Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Wrthi’n adeiladu cwricwlwm? Nid oes angen dechrau o'r dechrau.

Mae creu cynnwys ar gyfer eich cyrsiau yn cymryd amser a chynllunio meddylgar. Os ydych yn dysgu nifer o gyrsiau sy'n defnyddio cynnwys tebyg, efallai y byddwch am gopïo eitemau cynnwys a ffolderi rhwng cyrsiau i arbed amser. Yn y Wedd Cwrs Ultra, gallwch gopïo cynnwys o gyrsiau eraill rydych yn eu dysgu, felly ni fydd rhaid i chi ddechrau o'r newydd.

Gallwch ddewis copïo darnau lluosog o gynnwys ar draws eich cyrsiau, gan gynnwys yr holl gynnwys mewn un cwrs. Dechreuwch arni o dudalen Cynnwys y Cwrs.

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fudiadau hefyd.

Darllen rhagor am:

Yn Learn Ultra, gallwch gopïo cyrsiau cyfan a/neu ddewis eitemau unigol o gyrsiau eraill rydych yn eu dysgu ar hyn o bryd neu rydych wedi eu dysgu yn y gorffennol. 

Copïo cwrs cyfan 

Cam 1. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch y ddewislen tri dot wrth ochr yr opsiwn chwilio ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch Copïo Eitemau o'r ddewislen.

Course Content page with edit menu

Cam 2. Dewiswch y bar chwilio i ddod o hyd i gwrs yn ôl ei enw neu ei rif adnabod. Gallwch hefyd chwilio am Fudiadau trwy glicio ar y tab Mudiadau

Cam 3. Dewiswch flwch ticio wrth ochr enw'r cwrs i greu copi o'r cwrs cyfan.  

Sylwer: Ni allwch greu copi o gwrs cyfan o'r cwrs rydych yn gweithio ynddo ar hyn o bryd. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi llywio allan o'r cwrs rydych am greu copi o'r cwrs cyfan ar ei gyfer cyn ei gopïo. Pan fyddwch yn creu copi o gwrs cyfan, cedwir pob gosodiad (gan gynnwys dyddiadau cyflwyno, statysau gwelededd ac amodau rhyddhau). 

Cam 4. Dewiswch Dechrau Copïo

Sylwer: Mae copïo'n broses sy'n digwydd mewn ciw. Mae'r troellwr sy'n ymddangos ar waelod tudalen Cynnwys y Cwrs yn wiriad sy'n digwydd pob pum eiliad i weld a yw'r broses copïo wedi gorffen. Ar ôl iddi orffen, bydd tudalen Cynnwys y Cwrs yn cael ei hadnewyddu, a bydd yr eitemau a gopïwyd yn ymddangos ar waelod tudalen Cynnwys y Cwrs. Nid oes angen i chi aros ar dudalen Cynnwys y Cwrs er mwyn prosesu'r copi. Mae'r rhan fwyaf o'r copïau yn cael eu cwblhau o fewn 25 eiliad. 

Copïo eitemau cwrs unigol

Cam 1. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch y ddewislen tri dot wrth ochr yr opsiwn chwilio ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch Copïo Eitemau o'r ddewislen. 

Course Content page with edit menu

Cam 2. Dewiswch y bar chwilio i ddod o hyd i gwrs yn ôl ei enw neu ei rif adnabod. Gallwch hefyd chwilio am Fudiadau trwy glicio ar y tab Mudiadau

Cam 3. Dewiswch enw cwrs i weld yr eitemau sydd ar gael i'w copïo. Dylech weld y categorïau canlynol: 

  • Cynnwys: Eitemau sydd wedi'u rhestru ar y tab Cynnwys ar gyfer y cwrs hwnnw. 
  • Trafodaethau: Eitemau sydd wedi'u rhestru ar y tab Trafodaethau ar gyfer y Cwrs hwnnw. 
  • Banciau Cwestiynau: Pob Banc Cwestiynau sydd ar gael ar gyfer y cwrs hwnnw. 
  • Cyfarwyddiadau: Pob Cyfarwyddyd sydd ar gael ar gyfer y cwrs hwnnw.

Cam 4. Dewiswch gategori i weld yr eitemau sydd ar gael i'w copïo. 
Cam 5. Dewiswch yr eitemau yr hoffech eu copïo.  

