Ffurfweddu cyrsiau
Ewch i'ch tudalen Ffurfweddiad Ally a galluogwch Ally ar gyfer pob un o'ch cyrsiau neu gallwch benderfynu fesul cwrs. Chi sydd i ddewis!
- Gweld faint o'ch cyrsiau sy'n defnyddio Ally.
- Trowch Ally ymlaen neu i ffwrdd ar gyfer yr holl gyrsiau presennol. Penderfynwch ymlaen llaw os ydych am ei alluogi ar gyfer pob cwrs yn y dyfodol hefyd.
- Chwiliwch am gyrsiau unigol neu hidlwch bob cwrs yn ôl galluogwyd, analluogwyd a thymor.
- Galluogi neu analluogi Ally ar gyfer cyrsiau unigol.
Galluogi neu analluogi Ally ar gyfer cwrs unigol.
Pan fydd Ally ymlaen, mae hyfforddwyr a myfyrwyr yn elwa o'r sgoriau hygyrchedd, adborth hyfforddwyr a fformatau amgen mae Ally yn eu darparu.
Mae'r Adroddiad sefydliadol ar gael ar gyfer pob cwrs. Does dim ots os yw Ally wedi'i alluogi neu ei analluogi mewn cwrs. Bydd y cwrs yn ymddangos yn yr Adroddiad sefydliadol.
O Ffurfweddu Ally, dewiswch y cwrs rydych eisiau ei diweddaru. Defnyddiwch y maes a'r hidlwyr Chwilio i chwilio yn ôl teitl y cwrs, ID y cwrs a chod y cwrs.
Dewiswch Galluogi neu Analluogi o dan y golofn Wedi’i Alluogi i droi Ally ymlaen neu i ffwrdd.
- Mae Ally i ffwrdd: Dewiswch Galluogi integreiddio UI cwrs i droi ymlaen
- Mae Ally ymlaen: Dewiswch Analluogi integreiddio UI cwrs i ddiffodd
Galluogi neu analluogi Ally ar gyfer pob cwrs.
Ddim yn siŵr a yw'r holl gyrsiau'n defnyddio Ally ai peidio? Ar frig y dudalen Ffurfweddu Ally, gwiriwch faint o'ch cyrsiau sy'n defnyddio Ally ar hyn o bryd.
Pan fydd Ally ymlaen, mae hyfforddwyr a myfyrwyr yn elwa o'r sgoriau hygyrchedd, adborth hyfforddwyr a fformatau amgen mae Ally yn eu darparu.
Mae'r Adroddiad sefydliadol ar gael ar gyfer pob cwrs. Does dim ots os yw Ally wedi'i alluogi neu ei analluogi mewn cwrs. Bydd y cwrs yn ymddangos yn yr Adroddiad sefydliadol.
Gallwch droi Ally ymlaen neu i ffwrdd ym mhob cwrs presennol oddi ar y dudalen Ffurfweddu Ally . Dewiswch Analluogi /galluogi pob cwrs a dewis Analluogi neu Galluogi.
Dewiswch Galluogi mewn cyrsiau yn y dyfodol os ydych chi am i Ally fod ymlaen yn awtomatig ym mhob cwrs newydd.
Os na fyddwch chi'n dewis hyn, ni fydd Ally wedi'i alluogi mewn cyrsiau newydd. Os ydych chi eisiau Ally ymlaen nes ymlaen, trowch Ally ymlaen ar gyfer cyrsiau sengl.
Ar ôl i chi ddewis analluogi neu alluogi ym mhob cwrs, mae angen i chi gadarnhau eich dewis. Dewiswch Galluogi neu Analluogi, yn dibynnu ar eich dewis. Dewiswch Diddymu os ydych chi wedi newid eich meddwl ac nad ydych am newid unrhyw beth.
Galluogi neu analluogi Ally ar gyfer cyrsiau newydd yn unig