Dysgu yn eich ffordd eich hun gyda Blackboard Ally.

Mae Ally yn creu fformatau amgen o gynnwys sy'n haws i bawb eu defnyddio. Mae Ally yn gweithio o fewn gwefan er mwy iddo fod ar gael yn union lle mae arnoch ei angen.

Mae fformatau amgen yn cynnwys testun darllenadwy ar gyfer darllenwyr sgrin, lluniau â chapsiynau, a chynnwys hawdd ei lywio. Mae Ally yn creu dewisiadau amgen lluosog o'r cynnwys gwreiddiol ar safle. Gallwch lawrlwytho'r fformatau amgen hyn o unrhyw dudalen.