graddau, gall myfyrwyr eu gweld ynghyd ag unrhyw adborth rydych yn ei ddarparu. Mae pob darn o adborth ar gyfer pob ymgais, hyd yn oed ymgeisiau heb eu graddio, yn cael eu dangos i fyfyrwyr. Os ydych wedi defnyddio cyfarwyddyd neu gwestiynau sy'n cael eu sgorio'n awtomatig, efallai fod y radd ar gyfer yr ymgais eisoes yn bodoli. 

Graddau terfynol 

Cyfrifir y radd derfynol ar gyfer aseiniad ag ymgeisiau lluosog yn seiliedig ar y gosodiad Ymgeisiau Gradd a ddewisoch yng Ngosodiadau'r Aseiniad. Yn y panel sy'n rhestru ymgeisiau myfyriwr, mae'r radd derfynol yn ymddangos pan raddir yr ymgeisiau hynny. Er enghraifft, os cyfrifir y radd derfynol yn seiliedig ar yr ymgais sydd wedi ennill y radd uchaf, bydd y radd derfynol yn ymddangos yn syth ar ôl i un ymgais gael ei raddio. Fodd bynnag, gall y radd newid wrth i chi barhau i raddio mwy o ymgeisiau. Ar ôl i chi orffen graddio'r ymgeisiau, gallwch gyhoeddi'r radd derfynol i'r myfyriwr ei gweld. 

Beth mae myfyrwyr yn ei weld? 

Mae aseiniadau gydag ymgeisiau lluosog yn rhestru'r nifer o ymgeisiau a ganiateir, yn ogystal â sut mae'r radd derfynol yn cael ei chyfrifo. Mae myfyrwyr yn gweld y wybodaeth hon ar y dudalen Manylion a Gwybodaeth cyn iddynt ddechrau. Pan y cyhoeddir y graddau, gall myfyrwyr weld graddau ar gyfer pob un o’u hymdrechion, yn ogystal â'r radd derfynol. Os byddwch yn penderfynu gwrthwneud y radd derfynol, bydd neges yn ymddangos i roi gwybod i'r myfyriwr. 

Rhagor am sut mae myfyrwyr yn cyrchu aseiniadau yn Blackboard Learn 
 

Ynghylch Bb Annotate 

Bb Annotate

Gallwch ddefnyddio BB Annotate ar gyfer graddio mewnol yn eich cyrsiau. Mae Bb Annotate yn cynnig cyfres o nodweddion sy’n fwy cadarn i roi adborth y gellir ei addasu i fyfyrwyr. Mae'r nodweddion yn cynnwys gwedd crynodeb bar ochr, offer lluniadu â llaw, gwahanol liwiau a llawer mwy.


Llif gwaith graddio BB Annotate

Ar dudalen Cyflwyniad yr Aseiniad, mae mathau o ffeiliau a gefnogir yn agor yn y porwr. Gallwch weld ac anodi'r mathau hyn o ddogfennau yn y porwr:

  • Microsoft® Word (DOC, DOCX)
  • Microsoft® PowerPoint®(PPT, PPTX)
  • Microsoft® Excel®(XLS, XLSX)
  • Dogfennau OpenOffice® (ODS, ODT, ODP)
  • Delweddau Digidol (JPEG, JPG, PNG, TIF, TIFF, TGA, BMP, HEIC)
  • Cod ffynhonnell (Java, PY, C, CPP, ac ati)
  • Delweddau Meddygol (DICOM, DICM, DCM)
  • PDF
  • PSD
  • RTF
  • txt
  • WPD

Ni chefnogir Macros Office Suite, megis Visual Basic.

Daw sesiynau anodi i ben ar ôl awr. Byddwch yn derbyn neges rhybudd cyn i'ch sesiwn ddod i ben. Cedwir eich anodiadau, adborth a ffeiliau a gwblhawyd ar y dudalen. Pan fyddwch yn dychwelyd, gallwch ailddechrau gweithio.

