Mae Geiriadur Data Datblygwr Anthology Illuminate yn cyflwyno diffiniadau tablau a cholofnau mewn fformat hawdd ei ddarllen. Defnyddiwch yr adnodd hwn i greu adroddiadau. Dysgu am ffynhonnell, defnydd a pherthnasoedd yr endidau sydd ar gael.

Dyma rai pethau y dylech eu gwybod am Eiriadur Data Anthology Illuminate:

  • Mae cofnodion yn cynnwys tablau a cholofnau.
  • Mae is-fodelau yn grwpio cofnodion cysylltiedig.
  • Mae Anthology Illuminate yn defnyddio warws data Snowflake.

Ewch i wefan dogfennaeth Snowflake i gael tiwtorialau a chymorth gyda phob gorchymyn, swyddogaeth a gweithredydd SQL a gefnogir.

Data Dictionary entries table

Cofnod

Mae cofnodion yn cynnwys tablau a cholofnau. Dewiswch gofnod i weld y diffiniad, manylebau technegol, a pherthnasoedd endidau ar gyfer y cofnod.

  • Eicon tic dilyswyd 
  • : Gweld ar gipolwg a yw cofnod wedi'i fapio a'i ddilysu fel y'i hargymhellir.
  • Diffiniad y Cofnod: Mae'n disgrifio'r tabl neu'r golofn mewn fformat hawdd ei ddarllen.
  • System Ffynhonnell: Mae'n nodi o ble mae'r wybodaeth yn dod. Er enghraifft, Blackboard Learn.
  • Gwrthrychau Ffynhonnell: Mae'n nodi'r sgema, tabl a cholofn y mae'r data yn dod ohonynt.
  • Cyd-destun: Mae'n nodi lle y defnyddir cofnodion. Er enghraifft, mewn cwrs neu sesiwn defnyddiwr.
  • Gall y Golofn fod yn Nwl: Mae'n nodi a all data'r golofn fod yn Nwl.
  • Mae'r Golofn yn Hunaniaeth: Mae'n nodi a yw'r golofn yn golofn hunaniaeth.
  • Math o Ddata'r Golofn: Y math o ddata sydd yn y golofn.

    Rhagor am y mathau o ddata mae Snowflake yn eu cefnogi

  • Perthnasoedd Endidau: Mae'r Diagramau Perthnasoedd Endidau (ERD) yn dangos y perthynas a llif y data yn y gronfa ddata i chi. Mae ERD Anthology Illuminate yn defnyddio nodiannau traed brân i ddangos y perthnasoedd i chi.

 

Gallwch ddefnyddio'r dewisydd iaith i ddewis eich dewis iaith. Mae termau nad ydynt wedi'u lleoleiddio ar hyn o bryd a byddant yn parhau i fod yn Saesneg ar ôl i chi ddewis iaith arall. Caiff y fersiwn wedi'i leoleiddio o'r termau hyn ei gyflenwi'n raddol drwy gydol 2021 a 2022. 

Diagram Perthnasoedd Endidau

Mae Diagramau Perthnasoedd Endidau (ERD) yn dangos y perthynas a llif y data i chi.

Gellir rhyngweithio â'r ERD.

  • Dewiswch dabl neu golofn i amlygu'r perthnasoedd.
  • Dewiswch y ddolen 
  • wrth ochr enw tabl neu enw colofn i weld diffiniad y cofnod hwnnw.
  • Dewiswch Sgrin lawn 
  • , os hoffech gael gwedd fwy.
  • Symudwch eich cyrchwr dros yr eicon gwybodaeth 
  • i weld allwedd ar gyfer eiconau'r ERD.
  • Defnyddiwch yr offeryn Chwilio i ganfod tabl yn yr ERD.
  • Defnyddiwch ddau fys neu'ch olwyn sgrolio i nesáu at yr ERD neu bellhau oddi wrtho.
  • Pwyswch Ctrl a dewis yr ERD i'w symud. Ar Mac, pwyswch Command a dewis yr ERD.

Mae'r ERD yn defnyddio nodiannau traed brân i ddangos perthnasoedd.

Taflen grynhoi cyfeirio cyflym Nodiannau Traed Brân

Lleoleiddio

Gallwch ddefnyddio'r dewisydd iaith i ddewis eich dewis iaith. Er hynny, mae termau nad ydynt wedi'u lleoleiddio ar hyn o bryd a byddant yn parhau i fod yn Saesneg ar ôl i chi ddewis iaith arall. Caiff y fersiwn wedi'i leoleiddio o'r termau hyn ei gyflenwi'n raddol drwy gydol 2021 a 2022, ac eithrio  termau'r Geiriadur Data sy'n gysylltieidig â'r meysydd hyn, a fydd yn parhau i fod yn Saesneg:  

  • Disgrifiad o'r cofnod
  • Gall y Golofn fod yn Nwl 
  • Mae'r Golofn yn Hunaniaeth  
  • Math o Ddata'r Golofn

 

Data dictionary entry details