Ysgrifennu disgrifiadau da

Dilynwch yr arferion gorau hyn i ysgrifennu disgrifiadau testun amgen da ar gyfer eich delweddau:

  • Disgrifio'r ddelwedd yn seiliedig ar gyd-destun y dudalen. Cyfleu ystyr llawn y ddelwedd.
  • Peidio â dweud "delwedd o" neu "llun o". Mae darllenyddion sgrin yn cyflwyno delweddau fel delweddau yn awtomatig.
  • Bod yn gryno.
  • Ysgrifennu adroddiadau ar gyfer delweddau cymhleth fel ffeithluniau. Rhoi'r adroddiad hwn ar y dudalen yn syth ar ôl y ffeithlun. Cynnwys dolen angor ar frig y dudalen i weld y dewis amgen i'r testun. Cymerwch olwg ar esiampl o ffeithlun gyda dewis amgen i'r testun.
  • Peidio â defnyddio delweddau testun. Os oes rhaid ichi eu defnyddio, copïo’r testun mewn i'r disgrifiad amgen.
  • Dweud rhywbeth newydd. Peidio ag adrodd disgrifiadau amgen ar yr un dudalen. Peidio ag ailadrodd beth ddywedir ar y dudalen.
  • Nodi delweddau nad ydynt yn cynrychioli cynnwys perthnasol fel rhai addurnol.

Beth mae delwedd addurnol?

Mae delwedd yn addurnol pan nad yw'n ychwanegu at y wybodaeth sydd ar y dudalen. Er enghraifft, gwaith celfyddyd a ddefnyddiwyd i wahanu pynciau neu lun o rywun sydd ar y ffôn wrth drafod sgiliau cyfathrebu.

Maen nhw'n werthfawr ar ran ei apêl weledol ond efallai nad oes rhaid i ddarllenyddion sgrin eu darllen.

Rhagor am ddelweddau addurniadol ar wefan y fenter hygyrchedd ar y we


Pam mae disgrifiadau amgen delweddau yn bwysig?

Mae nifer o resymau i ddefnyddio disgrifiadau amgen gyda'ch delweddau.

  • Mae disgrifiadau amgen, neu destun, yn y canllawiau WCAG 2.1
  • Gall myfyrwyr chwilio am ddelwedd
  • Mae gan fyfyrwyr â nam ar y golwg anawsterau yn gweld delweddau
  • Efallai bydd gan fyfyrwyr â chysylltiad gwael at y rhwydwaith anawsterau yn gweld delweddau
  • Ni all darllenyddion sgrin ddarllen delweddau
  • Mae rhai myfyrwyr yn dysgu yn well o ddisgrifiadau na delweddau
  • Mae testun yn graddio'n well na'r mwyafrif o ddelweddau pan gaiff y sgrin neu'r dudalen ei mwyhau