Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Archwilio'r dudalen cyrsiau

O'r rhestr lle mae’ch enw yn ymddangos, gallwch weld rhestr o'ch cyrsiau. Gallwch ddychwelyd i gyrsiau blaenorol i adolygu cynnwys, ailddefnyddio deunydd, a pharatoi eich cyrsiau yn y dyfodol.

Eich sefydliad sy'n rheoli pa dudalen sy’n ymddangos ar ôl i chi fewngofnodi.

Ar y dudalen Cyrsiau, gallwch gael mynediad at bob un o’ch cyrsiau. Mae pob cerdyn cwrs yn rhestru rhif adnabod y cwrs, teitl y cwrs a’r hyfforddwr. Os oes gan eich cwrs fwy nag un hyfforddwr, dewiswch Hyfforddwyr Lluosog i gael rhestr. Dewiswch Rhagor o wybodaeth i weld y disgrifiad ac amserlen, os ydynt wedi’u hychwanegu.

Mae cyrsiau sy'n gysylltiedig â thymor bob amser yn cael eu dangos dan y tymor hwnnw. Ond, sylwer y bydd cwrs sy'n gysylltiedig â thymor sydd ar gael i fyfyrwyr yn dangos y tymor presennol a'r tymor sy'n gysylltiedig ag ef.

Hidlo neu chwilio eich rhestr. Defnyddiwch y ddewislen Hidlo i addasu gwedd eich tudalen. Mae eich rhestr wedi'i hidlo yn aros fel y mae wrth i chi gyrchu cyrsiau. Os ydych yn mynd i dudalen arall, mae'r holl gyrsiau yn dangos unwaith eto. Defnyddiwch y swyddogaeth chwilio i ddod o hyd i gyrsiau ar y dudalen bresennol.

Pori yn ôl y tymor. Symudwch i gyrsiau blaenorol, cyrsiau cyfredol a chyrsiau sydd ar ddod. Os ydych yn addysgu llawer o gyrsiau, gallwch ddewis y nifer sy’n ymddangos ar bob tudalen. Ar waelod y rhestr, gwelwch ddewisydd tudalen i lywio trwy restrau hir.

Gweld eich hoff gyrsiau yn gyflym. Os ydych yn cael mynediad at gwrs yn aml, gallwch ddewis y botwm seren i ychwanegu’r cwrs at eich ffefrynnau er mwyn i'r cwrs ymddangos ar frig y rhestr. Gallwch ddewis y botwm seren unwaith eto i dynnu cwrs o’ch ffefrynnau.

Ni allwch aildrefnu'r cyrsiau yn y rhestr. Caiff y cyrsiau eu rhestru yn nhrefn yr wyddor a'u grwpio yn ôl tymor, gyda’r cyrsiau mwyaf newydd yn gyntaf. Bydd eich ffefrynnau'n ymddangos ar frig y dudalen.

Rheoli eich cyrsiau. Gallwch osod eich cyrsiau i’r cyflyrau hyn:

  • Agored. Gallwch agor cwrs pan fyddwch yn barod i fyfyrwyr gymryd rhan.
  • Preifat. Gallwch wneud cwrs yn breifat wrth i chi ychwanegu neu arbrofi gyda chynnwys, ac wedyn ei agor i fyfyrwyr pan fyddwch yn barod. Mae myfyrwyr yn gweld cyrsiau preifat ar eu rhestrau cwrs ond ni allant eu cyrchu.

    Ni allwch wneud cwrs yn breifat yn ystod tymor gweithredol. Os bydd angen mynediad ar ddefnyddiwr i gwrs preifat, cysylltwch â’ch gweinyddwr am osodiadau cwrs.

