Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Mae’r llyfr graddau yn cael ei boblogi pan gaiff myfyrwyr eu cofrestru ar eich cwrs. O'r llyfr graddau, gallwch raddio gwaith cwrs, rheoli eitemau, cyhoeddi graddau a llawer mwy. 

Mae dwy brif wedd yn y llyfr graddau: gwedd grid a gwedd rhestr. Gallwch newid rhwng y gweddau drwy ddewis yr eiconau rhestr a grid ar frig y llyfr graddau.

List or grid view options

Mae rhestr yr eitemau graddadwy yw'r opsiwn diofyn nes i chi newid y wedd. Mae gan lawer o hyfforddwyr opsiwn sy'n well ganddynt, dyna pam rydym yn cadw'r wedd ddiwethaf a ddewisoch ac yn ei defnyddio fel y wedd ddiofyn ar gyfer y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi.


Gwedd rhestr y Llyfr Graddau:  Eitemau graddadwy  

Mae gwedd yr eitemau graddadwy yn dangos yr holl weithgareddau a raddir ac eitemau gradd a grëwyd â llaw yn eich cwrs ynghyd â'u statws graddio. 

Gradable items list view with the selection A: sorting controls, B: add column button, C: three dot menu.

A. Trefnu'r wybodaeth yng ngwedd yr eitemau graddadwy gan ddefnyddio'r rheolyddion trefnu. Mae trefnu yn helpu i adnabod y wybodaeth yn gyflym. Er enghraifft, efallai y byddwch eisiau trefnu yn ôl statws graddio i ddod o hyd i eitemau sydd angen eu graddio'n gyflym.  

Mae gan wedd yr eitemau graddadwy yr opsiynau trefnu canlynol: 

  • Eitem. Trefnir y colofnau yn nhrefn yr wyddor. 
  • Dyddiad cyflwyno.  
  • Statws graddio. Trefnir y colofnau yn ôl statws # i'w graddio, wedi'u graddio i gyd, dim i'w raddio a marcio presenoldeb. 
  • Cyhoeddi. Trefnir y colofnau yn ôl graddau i'w cyhoeddi a graddau sydd wedi'u cyhoeddi. Dewiswch y botwm Cyhoeddi # o raddau i gyhoeddi'r graddau. 

Dewiswch y gell trefnu i ddangos y data mewn trefn esgynnol, ei dewis dwy waith i gael trefn ddisgynnol, a thair gwaith i gael y drefn ddiofyn. Mae'r holl newidiadau trefnu yn newidiadau dros dro. Ar ôl i chi ail-lwytho'r dudalen, bydd yn dangos y drefn ddiofyn. 

B. Ychwanegu eitemau, cyfrifiadau a phresenoldeb. I ddangos y ddewislen gyda'r opsiynau hyn, bydd angen hofran y cyrchwr rhwng dwy golofn y llyfr graddau a dewis yr eicon plws. Gallwch hefyd wneud hyn o'r wedd grid. 

Rhagor am greu asesiadau 

Rhagor am gyfrifiadau 

C. Newid trefn colofnau'r llyfr graddau drwy lusgo a gollwng. I weld yr opsiwn hwn, bydd angen hofran y cyrchwr yn agos i'r ddewislen tri dot. Os byddwch yn newid trefn y colofnau yn y wedd hon, caiff y drefn ei newid yn y wedd grid hefyd. 


Gwedd rhestr y Llyfr Graddau:  Rhestr myfyrwyr  

Newidiwch i'r wedd rhestr myfyrwyr i gael trosolwg o ymgysylltiad pob myfyriwr, gan gynnwys gwybodaeth fel y dyddiad y gwnaethant gyrchu'r cwrs ddiwethaf a'u gradd gyffredinol. 

Pan fyddwch yn creu eitem y gallwch ei raddio yn eich cwrs, crëir eitem llyfr graddau yn awtomatig. Gallwch lusgo eitem i leoliad newydd yn y rhestr o eitemau graddadwy. 

Student list view with the Overall Grade sorting option marked.

