Mae'r Dangosfwrdd Perfformiad yn offeryn gwerthfawr y gallwch ei defnyddio i fonitro cynnydd myfyrwyr trwy gydol eich cwrs. Ar y dudalen hon, bydd tabl crynodeb yn dangos hanes mynediad a chynnydd pob myfyriwr. Wrth i’r tymor fynd rhagddo, mae modd ichi weld yn gyflym a yw’ch myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs yn rheolaidd, adolygu cynnwys y cwrs ac yn cyfrannu at y bwrdd trafod. Gall yr wybodaeth hon eich helpu i nodi myfyrwyr sydd tu allan i’r ystod arfer

Eich sefydliad sy’n rheoli argaeledd y Dangosfwrdd Perfformiad. Gall eich sefydliad analluogi’r bwrdd trafod hefyd, a fydd yn effeithio ar ba wybodaeth sy’n ymddangos yn y Dangosfwrdd Perfformiad.

Gweld ystadegau trafodaethau

Panel Rheoli > Gwerthuso > Dangosfwrdd Perfformiad

  1. Ar dudalen y Dangosfwrdd Perfformiad, gallwch weld y nifer o fforymau y mae defnyddiwr wedi postio ynddynt. Yng ngholofn y Bwrdd Trafod, dewiswch ddolen â rhif i weld y manylion.
  2. Mae’r wybodaeth hon yn ymddangos ar dudalen y Bwrdd Trafod.

    I hidlo cofnodion yn ôl colofn, dewiswch bennawd y golofn.

    • Fforwm: Yn rhestru’r holl fforymau mae defnyddiwr wedi postio ynddynt.
    • Cyfanswm y Postiadau: Cliciwch ar y ddolen i weld y dudalen sy’n dangos pyst defnyddiwr yn y fforwm hwnnw.
    • Dyddiad y Postiad Diwethaf: Gweld pryd aeth defnyddiwr i’r fforwm diwethaf.
    • Hyd Postiad ar Gyfartaledd: Yn rhestru hyd cyfartalog postiadau, mewn nifer o nodau.
    • Hyd Lleiaf Postiad: Yn rhestru isafswm hyd post, mewn nifer o nodau.
    • Hyd Hiraf Postiad: Yn rhestru uchafswm hyd post, mewn nifer o nodau.
    • Safle Postiad ar Gyfartaledd: Gweld cynrychiolaeth o gyfranogiad defnyddiwr yn yr edefynnau.
    • Gradd: Dewiswch y ddolen yn y golofn i weld colofn y Ganolfan Raddau, os bydd gradd yn ymddangos.
  3. Yng ngholofn y Fforwm, dewiswch deitl fforwm i weld tudalen sy’n dangos pob un o byst defnyddiwr yn y fforwm hwnnw.

Gallwch chi gyfathrebu ag aelod o’r dosbarth ar y dudalen hon hefyd. I anfon e-bost o dudalen y Bwrdd Trafod, dewiswch E-bostio Defnyddiwr.