Pa fersiynau o Blackboard Learn sy’n cefnogi Ally?
Mae Blackboard Ally yn cael ei gefnogi ar Learn 9.1 Q2 2017 CU3 ac yn uwch. Mae hefyd ar gael ar gyfer Learn SaaS yng ngweddau cwrs Original ac Ultra.
Ni chefnogir sefydliadau Solaris sy'n hunan-letya.
A allwch chi sgorio cynnwys yng Nghasgliad Cynnwys Blackboard Learn cyn y caiff y cynnwys ei gymhwyso i gwrs?
Mae Ally yn sgorio’r cynnwys a ddefnyddir mewn cwrs yn unig. Gall cynnwys nas defnyddiwyd ogwyddo'r Adroddiad Sefydliadol ac nid yw wedi'i gynnwys.
Gallwch uwchlwytho cynnwys i ffolder gudd mewn cwrs, os yw hyfforddwyr eisiau gwneud diweddariadau hygyrchedd cyn ei wneud ar gael.
A yw Ally yn sganio pob cynnwys yn y Casgliad o Gynnwys?
Mae Ally ond yn sganio eitemau sydd wedi'u hatodi yn y cwrs ei hun ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu mai dim ond eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr caiff eu cynnwys yn yr adroddiadau. Nid yw hyn yn cynnwys cynnwys nas defnyddiwyd.
Pam nad ydwyf yn gweld Ffurfweddu Ally yn fy mhanel Gweinyddu?
Mae angen cael Blackboard Learn SaaS 3700.3.0 neu Blackboard Learn Q4 2019 (neu’n uwch) i weld Ffurfweddu Ally yn y panel Gweinyddu.
Os ydych yn defnyddio'r rhyddhad cywir, nid yw Blackboard Learn yn sylwi ar y ddolen newydd hon yn awtomatig wrth uwchraddio i'r rhyddhad hwn. Os yw hyn yn wir, gallwch doglo argaeledd y Bloc Adeiladu Ally i I Ffwrdd ac wedyn i Ymlaen eto. Wedi hynny, bydd y ddolen Ffurfweddu Ally ar gael.
Os ydych yn defnyddio rhyddhad cynharach, byddwn yn darparu cyfarwyddiadau i chi ar sut i gyrchu Ffurfweddu Ally yn ystod y broses o osod.
Os nad oes gennych fynediad o hyd, cyflwynwch gais ar Behind the Blackboard.