  • Cudd. Gallwch guddio cwrs ar eich rhestr o gyrsiau er mwyn trefnu beth allwch ei weld. Nid yw’r gweithgarwch ar gyfer cyrsiau cudd yn ymddangos mwyach yn y tudalennau byd-eang ar eich holl gyrsiau, megis Graddau. Dim ond hyfforddwyr sydd â'r opsiwn i guddio cyrsiau. I ddangos cwrs cudd, hidlwch y rhestr yn ôl Wedi’u cuddio oddi wrthyf > agorwch ddewislen cwrs > dewiswch Dangos cwrs.
  • Cyflawn. Gallwch ddewis pennu'ch cwrs fel Cyflawn pan fydd y cwrs wedi dod i ben, ond ni allwch wneud newidiadau iddo mwyach. Gall myfyrwyr gyrchu’r cynnwys, ond ni allant gymryd rhan yn y cwrs mwyach. Er enghraifft, ni allant ymateb i drafodaethau neu gyflwyno aseiniadau. Gallwch ddychwelyd y cwrs i statws Agored neu Breifat fel y dymunwch. Fodd bynnag, os oes gan gwrs ddyddiad gorffen, ac mae'r dyddiad gorffen wedi bod, ni fydd modd i fyfyrwyr gyrchu’r cwrs mwyach. Felly, os ydych yn cwblhau cwrs ac yn ei agor eto ar ôl y dyddiad gorffen, ni all myfyrwyr ei gyrchu.

    Rhagor am gwblhau cwrs neu wrthdroi'ch penderfyniad

Newid eich gwedd. Gallwch weld y dudalen Cyrsiau fel rhestr neu grid. Yn y wedd grid, gallwch bersonoli’r ddelwedd ar eich cardiau cwrs.

Y maint isaf ar gyfer delweddau yw 1200 x 240 picsel gyda chymhareb agwedd o 4:1. Defnyddiwch y mesur hwn i sicrhau'r ansawdd gorau. Agorwch y ddewislen yng nghornel de uchaf delwedd cerdyn cwrs a dewiswch Golygu delwedd y cwrs i uwchlwytho delwedd newydd.

Nid argymhellir testun ar gyfer delwedd y cerdyn cwrs. Os ydych yn defnyddio testun, lleolwch y testun yn ganolog yn fertigol ac yn llorweddol yn y ddelwedd. Amlapiwch destun hwy ar draws nifer o linellau fel na thorrir y testun i ffwrdd yn nhorbwyntiau llai.


Sut mae tymhorau'n gweithio?

Cyfnodau penodol o amser yw tymhorau sy'n helpu sefydliadau i drefnu cyrsiau yn ôl y calendr academaidd. Efallai bydd eich sefydliad yn defnyddio tymhorau i rwpio cyrsiau a rheoli argaeledd mewn sympau.

Mae dyddiad dechrau a gorffen y tymor yn rheoli lle mae cyrsiau cysylltiedig yn ymddangos ar y dudalen Cyrsiau :

Tabl yn dangos gwelliannau rhesymeg dangos tymhorau
Hyd y Cwrs Aliniad Tymor
Parhaus Tymor presennol

Dewis dyddiadau:

          Mae'r dyddiad presennol yn hafal i neu ei fod rhwng y dyddiad dechrau a'r dyddiad gorffen

          Mae'r dyddiad presennol cyn y dyddiad dechrau

          Mae'r dyddiad presennol ar ôl y dyddiad gorffen

 

Tymor presennol

Tymor yn y dyfodol

Tymor yn y gorffennol

Diwrnodau ers diwedd y cyfnod cofrestru

          Myfyrwyr a gwesteion sydd â diwrnodau sy'n weddill

          Myfyrwyr a gwesteion heb ddiwrnodau sy'n weddill

          Defnyddwyr nad ydynt yn fyfyrwyr na gwesteion

 

Tymor presennol

Tymor yn y gorffennol

Y tymor presennol os nad yw'n gysylltiedig â thymor yn y gorffennol neu ddyfodol

Hyd y Cwrs - Defnyddio Hyd y Tymor

Parhaus

Dewis Dyddiadau

          Mae'r dyddiad presennol yn hafal i neu ei fod rhwng dyddiad dechrau a'r dyddiad gorffen y Tymor

          Mae'r dyddiad presennol cyn dyddiad dechrau'r Tymor

          Mae'r dyddiad presennol ar ôl dyddiad gorffen y Tymor

Diwrnodau ers diwedd y cyfnod cofrestru

          Myfyrwyr a gwesteion sydd â diwrnodau sy'n weddill

          Myfyrwyr a gwesteion heb ddiwrnodau sy'n weddill

          Defnyddwyr nad ydynt yn fyfyrwyr na gwesteion


Tymor presennol

 