Sylwer: Nid oes modd copïo dolenni cwrs sydd y tu mewn i fodiwlau dysgu sydd â dilyniant gorfodol. Mae hyn yn atal defnyddwyr rhag llywio y tu allan i'r opsiwn dilyniant gorfodol. Pan fyddwch yn copïo dolen gwrs, caiff yr holl gynnwys cysylltiedig ei gopïo hefyd.  

Cam 6. Dewiswch Dechrau Copïo.  

Sylwer: Mae copïo'n broses sy'n digwydd mewn ciw. Mae'r troellwr sy'n ymddangos ar waelod tudalen Cynnwys y Cwrs yn wiriad sy'n digwydd pob pum eiliad i weld a yw'r broses copïo wedi gorffen. Ar ôl iddi orffen, bydd tudalen Cynnwys y Cwrs yn cael ei hadnewyddu, a bydd yr eitemau a gopïwyd yn ymddangos ar waelod tudalen Cynnwys y Cwrs. Nid oes angen i chi aros ar dudalen Cynnwys y Cwrs er mwyn prosesu'r copi. Mae'r rhan fwyaf o'r copïau yn cael eu cwblhau o fewn 25 eiliad. 

Copïo o'r Wedd Cwrs Gwreiddiol

Yn Learn Ultra, gallwch gopïo cyrsiau cyfan a/neu ddewis eitemau unigol o'ch cyrsiau yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Pan gaiff ei gopïo i gwrs sy'n defnyddio'r Wedd Cwrs Ultra, caiff y cynnwys ei drosi. 

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen a dewiswch Copïo Cynnwys. Neu agorwch y ddewislen i'r dde uwchben y rhestr cynnwys. Dewiswch Copïo Eitemau. Bydd y panel Copïo Eitemau yn agor. 

Mae'r tabl isod yn amlinellu sut mae mathau o gynnwys yn cael eu trosi o'r Wedd Cwrs Gwreiddiol i'r Wedd Cwrs Ultra. Nid yw eitemau sydd wedi'u labelu fel N/A yn cael eu trosi. Nid oes modd dewis yr eitemau hyn i'w copïo neu byddant yn cael eu fflagio fel eithriadau. 

Mathau o gynnwys a nodweddion a gefnogir
MATH O GYNNWYS Y WEDD CWRS GWREIDDIOL MAE'N CAEL EI DROSI YN COPÏO'R CWRS CYFAN COPÏO EITEM UNIGOL
Baner Cwrs Delwedd y Cwrs YDY NAC YDY
Maes Cynnwys Dewislen Cwrs Ffolder YDY YDY
Tudalen Wag Dewislen Cwrs Dogfen YDY YDY
Tudalen Modiwl Dewislen Cwrs N/A N/A N/A
Dolen Offeryn Dewislen Cwrs N/A N/A N/A
Dolen Gwrs Dewislen Cwrs N/A N/A N/A
Is-bennawd Dewislen Cwrs  N/A N/A N/A
Rhannwr Dewislen Cwrs N/A N/A N/A
Eitem Dogfen YDY YDY
Ffeil Ffeil YDY YDY
Sain Ffeil YDY YDY
Delwedd Ffeil YDY YDY
Fideo Ffeil YDY YDY
Dolen We Dolen We YDY YDY
Modiwl Dysgu Modiwl Dysgu YDY YDY
Cynllun Gwers Ffolder YDY YDY
Maes Llafur N/A N/A N/A
Pecyn Cynnwys (SCORM) Pecyn SCORM YDY YDY
Ffolder Cynnwys Ffolder YDY YDY
Tudalen Wag Dogfen YDY YDY
Cyfuniad Flickr Dolen We YDY YDY
Prawf Prawf YDY YDY
Cronfa Gwestiynau Banc Cwestiynau YDY YDY
Arolwg N/A N/A N/A
Aseiniad Aseiniad YDY YDY
Hunan Adolygiad ac Adolygiad gan Gyfoedion N/A N/A N/A
Blog N/A N/A N/A
Dyddlyfr Dyddlyfr YDY YDY
Wikis N/A N/A N/A
Fforwm Trafod gyda "caniatáu i aelodau greu edeifion newydd" wedi'i ddewis. Trafodaeth YDY NAC YDY
Fforwm Trafod gyda "caniatáu i aelodau greu edeifion newydd" heb ei ddewis. Ffolder YDY NAC YDY
Edeifion Trafod o fewn Fforwm gyda "caniatáu i aelodau greu edeifion newydd" heb ei ddewis. Trafodaeth YDY NAC YDY
Cyhoeddiadau Cyhoeddiadau YDY NAC YDY
Nodau Nodau YDY NAC YDY
Cyfarwyddiadau Cyfarwyddiadau YDY YDY
Categorïau Categorïau YDY NAC YDY
Sgemâu Graddio Sgemâu Graddio YDY NAC YDY

