Ffurfweddu gosodiadau help defnyddiwr Ally

Ffurfweddwch negeseuon help personol sy'n ymddangos ym moddau Fformatau amgen ac Adborth hyfforddwyr. Gellir defnyddio'r negeseuon help personol i bwyntio myfyrwyr a hyfforddwyr at ddogfennaeth sefydliadol gyfredol, i rannu gwybodaeth gyswllt, ac ati. Pan does dim neges bersonol wedi cael ei ffurfweddu, mae'r dolenni Help yn pwyntio at y tudalennau hyn yn adran gymorth Blackboard:

Gellir ffurfweddu'r cynnwys help personol yn UI Ffurfweddiad Ally, ac mae'n defnyddio'r fformat Markdown i helpu i ddarparu neges strwythuredig a hygyrch.

  1. Ewch i Ffurfweddiad Ally a dewiswch Gosodiadau help.
  2. Dewiswch opsiwn help diofyn neu bersonol ar gyfer help ar adborth i hyfforddwyr a help ar fformatau amgen.
  3. Os byddwch yn dewis yr opsiwn penodol, golygwch y neges Bersonol.

    Defnyddiwch fformat Markdown i helpu i ddarparu neges strwythuredig (a hygyrch).

  4. Dewiswch Cadw'r newidiadau.

Ffurfweddu help arbenigol

Rhoi mynediad hawdd i'ch hyfforddwyr a myfyrwyr at eich tîm o arbenigwyr hygyrchedd. Galluogwch help arbenigol i ychwanegu modd y gall eich defnyddwyr gofyn am ragor o help yn uniongyrchol o baneli fformatau amgen ac adborth hyfforddwr.

Pan grëir cais, anfonir e-bost sy'n cynnwys y cais am help a manylion am y cwrs presennol, yr eitem o gynnwys a'r defnyddiwr at e-bost o'ch dewis.

  1. Ewch i Ffurfweddiad Ally a dewiswch Gosodiadau help.
  2. Dewiswch Darparu help personol ar gyfer help ar Adborth i Hyfforddwyr a help ar Fformatau Amgen.
  3. Dewiswch Galluogi help arbenigol.
  4. Teipiwch gyfeiriad e-bost eich tîm o arbenigwyr hygyrchedd.
  5. Dewiswch Cadw'r newidiadau.

Mae rhaid rhoi naill ai'r caniatâd "Panel Gweinyddydd (Defnyddwyr) > Defnyddwyr" neu "system.user.view" i'r defnyddiwr API Ally ar gyfer yr integreiddiad Blackboard Learn er mwyn i Ally allu cynnwys enw a chyfeiriad e-bost y myfyriwr yn yr e-bost cais am help. Mae rhaid rhoi'r caniatâd “moodle/user:viewalldetails” i'r defnyddiwr API Ally ar gyfer yr integreiddiad Moodle er mwyn i Ally allu cynnwys enw a chyfeiriad e-bost y myfyriwr yn yr e-bost cais am help.