Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae creu a chynnal ystorfa o ddeunyddiau yn rhan bwysig o ddatblygu cwrs ar-lein. Gyda Ffeiliau'r Cwrs, mae gennych fynediad i'ch holl ffeiliau ar gyfer cwrs penodol. Gallwch drefnu, gweld, rheoli, a chreu dolen i'r ffeiliau hynny yn ôl eich anghenion.

Mae Ffeiliau’r Cwrs yn darparu storfa ffeiliau ar y gweinydd Blackboard ar gyfer un cwrs. Gallwch greu ffolderi ac is-ffolderi yn Ffeiliau'r Cwrs i drefnu eich cynnwys mewn modd sy'n rhesymegol i chi. Mae cynnwys sydd yn yr ystorfa'n gynnwys y gallwch ei ailddefnyddio. Felly, gallwch ddileu dolenni i ffeiliau yn eich cwrs, eto mae'r ffeiliau eu hun yn aros yn Ffeiliau'r Cwrs, lle gallwch gysylltu â nhw eto. Hefyd, os byddwch yn newid neu symud ffeil i ffolder Ffeiliau Cwrs arall ar ôl i chi ei gysylltu yn eich Cwrs, ni fydd y ddolen yn torri.

Mwy am sut i ddefnyddio ffolderi gwe i drefnu'ch Ffeiliau Cwrs

Nid yw myfyrwyr yn gallu llwytho ffeiliau i fyny i Ffeiliau Cwrs Yn lle hynny, pan fyddant yn cymryd rhan mewn cwrs, yr unig beth y gallant ei wneud yw pori am ffeiliau o'u cyfrifiaduron a'u hatodi. Pan fyddwch yn cysylltu ag eitemau o Ffeiliau Cwrs mewn ardal gynnwys, rhoddir caniatadau darllen y ffeil neu'r ffolder i fyfyrwyr yn awtomatig.

Mwy am sut i reoli caniatadau yn Ffeiliau Cwrs

Defnyddio Ffeiliau Cwrs

I weld Ffeiliau Cwrs mewn cwrs, ewch i Rheoli Cwrs > Ffeiliau a dewiswch ID y cwrs yn y ddewislen. Dyma'r ffolder lefel uchaf sy'n cynnwys y ffeiliau a'r ffolderi y gwnaethoch eu llwytho i fyny i'ch cwrs. Dewiswch deitl i weld cynnwys ffolder neu i edrych ar ffeil.

Newid gweddau

Gallwch weld ffeiliau a ffolderi yn Ffeiliau Cwrs fel rhestr o enwau ffeiliau neu fel eiconau mân-luniau. Dewiswch y dolenni ar frig y dudalen i newid eich gwedd.

Edrych ar y rhestr: Y wedd ddiofyn yn Ffeiliau Cwrs yw rhestr o enwau ffeiliau gydag eiconau bach safonol yn y golofn Math o Ffeil.

Gweld Lluniau Bach: Mae eicon mwy yn cynrychioli pob ffeil a ffolder. Defnyddiwch y llithrydd ar frig y tudalen i newid maint y mân-luniau.

Gallwch wneud yr un weithred ar ffeiliau a ffolderi yn y naill wedd neu'r llall.

Mae'r system yn cofio pa wedd rydych yn ei dewis ac mae'n aros tan i chi ei newid.


Ffeiliau'r Cwrs o'i gymharu â'r Casgliad o Gynnwys

Ffeiliau Cwrs yw'r storfa ffeiliau ar gael ar gyfer holl gyrsiau Blackboard Learn. Fodd bynnag, os oes gan eich sefydliad fynediad at nodweddion rheoli cynnwys, y Casgliad o Gynnwys yw'r storfa ffeiliau.

Gallwch benderfynu'n hawdd pa un y mae'ch sefydliad yn ei ddefnyddio drwy edrych ar y Control Panel mewn cwrs. Os bydd yr eitem gyntaf yn dweud Ffeiliau, mae eich sefydliad yn defnyddio Ffeiliau Cwrs. Os bydd yn dweud Casgliad o Gynnwys, mae eich sefydliad yn defnyddio Casgliad o Gynnwys fel ei storfa.

Ffeiliau Cwrs

  • Cedwir cynnwys ar gyfer cwrs unigol.
  • Ni allwch rannu cynnwys ar draws cyrsiau.
  • Nid oes gan fyfyrwyr fynediad i gadw neu rannu ffeiliau.

Casgliad o Gynnwys

  • Gallwch gadw cynnwys ar gyfer cyrsiau lluosog rydych yn eu haddysgu.
  • Gallwch rannu cynnwys ar draws cyrsiau a gyda defnyddwyr eraill.
  • Mae'n bosib bod gan fyfyrwyr fynediad i storio neu rannu ffeiliau.

Rhagor am ddefnyddio'r Casgliad o Gynnwys