Gallwch uwchlwytho atodiadau ffeil yn eich cwrs, megis i aseiniad. Mae defnyddwyr yn dewis agor dolen sy'n ymddangos yn y cwrs.
Ar ôl i chi uwchlwytho ffeil, mae'n bosib y byddwch dal yn gallu golygu enw'r ddolen i'r ffeil. Bydd teitl y ddolen yn ymddangos i ddefnyddwyr yn lle enw'r ddogfen. Er enghraifft, teipiwch "Fy Nghyflwyniad" fel teitl y ddolen yn hytrach nag enw'r ffeil "introduction.doc."
Nodau a dderbynnir mewn enwau ffeiliau
Mae Blackboard Learn yn caniatáu defnyddio pob nod mewn enwau ffeil. Fodd bynnag, gall system gweithredu a phorwr defnyddiwr gyfyngu ar y mathau o nodau a dderbynnir. Er enghraifft, nid yw rhai porwyr yn derbyn nodau sy'n fwy llydan. Efallai ni fydd gan rai porwyr yr ieithoedd cywir wedi'u gosod arnynt i ddangos nodau arbennig yr wyddor yn yr iaith honno.
Mathau o atodiadau ffeil a adnabyddir
Mae'r system yn adnabod nifer o fathau o ffeiliau yn ddiofyn. Mae'r ffeiliau hyn yn agor yn uniongyrchol yn y porwr neu mewn rhaglen gysylltiedig. Os nad yw'r system yn adnabod math y ffeil, gall defnyddwyr lawrlwytho'r ffeil atodedig a'i hagor ar eu cyfrifiadur eu hunain.
| Estyniad | Math o Ffeil | Rhaglenni a Gysylltir â'r Math o Ffeil |
|---|---|---|
| AAM | Amlgyfryngau | Ategyn Macromedia® Authorware® Y ffeil AAM yw pwynt cychwyn cyfres o ffeiliau y mae rhaid iddynt gael eu hamgáu mewn ffeil ZIP. |
| AIFF | Sain | Mae AIFF yn fformat sain cywasgedig. Mae ffeiliau AIFF yn dueddol o fod yn fawr. |
| ASF | Amlgyfryngau | Microsoft® .NET™ Show Mae ffeiliau ASF yn gallu cynnwys sain, fideo, delweddau a thestun. |
| AU | Sain | Chwarewr Real Audio™ |
| AVI | Fideo | Chwaraewr fideo - Windows yn unig |
| doc, docx | Testun | Microsoft® Word - prosesydd geiriau |
| EXE | Gweithredadwy | Rhaglenni yw ffeiliau gweithredadwy. Gallai rhai polisïau diogelwch rhwydwaith a muriau cadarn wahardd defnyddwyr rhag lawrlwytho ffeiliau gweithredadwy. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn mwy newydd o Blackboard Learn, efallai ni fyddwch yn gallu uwchlwytho ffeiliau o'r math hwn. Cysylltwch â'ch gweinyddwr am gymorth. |
| GIF | Delwedd | Rhaglen graffeg neu borwr gwe |
| HTML, HTM | Tudalen gwe | Golygydd neu borwr HTML |
| JPG, JPEG | Delwedd | Rhaglen graffeg neu borwr gwe |
| JIF | Delwedd | Rhaglen graffeg neu borwr gwe |
| MP3 | Sain | Rhaglen sain |
| "MP4" | Fideo | Chwaraewr Fideo |
| MPE | Sain/Fideo | Rhaglen sain |
| MPG, MPEG | Fideo | Chwaraewr Fideo |
| MOOV, MOVIE | Ffilm | Ffilm QuickTime® |
| MOV | Fideo | Chwaraewr ffilm neu gyfryngau |
| NUMBERS | Taenlen | Apple Numbers® |
| Testun | Darllenydd Adobe® Acrobat®® | |
| PNG | Delwedd | Golygydd graffeg neu borwr gwe |
| PPT, PPTX, PPS | Sioe Sleidiau | Microsoft® PowerPoint®, PowerPoint Player® |
| QT | Ffilm | QuickTime® |
| RA | Sain | Chwarewr Real Audio™ |
| RAM | Fideo | Ffilm Real Audio™ |
| RM | Sain | Rhaglen sain |
| RTF | Testun | Prosesydd geiriau |
| SWF | Amlgyfryngau | Ategyn Macromedia® Shockwave® |
| TIFF, TIF | Delwedd | Rhaglen graffeg neu borwr gwe |
| txt | Testun | Golygydd testun neu HTML, prosesydd geiriau |
| WAV | Sain | Rhaglen sain |
| WMA | Sain | Rhaglen sain |
| WMF | Graffeg | Microsoft® Windows® |
| xls, xlsx | Taenlen | Microsoft® Excel® |
| ZIP | Pecyn cywasgedig | WinZip® |
