Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Beth yw baneri cwrs a sut maent yn gweithio?
Fel hyfforddwr, gallwch chi a defnyddwyr gweinyddol uwchlwytho delwedd i'w defnyddio fel mân-lun ar y dudalen Cyrsiau yn y Llywio Sylfaenol. Hefyd, gellir ei defnyddio fel y Faner Cwrs fewnol o fewn eich cyrsiau Ultra.
Gyda baneri cwrs, rydych yn:
- Gwella golwg tudalennau glanio'r Wedd Cwrs Ultra.
- Gwella ymgysylltiad a phrofiad myfyrwyr.
- Cael cysondeb rhwng yr hyn mae'r Llywio Sylfaenol yn ei ddangos a'r cwrs ei hun.
- Helpu eich myfyrwyr i wahaniaethu rhwng cyrsiau a dod o hyd i fanylion cyrsiau.
- Ei gwneud yn haws i chi ychwanegu amserlen cwrs, ac i'ch myfyrwyr adnabod aelodau staff addysgu cwrs a diwrnodau, amseroedd a lleoliadau cyfarfodydd y dosbarth.
Gosod baner ar gyfer eich cwrs
- Dewiswch ddelwedd sy'n ddeniadol ac ystyrlon ar gyfer eich cwrs. Y maint isaf a argymhellir ar gyfer y delwedd y faner yw: 1200 x 240 picsel. Gweler y Meintiau a argymhellir isod
- Yn eich cwrs, ewch i Delwedd y Cwrs yn y ddewislen ar yr ochr chwith.
- Fel arall, gallwch agor panel Delwedd y Cwrs drwy ddewis y ddewislen tri dot yng nghornel de uchaf eich cwrs. Dewiswch Golygu Delwedd y Cwrs a pharhau:
- Uwchlwythwch y ddelwedd newydd.
- Rhowch y ddelwedd yn y safle o'ch dewis gan ddefnyddio botymau'r llygoden neu'r bysellau saethau. Gallwch hefyd bellhau a nesáu gan ddefnyddio'r llithrydd ar waelod y ffenestr foddol. Bydd y swyddogaeth hon yn gweithio hyd yn oed os byddwch yn penderfynu nad ydych eisiau cynnwys baner yn eich cwrs Ultra.
- Dewiswch y botwm Wedi Gorffen pan fyddwch yn barod.
- Bydd y ddelwedd yn llwytho ymhen ychydig eiliadau, gan ddibynnu ar eich cysylltiad â'r rhyngrwyd.
- Trowch y togl yn y cornel de uchaf ymlaen i ddangos y ddelwedd yn eich cwrs fel baner.
- Gallwch ddefnyddio'r blwch ticio i farcio eich delwedd fel addurniadol neu ddarparu disgrifiad o'r ddelwedd ar gyfer darllenyddion sgrin. Gweler eu pwysigrwydd yn yr adran isod.
- Dewiswch y botwm Cadw pan fyddwch yn barod.
- Gallwch olygu eich delwedd unrhyw bryd, gan ddefnyddio'r eicon pensil (Golygu) yng nghornel de uchaf y faner. Gallwch hefyd ddewis Golygu'r gosodiadau dangos dan Delwedd y Cwrs ym mhrif wedd y cwrs.
- Defnyddir y ddelwedd yng ngherdyn eich cwrs.
Gallwch ddefnyddio delwedd y cerdyn cwrs o'r Llywio Sylfaenol fel baner cwrs yng nghyrsiau Ultra.
Meintiau a argymhellir*
- Y maint isaf a argymhellir ar gyfer y delwedd y faner yw: 1200 x 240 picsel.
- Nid yw delweddau â thestun yn cynyddu nac yn lleihau'n dda.
- Ar gyfer baneri, mae'r lled gweladwy a argymhellir yn amrywio o 950 i 1200 o bicseli. Mae'r uchder gweladwy a argymhellir yn amrywio o 150 i 240 o bicseli.
- Ar gyfer cardiau cyrsiau, mae'r uchder gweladwy a argymhellir yn 240 o bicseli bob amser. Mae'r lled gweladwy yn amrywio o 550 i 1100 o bicseli.
- Cadwch y prif gynnwys yn y canol, ar 550 x 150 o bicseli o faner 1200 x 240 o bisceli, i sicrhau gweladwyedd. Efallai caiff unrhyw beth y tu allan i'r ardal 550 x 150 o bicseli ganolog ei docio ar wahanol feintiau sgrin ar gyfer cerdyn y cwrs neu'r faner.
- Byddai delwedd haniaethol neu ddelwedd gyda ffocws yn y canol yn gweithio'n orau fel baner, oherwydd amrywioldeb tocio.
*A ddarparwyd yn garedig gan Stephanie Richter, aelod o'n Cymuned Blackboard.
Disgrifiad o'r ddelwedd a delweddau addurniadol
Mae elfennau gweledol cyrsiau yn ddefnyddiol at ddibenion esthetig ac adnabod. Gan ystyried eu pwysigrwydd, mae'n hanfodol sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag arferion gorau a safonau hygyrchedd. Drwy wneud hyn, gallwch ymgysylltu â phob un o'ch myfyrwyr a sicrhau profiad dysgu teg i bawb.
- Gallwch gynnwys disgrifiad delwedd wrth uwchlwytho delwedd baner yn y cwrs, neu wrth olygu delweddau baner cwrs sydd eisoes yn bodoli.
- Marciwch ddelweddau fel addurniadol, pan nid yw'r delweddau'n brif gynnwys ac nid oes angen i chi ychwanegu disgrifiad ar gyfer darllenyddion sgrin, i gael rhagor o reolaeth dros eich cwrs.