This information applies only to the Original Course View. Your institution controls which tools are available.

Ardal o'r bwrdd trafod lle mae cyfranogwyr yn trafod pwnc neu grŵp o bynciau cysylltiedig yw'r fforwm. O fewn pob fforwm, gall defnyddwyr greu edefynnau lluosog. Pan mae'ch hyfforddwr yn creu fforwm, gallant ganiatáu i chi gychwyn trywyddion neu beidio.

Tudalen fforwm

Pan fyddwch yn mynd i mewn i fforwm, bydd rhestr o edeifion yn ymddangos.

  1. Pan fo'n bosib, defnyddiwch y briwsion bara i lywio i dudalen flaenorol. Os ydych yn defnyddio swyddogaeth 'yn ôl' yn eich porwr, efallai byddwch yn gweld gwallau llwytho tudalen.
  2. O fewn fforwm, efallai byddwch hefyd yn gallu creu trywyddion, gweld gwybodaeth raddedig, casglu trywyddion, a chwilio cynnwys.
  3. Defnyddiwch y blychau ticio i ddewis mwy nag un trywydd a chyflawni gweithrediadau megis Casglu neu Marcio fel wedi Darllen.
  4. Dewiswch deitl edefyn i ddarllen y postiadau. Mae teitlau trwm yn cynnwys postiadau heb eu darllen.
  5. Gallwch weld trywyddion fforwm trwy weld rhestr neu mewn golwg goeden, gyda'r postiadau i gyd wedi'u rhestru yn dilyn pob teitl trywydd.

Mwy ar fforymau a thrywyddion gyda JAWS


Tanysgrifio i hysbysiadau e-bost

Os yw'ch hyfforddwr yn rhoi caniatâd, gallwch danysgrifio i rybuddion e-bost sy'n eich hysbysu o gyhoeddiadau newydd. Eich hyfforddwr sy'n dewis os yw'r hysbysiadau ar gyfer postiadau'n cael eu gwneud ar lefel fforwm neu edefyn.

Pan fydd y nodwedd tanysgrifio i e-byst fforwm wedi'i galluogi, dewiswch Tanysgrifio ar frig y dudalen. Byddwch yn derbyn e-byst pan fydd postiadau newydd yn cael eu hychwanegu at y fforwm.

Pan mae'r nodwedd tanysgrifio i e-byst fforymau wedi'u galluogi, dewiswch un neu ragor o'r blychau ticio a dewiswch Tanysgrifio yn newislen Gweithrediadau'r Trywydd. Byddwch yn derbyn e-byst pan gaiff postiadau newydd eu gwneud i'r trywyddion a ddewiswyd.


Gweld fforwm

I weld fforwm a'r trywyddion ynddo, dewiswch enw fforwm ar dudalen y Bwrdd Trafod. Gallwch weld cynnwys y fforwm naill ai ar ffurf rhestr neu ar ffurf coeden. Mae’r dewis hwn yn weithredol nes byddwch yn ei newid. Gallwch ei newid ar unrhyw adeg. Newidiwch y wedd ar y dudalen fforwm, yn y gornel dde uchaf.

Ar ffurf rhestr

Mae'r Ffurf Rhestr yn cyflwyno'r trywyddion mewn fformat tabl. Bydd gwahanol swyddogaethau'n ymddangos. Er enghraifft, os oes modd tanysgrifio i e-byst am y fforwm, mae swyddogaeth Tanysgrifio yn ymddangos. Mae edeifion sy'n cynnwys unrhyw bostiadau heb eu darllen yn ymddangos mewn teip trwm.

  1. Gallwch greu edeifion neu gasglu postiadau.
  2. I drefnu colofn, dewiswch bennawd y golofn.
  3. Dewiswch y blwch ticio nesaf at drywydd i ddewis eitem o ddewislen Gweithrediadau'r Trywydd. Gallwch ddewis edefynnau lluosog neu ddewis y blwch ticio yn y pennyn i ddethol pob edefyn. Mae gweithrediadau’n cynnwys:
    • Marcio trywyddion fel wedi'u darllen neu heb eu darllen.
    • Gosod neu glirio baneri. Mae llumanau yn nodi edefynnau ar gyfer sylw yn hwyrach.
    • Tanysgrifio neu ddad-dadnysgrifio i hysbysiadau e-bost ar gyfer postiadau newydd a wnaed mewn trywyddion a ddewiswyd, os yw'r nodwedd hon wedi'i halluogi.

Ar ffurf coeden

Mae Ffurf Coeden yn dangos negeseuon cychwynnol y trywydd a'r ymatebion i'r negeseuon hynny. Mae'n bosib y byddwch yn gallu creu trywyddion neu gasglu postiadau.

Ehangwch a chrebachwch edefynnau gyda’r eiconau plws a minws nesaf at y teitlau. Os bydd neges dechrau edefyn yn cynnwys postiadau heb eu darllen, bydd teitl dechrau yr edefyn yn ymddangos mewn testun trwm. Defnyddiwch swyddogaethau Cwympo'r Cyfan ac Ehangu'r Cyfan i guddio neu weld yr holl bostiadau ym mhob trywydd.

Dewiswch y blwch ticio nesaf at drywydd a dewiswch eitem o ddewislen Gweithrediadau'r Neges. Gallwch ddewis edefynnau lluosog neu ddewis y blwch ticio yn y pennyn i ddethol pob edefyn.