Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Amodau Rhyddhau Cynnwys
Gall hyfforddwyr osod amodau rhyddhau ar gyfer pryd y gallwch weld a chael mynediad at gynnwys cwrs. Mae tri math o amodau rhyddhau a gall hyfforddwyr osod nifer o amodau ar gyfer rhyddhau cynnwys. Gall y rhain gynnwys:
- Amodau ar gyfer pa gyrsiau mae gan aelodau neu grwpiau cwrs fynediad atynt
- Amodau ar gyfer y dyddiadau ac amseroedd y bydd modd cael mynediad at gynnwys a phryd y bydd yn weladwy ac yn gudd
- Amodau ar gyfer perfformiad, fel cyflwyno aseiniad neu sgorio mwy na'r trothwy ar brawf
Amodau perfformiad
Gall amodau perfformiad a osodir gan eich hyfforddwr gynnwys gofynion gradd, gofynion pwyntiau, neu ofynion cyflwyno.
- Mae gofyniad gradd yn ymwneud â gradd llythyren. Er enghraifft, efallai bydd eich hyfforddwr yn gofyn i chi gael o leiaf B ar brawf cyn i chi allu cael mynediad at y prawf nesaf.
- Mae gofyniad pwynt yn ymwneud â nifer penodol o bwyntiau. Er enghraifft, efallai bydd eich hyfforddwr yn gofyn i chi gael o leiaf 70 pwynt mewn cwis cyn i chi allu cael mynediad at y cwis nesaf.
- Mae gofyniad cyflwyno yn golygu bod rhaid i chi gyflwyno rhywbeth cyn i chi allu cael mynediad at gynnwys, ond nid oes yn rhaid i chi aros i'r cyflwyniad hwnnw gael ei raddio cyn symud ymlaen.
Gwelededd
Gall eich hyfforddwr osod gosodiadau gwelededd ar gyfer pryd y bydd cynnwys cwrs ar gael i chi.
Pan fydd eich hyfforddwr yn gosod cynnwys i "Dangos", gallwch weld dyddiad ac amser rhyddhau'r cynnwys, yr amod rhyddhau cyntaf y mae'n rhaid i chi ei fodloni, a phryd na fydd modd i chi gael mynediad at y cynnwys hwnnw mwyach. Mae cynnwys gweladwy yn ymddangos ar galendr eich cwrs a'r dudalen Graddau, yn ogystal â'r dudalen Cynnwys y Cwrs.
Gall fod gan gynnwys nifer o amodau rhyddhau. Os bydd hyn yn digwydd, efallai bydd eich hyfforddwr yn rhoi gwybod i chi am unrhyw amodau rhyddhau ychwanegol ar ôl yr amod cyntaf.
Pan fydd eich hyfforddwr yn gosod cynnwys i "Cuddio", gallwch weld y cynnwys dim ond pan fydd modd i chi gael mynediad ato. Mae'r ffenestr ddyddiad ac amser ar gyfer pryd y gallwch gael mynediad at y cynnwys wedi'i chuddio. Ar ôl i'r cyfnod mynediad ddod i ben, ni allwch weld y cynnwys o gwbl. Fodd bynnag, gallwch weld eich gradd ac unrhyw sylwadau a adawyd gan eich hyfforddwr ar y cynnwys hwnnw yn eich llyfr graddau o hyd.