Dewiswch gynnwys i’w gopïo

Gallwch gopïo'r holl gynnwys, neu eitemau unigol dethol, o'r cyrsiau eraill rydych yn eu dysgu. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen a dewiswch Copïo Cynnwys. Neu agorwch y ddewislen i'r dde uwchben y rhestr cynnwys. Dewiswch Copïo Cynnwys. Mae'r panel Copïo Cynnwys yn agor.

Nid yw'r opsiwn Copïo Cynnwys ar gael ar gyfer cyrsiau ym modd rhagolwg Ultra. Gallwch ddim ond copïo cynnwys o gyrsiau eraill yn y Wedd Cwrs Ultra. Os ydych eisiau copïo cwrs ym modd rhagolwg Ultra, dychwelwch y trosiad i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol neu gwblhau trosi i'r Wedd Cwrs Ultra.

Ni chynhwysir data presenoldeb wrth i chi gopïo cwrs i gwrs newydd neu gwrs sydd eisoes yn bodoli.

Rhagor am bresenoldeb a chopïo cynnwys

Course Content page with edit menu dropdown and plus icon highlighted.
  1. Yn y panel Copïo Cynnwys, bydd pob un o'ch cyrsiau yn ymddangos yn y rhestr Eich Cyrsiau a Mudiadau. Os ydych yn addysgu nifer o gyrsiau, gallwch chwilio i ddod o hyd i gyrsiau yn ôl enw neu ID cwrs.
  2. Adeiladwch eich rhestr o gynnwys i’w gopïo:
    • Copîö cwrs cyfan. Dewiswch flwch ticio cwrs i gopïo holl gynnwys y cwrs i’r cwrs presennol.
    • Copïo eitemau cwrs dethol. Dewiswch enw cwrs i archwilio cynnwys y cwrs a dewiswch y blychau ticio wrth ochr y ffolderi a'r eitemau rydych eisiau eu copïo.
    • Cyfuno eitemau mewn sawl cwrs. Gallwch gopïo'r holl gynnwys o un cwrs ac eitemau dethol o gyrsiau eraill hefyd. Defnyddiwch yr opsiwn Copïo Cynnwys i gopïo cynnwys o fwy nag un cwrs ar y tro.
  3. Yn yr adran Eitemau a Ddewiswyd ar waelod y panel, dewiswch Gweld Popeth i adolygu’ch dewisiadau a chlirio'r blychau ticio nesaf at unrhyw eitemau nad ydych eisiau eu copïo.
  4. I fynd yn ôl i'r rhestr o gyrsiau a mudiadau, dewiswch yr X wrth ochr Eitemau a Ddewiswyd yn y bar du ar frig y panel.
Copy items panel with two courses displayed

Mae blychau ticio yn ymddangos yn wahanol pan fyddwch yn dewis cyrsiau cyfan neu eitemau cwrs unigol. Mae tic yn dangos eich bod wedi dewis y cwrs cyfan i’w gopïo. Mae llinell yn dangos eich bod wedi dewis rhai darnau o gynnwys mewn cwrs. Pan fyddwch yn gweld yr eitemau mewn cwrs, dewiswch yr eicon llyfr i agor dewislen i lywio’n ôl i’r rhestr o’ch cyrsiau a mudiadau.

course items panel with course items ready for copy

Barod i gopïo? Ar ôl ichi gwblhau eich detholiadau, dewiswch Copïo'r Cynnwys a Ddetholwyd ac mae'r copïo yn dechrau. Mae dangosyddion statws ar dudalen Cynnwys y Cwrs yn dangos y cynnydd. Bydd neges lwyddiant yn ymddangos pan fydd y weithred wedi'i chwblhau. Ychwanegir y cynnwys a gopïwyd at ddiwedd y rhestr gynnwys.