Mae gifs wedi’u hanimeiddio ond yn dangos y ffrâm gyntaf yn y dangosydd PDF at ddibenion anodi. Lawrlwythwch y cyflwyniad i weld y gif wedi’i animeiddio.

Cedwir y fformat gwreiddiol a delweddau sydd wedi eu plannu Os yw myfyriwr wedi cyflwyno ffeil heb ei chefnogi, gofynnir i chi ei lawrlwytho. Nid yw cyflwyniadau aseiniadau a grëir yn y golygydd yn gydnaws â graddio mewnol.

Yn dechrau Rhagfyr 10, 2020: os yw’r ffeil a gyflwynwyd (heb ei throsi) yn fwy na 300MB, bydd prosesu’n stopio, er mwyn osgoi colli data a sicrhau perfformiad da.

Cefnogir Bb Annotate ar fersiynau presennol Firefox, Chrome, Edge, a Safari.

Editing menu

Fel rhan o’r dyluniad ymatebol, mae ymddangosiad y ddewislen yn newid yn seiliedig ar faint y sgrin. Ar sgriniau canolig a bach, mae’r gosodiadau Gweld y Ddogfen yn dangos rhif y dudalen rydych yn ei gweld. Mae offer anodi mewn pentwr dan eicon Gweld Offer Anodi. Ar sgriniau llai, cuddir y Llyfrgell o Gynnwys.

Opsiynau'r ddewislen o'r chwith i'r dde

  • Bar ochr: Gweld golygon Mân-lun, Amlinelliad neu Anodiad o’r cyflwyniad.
  • Tudalennau: Defnyddio’r saethau i neidio i dudalennau gwahanol yn y cyflwyniad.
  • Tremio: Symud y cyflwyniad ar y dudalen.
  • Chwyddo a Ffitio: Chwyddo i mewn ac allan o’r cyflwyniad neu addasu'r wedd i ffitio’r dudalen, ffitio'r lled, neu ddewis y ffit gorau.
  • Offer anodi: Dewiswch bob offeryn i weld priodweddau’r offeryn.

    Cedwir eich dewis ar gyfer pob offeryn rhwng cyflwyniadau.

  • Lluniadu, Brwsh, a Dilëwr: Lluniadu’n llawrydd ar y cyflwyniad â gwahanol liwiau, trwch ac anhryloywder. Dewiswch y dilëwr i dynnu anodiadau. Gallwch ddileu rhannau o luniad llawrydd â'r dilëwr neu dewiswch yr eicon Dileu i ddileu’r lluniad cyfan.
  • Delwedd neu Stamp: Dewis stamp a lwythwyd ymlaen llaw neu greu stamp neu ddelwedd bersonol eich hun i’w hychwanegu at y cyflwyniad.
  • Dadwneud: Dadwneud neu ddychwelyd y peth diwethaf a wnaethoch.
  • Ailwneud: Gwneud y peth diwethaf a wnaethoch eto.
  • Testun: Ychwanegu testun yn uniongyrchol ar y cyflwyniad. Gallwch symud, golygu a newid y testun a dewis y ffont, maint, aliniad a lliw'r testun.
  • Siapiau: Dewis Llinell, Saeth, Petryal, Elips, Polygon, a Polylinell. Mae gan bob siâp ei osodiadau ei hun i newid y lliw, trwch, anhryloywder a mwy.
  • Sylw: Rhoi adborth mewn sylwadau. Mae eich sylwadau yn ymddangos mewn panel wrth ochr y cyflwyniad.

    Gall myfyrwyr gyrchu’r ffeiliau wedi’u hanodi ond ni fydd modd iddynt ychwanegu anodiadau yn eu cyflwyniadau.

  • Argraffu neu Lawrlwytho: Argraffu neu lawrlwytho’r cyflwyniad gyda'r anodiadau.

