Creu cwestiwn traethawd
Yn achos cwestiynau traethawd, mae angen i fyfyrwyr deipio ateb mewn blwch testun ac mae angen i chi raddio’r cwestiynau hyn â llaw.
Pan fyddwch yn creu prawf newydd, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen a dewis Ychwanegu Cwestiwn Traethawd.
Byddwch yn defnyddio'r un broses y byddech yn ei defnyddio i greu cwestiynau mewn profion ac aseiniadau.
Bydd ardal Cynnwys y Prawf yn agor lle byddwch yn creu'r cwestiwn Traethawd. Mae gan gwestiynau werth rhagosodedig o 10 pwynt. Dewiswch y blwch Pwyntiau i deipio gwerth newydd.
I helpu i gadw eich cynnwys prawf yn drefnus, gallwch ychwanegu ffeiliau o fewn cwestiynau unigol. Gwnewch ddewis o ddewislen Mewnosod Cynnwys y golygydd, megis Mewnosod o'r Storfa Cwmwl. I olygu'r ffeiliau a ychwanegoch, ewch i'r modd golygu ar gyfer y cwestiwn.
Rhagor am ychwanegu testun a ffeiliau
Rhagor am olygu profion a chwestiynau
Gallwch ddefnyddio'r swyddogaethau yn y golygydd i fformatio testun.
I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.
Alinio cwestiynau traethawd â nodau
Gallwch alinio nodau â chwestiynau asesiadau unigol er mwyn helpu eich sefydliad i fesur cyrhaeddiad. Ar ôl ichi drefnu bod y prawf ar gael, gall myfyrwyr weld gwybodaeth am y nodau rydych chi'n eu halinio gyda chwestiynau fel eu bod yn gwybod eich disgwyliadau.
Ewch i ddewislen cwestiwn, dewiswch Alinio â nod, a dewiswch nodau.