Gweld fformatau amgen ffeil

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae gan bob myfyriwr alluoedd a dewisiadau dysgu unigryw. Pan fydd eich hyfforddwr yn darparu cynnwys mwy hygyrch, mae pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddyn nhw/ Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gall hyfforddwyr ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.

Ar ôl i'ch hyfforddwr atodi ffeil at gwrs, bydd Ally yn creu fformatau amgen o'r ffeil yn seiliedig ar y ffeil wreiddiol. Er enghraifft, os mai PDF yw'r ffeil wreiddiol, bydd Ally yn creu fformat sain, braille electronig ac ePub o'r un cynnwys. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r ffeil wreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.

Mae'r fformatau amgen a grëir yn dibynnu ar fath y ffeil wreiddiol. Os nad ydych yn gweld opsiwn i lawrlwytho fformatau amgen, nid yw Ally wedi'i alluogi ar gyfer y cwrs hwnnw neu ni chefnogir y math hwnnw o gynnwys.

Dod o hyd i ffeil yn eich cwrs. Dewiswch y ddewislen nesaf at y ffeil a dewiswch Fformatau Amgen. Dewiswch y fersiwn sydd orau i'ch anghenion chi! Dewiswch Lawrlwytho i gadw'r fformat amgen ar eich dyfais.

Rhagor am fformatau amgen cynnwys cyrsiau