Dewch o hyd i'r fformatau amgen sydd ar gael

Mae Ally yn creu fformatau amgen o’r cynnwys gwreiddiol mae hyfforddwyr yn ei ychwanegu at eu cyrsiau. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r ffeil wreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.

Mae'r fformatau amgen a grëir yn dibynnu ar y cynnwys gwreiddiol. Os nad ydych yn gweld opsiwn i lawrlwytho fformatau amgen, ni alluogwyd Ally ar gyfer y cwrs hwnnw neu nid yw'r ffeil yn fath o gynnwys a gefnogir.

Dewiswch yr eicon Lawrlwytho Fformatau Amgen lle bynnag rydych yn ei weld i lawrlwytho'r cynnwys mewn fformat arall. Dewiswch y fersiwn sydd orau i'ch anghenion chi!