Tymor presennol

Tymor yn y dyfodol

Tymor yn y gorffennol

 

Tymor presennol

Tymor yn y gorffennol

Tymor presennol

  • Os yw cyfnod y tymor wedi dod i ben, bydd y cwrs yn ymddangos yn Cyrsiau Blaenorol gydag enw'r tymor fel teitl y dudalen. Ni fydd gan eich myfyrwyr fynediad at y cyrsiau hyn.
  • Os yw hyd tymor yn dal i fynd ar hyn o bryd, bydd y cwrs yn ymddangos yn Cyrsiau Presennol gydag enw'r tymor fel grŵp.
  • Os yw dyddiadau dechrau a gorffen y tymor yn y dyfodol, bydd y cwrs yn ymddangos yn Cyrsiau ar Ddod gydag enw'r tymor fel grŵp. Ni fydd gan eich myfyrwyr fynediad at y cyrsiau hyn.

Os nad yw'ch cwrs wedi'i gysylltu â thymor penodol neu os yw'n defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen personol a'i fod yn weithredol ar hyn o bryd, mae’n ymddangos yn y grŵp Dyddiadau amrywiol ar y dudalen Cyrsiau Presennol. Mae cyrsiau nad ydynt yn digwydd yn ystod y tymor yn cael eu labelu yn ôl blwyddyn ar y dudalen Cyrsiau Blaenorol pan fyddant yn dod i ben neu ar y dudalen Cyrsiau ar Ddod os ydynt yn dechrau yn y dyfodol.

Mae gennych y gallu i reoli hyd cwrs trwy Gosodiadau Cwrs, yng nghornel dde uchaf eich cwrs.

Rhagor am reoli Hyd Cwrs

Rhagor am reoli Argaeledd Cwrs

Ar gyfer gweinyddwyr: Mae modd gwneud addasiadau i osodiadau cwrs o'r rhyngwyneb Golygu Cwrs yn y panel gweinyddydd yn ogystal â Gosodiadau Cwrs mewn cwrs. Bydd addasu Hyd Cwrs a/neu Hyd Tymor yn effeithio ar resymeg dangos tymhorau.


Pori’r Catalog Cyrsiau

Gallwch ddefnyddio'r catalog cyrsiau i bori’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn eich sefydliad. Gallwch ddod o hyd i ddolen y Catalog Cyrsiau ar y dudalen Cyrsiau.

Yn y catalog, gallwch chwilio am gyrsiau yn ôl y meysydd canlynol:

  • ID y Cwrs
  • Enw'r Cwrs
  • Disgrifiad o'r Cwrs
  • Hyfforddwr y Cwrs
  • Tymor y Cwrs

Ar ôl i chi ddewis y math o ffeil, cyflwynwch derm neu ymadrodd i chwilio yn ei ôl. Yn ddiofyn, bydd y teclyn chwilio yn chwilio am unrhyw gwrs sy’n cynnwys yr ymadrodd a gyflwynwyd gennych. Gallwch newid y gweithrediad hwn i chwilio am gyrsiau sy’n hafal i neu'n dechrau gyda’ch term chwilio yn lle hynny. Gallwch hefyd glicio ar Nid yw'n wag i weld y rhestr lawn o’r cyrsiau sydd ar gael.

Dewiswch Mynd i ddechrau eich chwiliad. Os yw'ch rhestr o ganlyniadau yn rhy hir, gallwch fireinio'r canlyniadau gan ddefnyddio'r hidlydd Dyddiad Creu. Dewiswch ddyddiad a nodwch os gafodd y cwrs ei greu cyn neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Dewiswch gwrs yn y canlyniadau i weld rhagolwg o'r cynnwys. Os yw'r cwrs yn caniatáu hunan-gofrestru, gallwch chi neu eich myfyrwyr gofrestru ar y cwrs ar unwaith. Yn y catalog cyrsiau, agorwch ddewislen cwrs a dewiswch Cofrestru.