Mae gan wedd rhestr myfyrwyr yr opsiynau trefnu canlynol: 

  • Enw llawn. 
  • Rhif Adnabod Myfyriwr. 
  • Enw defnyddiwr. 
  • Mynediad diwethaf. 
  • Gradd gyffredinol. Mae'r opsiwn hwn ar gael ar ôl i chi osod y radd gyffredinol.  

Efallai y bydd eich gwedd o Radd gyffredinol myfyriwr yn wahanol i'r radd bresennol mae'r myfyriwr yn ei gweld yng gwedd llyfr graddau y myfyriwr. Mae hyn oherwydd bod y Radd gyffredinol mae'r hyfforddwr yn ei gweld yn cynnwys graddau a gyhoeddwyd a graddau heb eu cyhoeddi. Mae'r Radd bresennol mae'r myfyrwyr yn ei gweld yn cynnwys dim ond y graddau rydych wedi'u cyhoeddi. 

Rhagor am y radd gyffredinol 

Os oes mwy nag un dudalen ag eitemau, bydd trefnu yn effeithio ar bob dudalen. 

Dewiswch y gell trefnu i ddangos y data mewn trefn esgynnol, ei dewis dwy waith i gael trefn ddisgynnol, a thair gwaith i gael y drefn ddiofyn. Mae'r holl newidiadau trefnu yn newidiadau dros dro. Ar ôl i chi ail-lwytho'r dudalen, bydd yn dangos y drefn ddiofyn. 


Gwedd grid y Llyfr Graddau

Mae'r wedd grid yn rhoi trosolwg o'r myfyrwyr, asesiadau a graddau yn eich cwrs. Gallwch raddio a rheoli eitemau yn y wedd hon. 

Gradebook grid view with the following elements marked: A. Filter button, B. Add item button, C. Assignment options menu, D. grade cell

Efallai bydd y radd gyffredinol yn y wedd hon ychydig yn wahanol i'r radd bresennol mae myfyrwyr yn ei gweld gan ei bod yn cynnwys graddau heb eu cyhoeddi.  

A. Defnyddio hidlyddion i leihau'r wybodaeth sydd yn y wedd grid. Er enghraifft, gallwch ddangos dau brawf a chymharu perfformiad y myfyrwyr. Gallwch hidlo'r wybodaeth yn ôl myfyrwyr, grwpiau, eitemau y mae modd eu marcio, mathau o asesiadau a chategorïau. Mae'r wedd ar ôl defnyddio hidlyddion yn wedd dros dro a gallwch hefyd glirio'r hidlyddion. 

B. Ychwanegu eitemau a chyfrifiadau. I ddangos y ddewislen gyda'r opsiynau hyn, bydd angen hofran y cyrchwr rhwng dwy res y llyfr graddau a dewis yr eicon plws. Gallwch hefyd wneud hyn o wedd yr eitemau graddadwy. 

Rhagor am greu asesiadau 

Rhagor am gyfrifiadau 

C. Dewis eitem i ddangos ei dewislen. Yno, gallwch ddewis golygu'r eitem, cyrchu data dadansoddi'r cwestiwn, lawrlwytho canlyniadau, lawrlwytho cyflwyniadau, a dileu'r eitem. 

Rhagor am olygu asesiadau 

Rhagor am ddadansoddi cwestiynau 

Ch. Dewis cell gradd i ychwanegu gwrthwneud gradd. Bydd dewis cell yn dangos dewislen hefyd. Gan ddibynnu ar y statws gweithgarwch, gallwch weld y cyflwyniad, cyhoeddi gradd ac ychwanegu neu olygu eithriadau neu esgusodiadau. 

Rhagor am wrthwneud graddau 

Rhagor am eithriadau ac esgusodiadau 


Beth mae myfyrwyr yn ei weld? 

Mae hefyd gan lyfr graddau'r myfyriwr reolyddion trefnu i newid trefn pob colofn dros dro. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i gadw golwg ar eu perfformiad a gwaith cwrs. Er enghraifft, mae trefnu yn ôl dyddiad cyflwyno yn eu helpu i adnabod yr eitemau i'w cyflwyno nesaf.  

Student gradebook only has one view with different sorting options.

Mae'r radd bresennol mae myfyrwyr yn ei gweld yn eu llyfr graddau yn cynnwys dim ond graddau a gyhoeddwyd.