    Mae'n bosibl y bydd problem hysbys gyda dangosydd PDF mewnol rhai porwyr yn golygu na fydd pob un o'ch anodiadau'n dangos. Defnyddiwch wyliwr PDF brodorol fel Adobe Acrobat i edrych ar dogfennau PDF wedi'u hanodi.

  • Chwilio: Chwilio’r cyflwyniad am destun penodol.
  • Llyfrgell o Gynnwys: Creu banc o sylwadau y gellir eu hailddefnyddio. Gallwch ychwanegu, golygu, dileu a chwilio am sylwadau yn y llyfrgell. Gallwch hefyd ychwanegu sylw’n uniongyrchol at dudalen y cyflwyniad o'r ddewislen. Dewiswch yr arwydd plws i ychwanegu sylw newydd at y Llyfrgell o Gynnwys. Gallwch Rhoi sylw, Copïo i'r Clipfwrdd, Golygu, neu Dileu cynnwys o'r llyfrgell. Teipiwch allweddeiriau neu ymadroddion i chwilio am sylwadau a gadwyd.<

    Mae’r Llyfrgell o Gynnwys dim ond ar gael mewn amgylcheddau SaaS.

  • Amlygydd: Dewis rhannau penodol o’r cyflwyniad i’w hamlygu. Wrth i chi amlygu testun ar y cyflwyniad, bydd dewislen ychwanegol yn agor. Gallwch amlygu, rhoi llinell drwodd, tanlinellu, sgwiglo neu wneud sylw ar yr adran a amlygir.

Graddio aseiniad â therfyn amser 

Pan fyddwch yn caniatáu i fyfyrwyr weithio y tu hwnt i'r terfyn amser ar gyfer aseiniad, gallwch weld pa aseiniadau a aeth y tu hwnt i'r terfyn amser. Os ychwanegoch gwestiynau, gallwch hefyd weld faint o gwestiynau a atebwyd ar ôl y terfyn amser. 

Rhagor am raddio gwaith â therfyn amser 
 

Graddio a rhoi adborth gan ddefnyddio cyfarwyddiadau 

Gallwch greu cyfarwyddyd, ei gysylltu ag asesiad neu drafodaeth, a'i ddefnyddio ar gyfer graddio. Bydd y cyfarwyddyd yn ymddangos ar dudalen yr aseiniad neu drafodaeth a ddewisoch. Sylwer bod dim ond modd cysylltu un cyfarwyddyd â phob eitem. Ni allwch gysylltu cyfarwyddyd ag aseiniad sy'n cynnwys cwestiynau. 
 
Dysgu rhagor am greu cyfarwyddiadau 
Dysgu rhagor am raddio â chyfarwyddyd a rhoi adborth 
 

 Neilltuo gradd 

Dewiswch enwau myfyrwyr o'r dudalen Cyflwyniadau i gyrchu eu cyflwyniadau unigol, neilltuo graddau a rhoi adborth.  

Submissions page

 

Grade submissions


Gallwch hefyd gyrchu ymgais o wedd grid y Llyfr Graddau. 
 

Grid view from the Gradebook

 

Gwrthwneud graddau 

Mae graddau gwrthwneud yn raddau rydych yn eu neilltuo â llaw. Mae enghraifft yn cynnwys teipio yn y bilsen radd yn y Llyfr Graddau. Mae label gwrthwneud yn ymddangos wrth ochr y radd. 
 

Override grade option on a graded submission.


Os byddwch yn caniatáu ymgeisiau lluosog, pan fyddwch yn golygu'r radd derfynol ar gyfer eitem â llaw, rydych yn neilltuo gradd wrthwneud. 

Dysgu rhagor am wrthwneud graddau  
Dysgu rhagor am bils graddau 

Ychwanegu adborth 

I roi adborth, agorwch ymgais. Ar dudalen y cyflwyniad, dewiswch eicon y swigen siarad i agor y panel adborth. Mae’r panel yn parhau yn ei le wrth i chi sgrolio drwy'r aseiniad ac ychwanegu adborth cyffredinol a gradd. 
 