Problemau ac eithriadau wrth gopïo cynnwys

Os yw'r system yn profi problemau ynghylch copïo cynnwys, bydd adroddiad gwall yn ymddangos ar frig tudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch Gweld yr Eithriadau i ddysgu rhagor ynghylch pam mae copïo'r cynnwys wedi methu.

Ar banel yr Adroddiad Eithriadau, gallwch weld eithriadau yn ôl categori. Dewiswch gategori i weld rhestr o eitemau na chawsant eu copïo ac esboniad byr.  Ar gyfer rhai eithriadau, efallai y bydd angen i chi greu'r eitem hon â llaw yn eich cwrs newydd. Er enghraifft, nid yw Arolygon na Wikis yn cael eu trosi. Ar gyfer Arolygon, efallai y byddwch eisiau eu disodli gyda Google Forms neu Microsoft Forms. Ar gyfer Wikis, efallai y byddwch eisiau defnyddio integreiddiad Microsoft neu Google ar gyfer achosion defnydd Cydweithio. 


Gosodiadau gwelededd wrth gopïo cynnwys

Pan fyddwch yn copïo cynnwys cwrs cyfan, caiff y gosodiadau gweladwyedd eu cadw pan ychwanegir y cynnwys at y cwrs newydd. Er enghraifft, mae cynnwys cudd yn y cwrs a gopïwyd wedi'i guddio yn y cwrs y gwnaethoch ei gopïo iddo. Mae'r cynnwys wedi'i osod i Wedi’i Guddio rhag myfyrwyr os ydych yn copïo eitemau unigol i'ch cwrs.

Adolygwch bob eitem sydd wedi'i chopïo er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr weld y cynnwys rydych am ei ddangos. Gallwch ddefnyddio Swp-olygu i ddiweddaru gwelededd ar yr un pryd.

Rhagor am Swp-olygu

Rhesymeg nythu a gwastatáu cynnwys yn Ultra  

Mae nythu cynnwys yn cyfeirio at sut mae modd cynnwys eitemau o fewn eitemau cynnwys eraill ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Yn ddiofyn, mae cyrsiau yn y Wedd Cwrs Ultra yn cefnogi hyd at dri lefel o hierarchaeth ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Er enghraifft, mae ffolder mewn ffolder yn ddau lefel. Mae ffolder mewn ffolder mewn modiwl dysgu yn enghraifft o dri lefel. Mae hyn yn wahanol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol, nad oedd ganddi unrhyw gyfyngiadau ar nifer y lefelau roedd modd eu defnyddio. Mae'r newid hwn yn symleiddio strwythurau cyrsiau i wella profiad myfyrwyr. Gall eich sefydliad ddewis ychwanegu lefel ychwanegol o nythu cynnwys. Gofynnwch i'ch gweinyddwr Ultra a yw eich sefydliad yn defnyddio'r opsiwn hwn. 

Mae'r broses gwastatáu yn cyfeirio at sut mae modd symud eitemau wrth eu copïo, eu mewngludo, neu eu trosi'n gyrsiau Ultra. Mae'r broses yn symud eitemau sydd â dyfnder sy'n fwy na dau i'r lefel isaf a gefnogir mewn cyrsiau Ultra. Ar gyfer sefydliadau sydd wedi dewis trydydd lefel o ddyfnder, bydd eitemau sydd â dyfnder sy'n fwy na thri yn symud i'r lefel isaf a gefnogir.  

Gall hyn achosi anawsterau wrth drosi cwrs o'r Wedd Cwrs Gwreiddiol i'r Wedd Cwrs Ultra. Mae cynnwys ar lefelau dyfnach yn cael ei symud i'r lefel isaf a gefnogir yn y Wedd Cwrs Ultra. Gall hyn arwain at ffolderi gwag ac eitemau sy'n anodd eu canfod ar y lefel isaf a gefnogir. Er mwyn atal hyn: 

  • Mae Modiwlau Dysgu bob amser yn cael eu symud i'r lefel uchaf ar dudalen Cynnwys y Cwrs
  • Mae ffolderi yn cael eu symud i'r lefel uchaf sydd ei angen er mwyn sicrhau nad yw eitemau plant yn symud. 

Bydd hyn yn eich helpu i drefnu cynnwys sydd wedi'i symud ar ôl i gwrs gael ei drosi.