Er mwyn gwella profiad Learn ein defnyddwyr yn barhaus, rydym wedi penderfynu gwahanu ein dogfennaeth help Learn fesul profiad, un ar gyfer Profiad Gwreiddiol Learn ac un ar wahân ar gyfer Profiad Ultra Learn. Ar hyn o bryd, mae ein dogfennaeth i fyfyrwyr a hyfforddwyr ar gyfer y ddau brofiad yn ymddangos ar yr un dudalen; ar ôl cwblhau’r broses ailgynllunio, bydd y ddogfennaeth hon yn cael ei gwahanu i ddwy dudalen wahanol, gan ddibynnu ar y profiad. Rydym yn rhagweld cwblhau'r diweddariad hwn erbyn 2 Ebrill, 2021.

Beth mae hyn yn ei olygu i fi?

Gallwch barhau i gael mynediad at yr holl gynnwys sydd ar ein gwefan help ar hyn o bryd. Ni fydd y ffordd rydych yn cael mynediad at y wefan help o’r cynnyrch yn newid. Diweddarir cynllun y tudalennau ychydig i ddangos un profiad ar dudalen unigol yn hytrach na chyfuno’r ddau. Er nad ydym yn rhagweld colli mynediad at dudalennau, efallai byddwn yn profi oedi bach i sicrhau bod pob dolen yn gweithio yn ôl y disgwyl. Byddwn yn mynd i’r afael â’r problemau hyn ac yn eu blaenoriaethu i gael eu datrys ar frys.

Pa wedd fydd ar y cynllun newydd?

Efallai byddwch yn gyfarwydd â’n cynnwys help, sydd wedi’i osod fel hyn ar hyn o bryd:

gyda dolenni i weld y profiad eilaidd i gyfateb eich gwedd:

Yn y fersiwn wedi’i ailgynllunio, bydd y Profiadau Gwreiddiol ac Ultra yn ymddangos ar dudalennau ar wahân, gydag enw'r profiad presennol a dolen i'r profiad eilaidd ar frig y dudalen:

Bydd yr URLau yn newid?

Bydd ein URLau help yn adlewyrchu’r profiad yn yr URL ar ôl lansio’r fersiwn wedi’i ailgynllunio. Er enghraifft, dyma URL presennol ar gyfer Profion ac Arolygon i fyfyrwyr: 

https://help.blackboard.com/Learn/Student/Tests_and_Surveys

bydd yn cael ei diweddaru i gynnwys y profiad yn y fersiwn wedi’i ailgynllunio:

https://help.blackboard.com/Learn/Student/Ultra/Tests_and_Surveys

https://help.blackboard.com/Learn/Student/Original/Tests_and_Surveys

Rhestrir y profiad ar ôl y rôl yn yr URL. Mae hyn yn darparu ffordd eilaidd o ddeall ar gyfer pa brofiad rydych yn gweld cynnwys help. 

Fydd angen i fi ddiweddaru fy nodau tudalen?

Bydd llwyfan ein gwefan help yn ailgyfeirio URLau eich nodau tudalen presennol i dudalen cynnwys ein Profiad Ultra yn awtomatig. Rydym yn argymell diweddaru eich nodau tudalen os ydych yn defnyddio Profiad Gwreiddiol Learn. Nid oes angen diweddaru eich nodau tudalen os ydych yn defnyddio Profiad Ultra Learn. Gallwch barhau i gael mynediad at y profiad arall o bob tudalen yn help.

Sut byddaf yn gwybod pa brofiad mae fy sefydliad yn ei ddefnyddio?

Ni fydd y wybodaeth na’r sgrinluniau yn newid fel rhan o'r broses ailgynllunio. Gallwch barhau i ddefnyddio'r delweddau cysylltiedig i bennu pa brofiad a wedd cwrs rydych yn ei ddefnyddio.