The Student's submission page is open with 1) an highlighted selected attempt, 2) the a highlighted "Feedback" icon, and 3) the feedback for a particular student panel displayed.


Mewnosod recordiad o'ch adborth yn y golygydd. Gallwch blannu recordiad sain neu fideo o'ch adborth yn y golygydd wrth i chi raddio ymgeisiau. Mae'r opsiwn recordio yn ymddangos yn y golygydd adborth ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau a raddir yn eich cwrs. Mae myfyrwyr yn gwylio neu'n gwrando ar eich adborth ochr yn ochr ag unrhyw destun rydych yn ei gynnwys. 

Ni chefnogir y nodwedd hon ar bob porwr. Am y profiad gorau, defnyddiwch Chrome neu Firefox. 

Rhagor am ychwanegu adborth sain/fideo 

 Cyhoeddi graddau 

 Gallwch gyhoeddi graddau o: 

  • Tudalen Graddau'r llywio sylfaenol 

  • Gwedd rhestr yr Eitemau Graddadwy yn y Llyfr Graddau 

  • Y dudalen Cyflwyniadau 

Access grading from the navigation menu

 

Gradable items view in the Gradebook

 

Grid view from the Gradebook

 

I gyhoeddi gradd, dewiswch Cyhoeddi gradd, sy'n ymddangos wrth ochr pob gradd nad ydych wedi'u rhyddhau eto. Gallwch ddewis y graddau i’w cyhoeddi a phryd. Mae graddau a gyhoeddwyd yn ymddangos gyda neges Cyhoeddwyd. Hefyd, gallwch raddio'r holl gyflwyniadau ar gyfer eitem ac wedyn dewis Cyhoeddi Pob Gradd i ryddhau'r holl raddau mewn un weithred. 

Pan fyddwch yn cyhoeddi graddau, gall myfyrwyr eu gweld ynghyd ag unrhyw adborth rydych yn ei ddarparu. Mae pob darn o adborth ar gyfer pob ymgais, hyd yn oed ymgeisiau heb eu graddio, yn cael eu dangos i fyfyrwyr. 
 
Cyhoeddi graddau'n awtomatig. Os ydych eisiau cyhoeddi graddau unwaith bod ymgais wedi'i raddio, dewiswch yr opsiwn Cyhoeddi graddau asesiadau yn awtomatig ym mhanel gosodiadau'r asesiad. Nid yw'r gosodiad hwn yn cael ei ddewis yn ddiofyn ar gyfer aseiniadau, ond mae'n cael ei ddewis ar gyfer profion newydd. I atal graddau rhag cael eu cyhoeddi'n awtomatig, dad-ddewiswch yr opsiwn hwn a chyhoeddi graddau â llaw. 
 

Post assessment grades automatically checkbox is shown on the test settings panel

 

Ychwanegu eithriadau. O dudalen cyflwyniad myfyriwr, agorwch y ddewislen nesaf i'r bilsen radd i ychwanegu eithriad ar gyfer yr aseiniad. Mae eithriad yn cynnwys ymgeisiau ychwanegol neu fynediad estynedig, hyd yn oed os yw'r aseiniad wedi'i guddio rhag myfyrwyr eraill. Gallwch hefyd ychwanegu eithriadau ar ôl i chi bostio graddau. 

Rhagor am eithriadau asesiadau

 

Assessment exception with a complete sign for a particular student.

Graddio all-lein

Os yw'n fwy cyfleus i chi, gallwch lawrlwytho cyflwyniadau myfyrwyr ar gyfer asesiadau a’u gweld all-lein.   
 
Dewiswch yr eicon lawrlwytho o’r adrannau hyn yn y llyfr graddau: 

  • Gwedd rhestr: Dewislen ".." tudalen Cyflwyniadau eitem yn rhes y pennyn 

  • Gwedd grid: Dewislen eitem 
     

Download assigmnents from the Gradebook

Rhagor am lawrlwytho cyflwyniadau