This information applies only to the Original Course View. Your institution controls which tools are available.
Llywio'r dudalen Trywyddion
Pan fyddwch yn gweld edefyn, bydd yr holl bostiadau a disgrifiad yr edefyn yn ymddangos ar un dudalen. Bydd llun proffil pob awdur yn ymddangos nesaf at eu postiad er mwyn eich helpu i adnabod eich cyd-ddisgyblion yn hawdd.
Bydd y golygydd yn ymddangos yn syth ar ôl y neges rydych yn ymateb iddi. Gallwch gyfeirio at unrhyw bostiad ar y dudalen pan fyddwch yn teipio'ch ymateb.
Mwy ar drywyddion a phostiadau drafft gyda JAWS ®
- Defnyddiwch Ehangu'r Cwbl a Cwympo'r Cwbl i reoli amlygrwydd postiadau ar y dudalen.
- Symudwch eich llygoden unrhyw le ar y dudalen a bydd swyddogaethau'n ymddangos ar y top, megis Chwilio ac Adnewyddu.
- Dewiswch nifer y postiadau heb eu darllen i weld y postiadau hynny yn unig mewn edefyn. Defnyddiwch fysellau'r saethau i lywio i edefynnau eraill yn y fforwm.
- Pan fyddwch yn gweld trywyddion, bydd bathodyn yn ymddangos nesaf at enw rheolwr neu gymedrolwr fforwm. Pwyntiwch at y bathodyn i weld rôl cwrs a rôl fforwm y defnyddiwr. Bydd rolau a addasir yn arddangos os yw'ch sefydliad yn eu defnyddio.
- Gweld dyddiadau perthnasol ar gyfer postiadau, megis "7 diwrnod yn ôl". Pan fyddwch yn pwyntio at y dyddiad perthnasol, gallwch weld dyddiad absoliwt creu neu olygu, a’r nifer o ymweliadau.
- Marcio postiadau fel wedi'u darllen neu heb eu darllen. Eicon glas = heb ei darllen. Eicon gwyn = wedi ei ddarllen. Dim ond postiadau a ehangwyd a welwch ar y sgrîn sydd wedi eu marcio fel wedi darllen. Nid yw postiadau'n cael eu darllen yn awtomatig os ydych yn sgrolio'n sydyn i lawr y dudalen. Dewiswch yr eicon i newid statws neges â llaw. Gallwch hefyd lumanu postiadau yr hoffech eu hadolygu’n hwyrach neu eu nodi fel rhai pwysig.
- Pwyntiwch at bostiad i weld Ateb, Dyfynnu, Ehangu/Cwympo, a swyddogaethau eraill sydd ar gael. Dewiswch Cwympo i leihau postiad a chynyddu maint y sgrin fertigol.
- Os yw'ch hyfforddwr wedi galluogi nodwedd sgorio postiadau yng ngosodiadau fforwm, mae Sgôr Gyffredinol yn dangos sgôr postiad ar gyfartaledd. Pan fyddwch yn pwyntio at yr ardal sgorio, mae'n newid i ddangos Eich Sgôr.
Creu edefyn
Mae gosodiadau fforwm yn rheoli pwy all bostio, a pha fathau eraill o weithrediadau y gallwch eu gwneud, megis a allwch chi olygu'ch trywyddion eich hun, postio'n ddienw, neu roi sgôr i bostiadau. Yn seiliedig ar y gosodiadau a ddewiswyd gan eich hyfforddwr ar gyfer y fforwm, efallai byddwch yn gallu creu trywydd newydd.
Os yw'ch hyfforddwr wedi cysylltu cyfarwyddyd â fforwm neu edefyn trafodaeth a'i fod ar gael i chi, gallwch weld y meini prawf graddio cyn i chi ddechrau. Dewiswch Gwybodaeth Graddio i gael mynediad at dudalen Graddio y fforwm neu drywydd. Dewiswch Gweld y Cyfarwyddyd.
- Agorwch fforwm bwrdd trafod a dewiswch Creu Trywydd.
- Bydd y dudalen Creu Trywydd yn agor a gallwch weld disgrifiad o'r fforwm wrth i chi ysgrifennu'ch ymateb.
- Teipiwch bwnc a chyfarwyddiadau, disgrifiad neu gwestiwn. Gallwch ddefnyddio swyddogaethau’r golygydd i fformatio testun ac ychwanegu ffeiliau, delweddau, dolenni gwe, amlgyfryngau a chyfuniadau.
- Gallwch atodi ffeil yn yr adran Atodiadau. Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur. Mae'n bosib y byddwch hefyd yn gallu uwchlwytho ffeil o storfa ffeiliau'r cwrs: y Casgliad o Gynnwys.
Os byddwch yn llwytho ffeil o'ch cyfrifiadur, ni chaiff ei gadw yn y Casgliad o Gynnwys.
- Dewiswch Cadw Drafft i storio drafft o'r postiad neu dewiswch Cyflwyno i gyhoeddi'ch trywydd.
Rhagor am y Casgliad o Gynnwys
Postiadau drafft
Gallwch chi ddefnyddio’r opsiwn Cadw Drafft os bydd angen i chi ddychwelyd i’r postiad yn ddiweddarach. Mae’r swyddogaeth hon yn cadw’ch sylwadau a ffeiliau ar y dudalen.
I gael mynediad at eich drafftiau, ewch yn ôl i dudalen y fforwm a'i osod i Gwedd Rhestr. Ewch i'r ddewislen Dangos a dewiswch Drafftiau yn unig i weld y postiad a gadwyd.
Dewiswch deitl y drafft i agor tudalen y Trywydd. Wrth weld eich postiad, pwyntiwch ato i weld y swyddogaethau Golygu a Dileu. Dewiswch Golygu i agor y golygydd. Ar ôl i chi wneud eich diweddariadau, dewiswch Cadw Drafft eto i ddiweddaru’r drafft neu Cyflwyno i gyhoeddi’r postiad.