Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Log Gweithgarwch Myfyrwyr

Mae adolygu gweithgarwch myfyrwyr yn helpu i hysbysu penderfyniadau mewn anghydfodau academaidd ac mae'n helpu i ddatrys problemau. Gallwch hefyd ddadansoddi cyfranogiad cwrs myfyrwyr sydd mewn perygl. Gall hyfforddwyr a rolau uwch eraill ddefnyddio'r log gweithgarwch myfyrwyr i wirio beth wnaeth myfyriwr penodol mewn cwrs. 

Student activity log, showing all student activities. There's a download option at the top right.

Gall y log gweithgarwch myfyrwyr gael ei hidlo yn ôl math o ddigwyddiad a gall edrych yn y 140 diwrnod diwethaf. Ni fydd unrhyw wybodaeth sy'n hŷn na hynny yn cael ei storio. Gall y log gymryd hyd at 20 munud i gael ei ddiweddaru o'r tro diwethaf y mae myfyriwr yn cyflawni gweithred. 

Gallwch lawrlwytho'r log i'w rannu ag eraill. Bydd unrhyw hidlyddion rydych yn eu defnyddio ar y log hefyd yn berthnasol i'r lawrlwythiad. Dim ond y 1000 o ddigwyddiadau cyntaf sy'n cael eu lawrlwytho. 

Mae'r digwyddiadau canlynol i'w gweld yn y log: 

  • Cyrchu Cwrs 
  • Dechreuwyd Asesiad 
  • Cadwyd Asesiad Drafft 
  • Cyflwynwyd Asesiad 
  • Cyflwynwyd Asesiad yn Awtomatig 
  • Cyrchu Trafodaeth 
  • Cadwyd Trafodaeth Ddrafft 
  • Golygu Trafodaeth 
  • Ateb Trafodaeth 
  • Ymateb i Drafodaeth 
  • Cyrchu Dogfen 
  • Cyrchu Dyddlyfr 
  • Cyrchu Eitem LTI 
  • Cyrchu Eitem SCORM 

Ar gyfer gweinyddwyr: Mae braint ar gael i reoli mynediad yn seiliedig ar rôl i'r adroddiad log gweithgarwch myfyrwyr. Ewch i'r Panel Gweinyddu. Dewiswch Rolau Cwrs/Mudiad yn yr adran Defnyddwyr . Dewiswch y rôl rydych eisiau ychwanegu'r fraint ati a dewis Breintiau yn y gwymplen. Dewiswch "Cwrs/Mudiad > Myfyriwr/Cyfranogwr > Log Gweithgarwch" i roi caniatâd y log gweithgarwch i'r myfyriwr.