Mae'r pwnc help hwn yn rhoi manylion ar Lansiwr Blackboard Collaborate sydd ar gael yn  fersiynau 4.4 a hwyrach o Building Block Blackboard Collaborate.

Os na allwch lansio Blackboard Collaborate gyda’ch ffeil .collab, darllenwch y pynciau canlynol, yn eu trefn, i ddatrys y broblem.

I ddod o hyd i erthyglau defnyddiol eraill a'r Cwestiynau Cyffredin, agorwch Sail Wybodaeth Collaborate a chwiliwch am "lansiwr".


Cadarnhau bod lansiwr Collaborate wedi'i osod

Fel defnyddiwr tro cyntaf, pan fyddwch yn dewis Ymuno â'r Ystafell ar dudalen Manylion yr Ystafell neu ddolen recordiad yn nhabl Recordiadau, bydd Blackboard Collaborate yn rhoi proc i chi lawrlwytho'r lansiwr. Mae'ch porwr yn ceisio canfod y lansiwr er mwyn gweld a ydyw eisoes wedi'i osod. Os fydd eich porwr yn canfod lansiwr Collaborate, bydd angen i chi anwybyddu ffenestr naid Tro cyntaf yn defnyddio Blackboard Collaborate? y tro nesaf i chi ymuno â sesiwn neu chwarae recordiad.

Fodd bynnag, efallai ni fydd eich porwr yn canfod eich bod eisoes wedi gosod y lansiwr os:

  • Roeddech wedi clirio eich cache a briwsion y tro diwethaf y gadawoch eich porwr.
  • Ydych yn defnyddio pori diogel neu breifat.
  • Gosodoch y lansiwr gan ddefnyddio un porwr ond nawr rydych yn lansio sesiwn neu recordiad mewn porwr arall.

I gadarnhau bod y lansiwr wedi ei osod, edrychwch am y rhaglen ar eich system:

  • Ar Windows: Enw'r lansiwr yw Win32Launcher.exe. Mae lleoliad y rhagosodiad yn y cyfeirlyfr canlynol:

    C:\Users\<username>\AppData\Local\Programs\Blackboard\Blackboard Collaborate Launcher

    Fel arall, edrychwch ar raglen Lansiwr Blackboard Collaborate yn y Panel Rheoli, dan Rhaglenni a Nodweddion, neu yn y ddewislen Cychwyn.

    Gall defnyddwyr Windows 8 neu'n hwyrach ddod o hyd i'r lansiwr ar dudalen Cychwyn yng ngwedd Metro.

  • Ar Mac: Enw'r lansiwr yw Lansiwr Blackboard Collaborate. Lleoliad diofyn y gosodiad yw eich ffolder Lawrlwythiadau. Fodd bynnag, wrth agor ffolder .collab roedd gennych yr opsiwn i'w symud i'ch ffolder Rhaglenni yn lle, felly gwiriwch yno hefyd.

Os nad oes gennych y lansiwr, bydd angen i chi ei osod.


Dewiswch raglen ar gyfer ffeiliau .collab

Efallai na fydd eich cyfrifiadur yn gwybod pa raglen sydd angen i agor ffeiliau .collab. Fel arfer, unwaith y bydd y lansiwr wedi ei osod, mae’r cysylltiad ffeil rhyngddo a ffeiliau .collab wedi ei sefydlu yn barod. Fodd bynnag, os na wnaethpwyd y cysylltiad, gallwch ei wneud naill ai trwy’ch system weithredu neu, os ydych chi’n ddefnyddiwr Firefox, trwy’ch porwr.

System Gweithredu

Am gyfarwyddiadau ar sut i gysylltu'r ffeiliau trwy eich system weithredu, agorwch ein Sail Wybodaeth Collaborate a chwiliwch am "cysylltu ffeiliau".

Firefox

Windows

Crëwch y cysylltiad ffeil trwy’ch Opsiynau Firefox.

  1. O ddewislen Offer, dewiswch Opsiynau ac yna'r tab Rhaglenni.
  2. Ar gyfer y Math o Gynnwys Sesiwn Blackboard Collaborate, dewiswch Defnyddio un arall... yn y golofn Gweithred.
  3. Yn ffenestr Dewis y Rhaglen Gynorthwyol, dewiswch Lansiwr Blackboard Collaborate.

Mac

Crëwch y cysylltiad ffeil trwy’ch Dewisiadau Firefox.

  1. O ddewislen Firefox, dewiswch Dewisiadau ac yna tab Rhaglenni.
  2. Ar gyfer y Math o Gynnwys ffeil collab, dewiswch Defnyddio un arall... yn y golofn Gweithred.
  3. Yn ffenestr Dewis y Rhaglen Gynorthwyol, dewiswch Lansiwr Blackboard Collaborate.

Clirio'r storfa

Os ydych wedi gosod y lansiwr a gosod y cysylltiad ffeil, ond yn dal i gael trafferth wrth lansio’ch ffeil .collab, ceisiwch glirio storfa Java’r lansiwr.

  1. Agor y rhaglen lansio.
  2. Agorwch y tab Uwch a dewiswch Clirio'r Storfa.

Ailosod lansiwr Collaborate

Os yw datrysiadau datrys problemau eraill wedi methu, dadosodwch ac ailosod y lansiwr.

Dadosod y lansiwr

Cyn i chi ailosod y lansiwr, dadosodwch y fersiwn bresennol o’r gosodwr.

  • Ar Windows, agorwch Rhaglenni a Nodweddion yn eich Panel Rheoli a dadosodwch Lansiwr Blackboard Collaborate.
  • Ar Mac, agorwch eich ffolder Lawrlwythiadau, neu ffolder Rhaglenni os mai dyma lle roddoch chi'r rhaglen lansio, a llusgwch Lansiwr Blackboard Collaborate i'ch Bin Sbwriel.

Ailosod y lansiwr

Mae dwy ffordd i lawrlwytho gosodwr y lansiwr: