Recordiwch yr Allwedd Defnyddiwr, Cyfrinach wedi’i rhannu, ac ID Cleient

  1. Mewngofnodwch fel y gweinyddwr a ffurfweddodd yr adroddiad sefydliadol a llywiwch i Gosodiadau yn y weithfan weinyddol.
  2. Dewiswch y tab Apiau a dewiswch Golygu nesaf at yr ap adroddiad sefydliadol Ally.
  3. Recordiwch yr Allwedd Defnyddiwr, Cyfrinach wedi’i rhannu, ac ID Cleient.

    Os nad yw’r “Cyfrinach wedi’i rhannu” yn weladwy, dylai fod wedi’i darparu ichi gan eich ymgynghorydd technegol wrth osod Ally. Gwnewch nodyn hefyd o’ch ID Cleient, sef y rhif rhwng “v1/” a “/lti” yn yr “URL Lansio”. Bydd angen defnyddio'r gwerthoedd hyn wrth ffurfweddu'r adroddiad hygyrchedd cwrs.

Ychwanegu rhaglen newydd

  1. Mewngofnodwch fel gweinyddwr a llywiwch i Gosodiadau y cyfrif neu is-gyfrif lle dylid ychwanegu’r adroddiad hygyrchedd cwrs.
  2. Dewiswch y tab Apiau” a dewiswch Gweld Ffurfweddiadau Ap.
  3. Dewiswch y botwm + Ap” i ychwanegu ap newydd.
  4. Rhowch y wybodaeth hon:
  5. Defnyddiwch un o'r URLs hyn ar gyfer URL y Darparwr Offeryn. Disodlwch "[ClientID]" gyda’r ID Cleient a recordioch.
    • Sefydliadau a westeir yn y ganolfan data yn yr UD: https://prod.ally.ac/api/v1/[ClientId]/lti/instructor
    • Sefydliadau a westeir yn y ganolfan data yng Nghanada: https://prod-ca-central-1.ally.ac/api/v1/[ClientId]/lti/instructor
    • Sefydliadau a westeir yn y ganolfan data yn Ewrop: https://prod-eu-central-1.ally.ac/api/v1/[ClientId]/lti/instructor
    • Sefydliadau a westeir yn y ganolfan data yn Singapore: https://prod-ap-southeast-1.ally.ac/api/v1/[ClientId]/lti/instructor
    • Sefydliadau a westeir yn y ganolfan data yn Awstralia: https://prod-ap-southeast-2.ally.ac/api/v1/[ClientId]/lti/instructor
  6. Cyflwynwch y ffurflen.

Dylai’r Adroddiad Hygyrchedd nawr fod ar gael ym mar llywio'r cwrs ar y chwith. Sylwer y gallwch hefyd wneud y camau hyn yn y Gosodiadau” ar gyfer cwrs unigol os fydd angen ychwanegu’r adroddiadau hygyrchedd at gwrs unigol. Os ydych yn profi unrhyw broblemau wrth ffurfweddu'r adroddiad, Cyflwynwch gais ar Behind the Blackboard.