Mae hyfforddwyr yn aml yn defnyddio nifer o adnoddau i gyfeirnodi cynnwys addysgol, gan helpu dysgwyr i lwyddo yn eu profiadau dysgu. Un dull hanfodol yw ymgorffori dolenni o fewn cynnwys WYSIWYG i gyfeirio myfyrwyr at dudalennau eraill. Fodd bynnag, gall dolenni toredig amharu ar y broses ddysgu. Mae Ally yn helpu hyfforddwyr i adnabod a thrwsio'r dolenni toredig hyn.
Dolenni toredig
Fel arfer mae gan ddolenni ddwy brif elfen:
- URL: Cyfeiriad gwe lle bydd yr ymwelwyr yn mynd ar ôl dewis y ddolen.
- Testun neu ddelwedd arddangos: Testun neu ddelwedd weladwy sy’n dweud wrth ymwelwyr beth i’w ddisgwyl os byddant yn dewis y ddolen
Ystyrir dolen i fod wedi torri pan nad oes modd dod o hyd i'r dudalen darged. Gall hyn ddigwydd os nad yw'r dudalen yn bodoli mwyach neu os yw'r URL yn anghywir. Mae Ally yn marcio dolen fel un wedi torri os yw'r URL yn dychwelyd gwall HTML 404 (heb ddod o hyd i'r dudalen).
Sut mae Ally yn helpu
Mae Ally yn helpu hyfforddwyr i adnabod dolenni wedi torri drwy:
- Fflagio Dolenni Toredig: Mae Ally yn canfod ac yn fflagio dolenni sy'n dychwelyd gwall 404 yn awtomatig.
- Adborth i Hyfforddwyr Gall hyfforddwyr ddefnyddio adborth Ally i dod o hyd i ddolenni toredig a mynd i'r afael â nhw yn gyflym yn eu dogfennau WYSIWYG.
- Adroddiad Hygyrchedd Cwrs: Mae Ally yn darparu adroddiad cynhwysfawr ar hygyrchedd cwrs, gan amlygu unrhyw ddolenni toredig y mae angen sylw arnynt.
Drwy ddefnyddio Ally, gall hyfforddwyr sicrhau bod cynnwys eu cyrsiau yn parhau i fod yn hygyrch ac yn rhydd rhag dolenni toredig aflonyddgar, gan wella'r profiad dysgu cyffredinol i fyfyrwyr.
Dogfennau a Systemau LMS a Gefnogir
Mae Ally yn adnabod dolenni toredig ar gynnwys WYSIWYG ar y systemau LMS canlynol:
- Blackboard
- Canvas
Byddwn yn parhau i weithio i gefnogi mwy o systemau LMS a mathau o gynnwys fel rhan o fap ffordd Ally.
Dod o hyd i'r Holl Ddogfennau sydd â Dolenni Toredig
I adnabod a datrys problemau hygyrchedd yn eich cwrs, agorwch yr Adroddiad Hygyrchedd Cwrs ac edrychwch ar y rhestr o broblemau yn y tabl Problemau Hygyrchedd ar y tab Trosolwg. Dewiswch Mae'r cynnwys HTML yn cynnwys dolenni toredig.
Nesaf, dewch o hyd i'r dangosydd sgôr wrth ochr eitem sydd â'r broblem a'i ddewis. Bydd hyn yn agor yr Adborth i Hyfforddwyr, lle gallwch weld gwybodaeth fanwl a thrwsio'r broblem.
Defnyddio Adborth i Hyfforddwyr i Drwsio Dolenni Toredig
Pan fyddwch yn cyrchu Adborth i Hyfforddwyr Ally, dewiswch Pob Problem ac wedyn dewis Mae'r eitem hon yn cynnwys dolenni toredig.
Mae'r rhagolwg yn amlygu problemau hygyrchedd penodol o fewn y ddogfen. Mae pob amlygiad yn cynrychioli enghraifft o un math o broblem. Er enghraifft, bydd dewis problem dolenni toredig yn amlygu pob digwyddiad o ddolenni toredig yn y ddogfen. Yn opsiynau'r rhuban uchaf gall hyfforddwyr:
- Llywio Tudalennau: Symud drwy’r rhagolwg fesul tudalen
- Nifer o Broblemau: Gweld y nifer o weithiau mae problem benodol yn ymddangos.
- Neidio Rhwng Amlygiadau: Symud yn gyflym rhwng problemau a amlygir.
- Toglo'r Amlygiadau: Cuddio neu ddangos y problemau a amlygir.
- Nesáu/Pellhau: Addasu lefel nesáu/pellhau cynnwys y rhagolwg.
Ar gyfer pob dolen doredig, mae Ally yn darparu arweiniad ac opsiwn trwsio cyflym ochr yn ochr â'r rhagolwg.
- Dysgu Mwy: Dewiswch "Beth mae hyn yn ei olygu" i ddeall y broblem a pham mae'n bwysig ei thrwsio.
- Diweddaru'r URL: Rhowch y URL cywir ym mhanel ochr Ally a chliciwch ar y botwm "Diweddaru" i wirio a yw'r URL newydd yn gweithio.
- Tynnu'r Ddolen: Os oes angen, gallwch dynnu'r ddolen a chadw'r testun drwy ddewis opsiwn tynnu'r ddolen.