Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Er bod y wybodaeth yma wedi'i ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr, mae'n berthnasol i bob defnyddiwr.
Esiampl o dudalen glawr
Gallwch ychwanegu teils i dudalen glawr eich uwch broffil.
Gallwch ddangos i'ch cyd-ddisgyblion a chyflogwyr y pethau rydych wedi'u cyflawni yn eich dosbarthiadau, prosiectau, cyfnodau gwirfoddoli, interniaethau a phrofiadau gwaith.
Gallwch hefyd ychwanegu teils i ddangos eich gwybodaeth berthnasol megis eich sefydliad a phwnc eich gradd.
Galluoedd
Gallwch ychwanegu galluoedd i'ch proffil o'ch tudalen glawr neu o dudalen Galluoedd.
Ychwanegwch alluoedd i ddangos i gyflogwyr beth rydych chi'n gwybod. Er enghraifft, beth am ychwanegu rhai o'r galluoedd hyn:
- Offer meddalwedd y mae gennych wybodaeth ddigonol ynddynt
- Technegau rydych wedi'u dysgu
- Sgiliau tîm
- Ardystiadau ar gyfer adfywio cardio-pwlmonaidd, rhwydweithiau cyfrifiaduron, a hyfforddiant achub bywyd
- Cydnabyddiaeth graddio gan eich sefydliad, megis bod ar restr y Deon
- Gwobrau ar gyfer cystadlaethau
Gallwch greu eich galluoedd eich hun neu ddefnyddio'r rhai a ddarperir gan yr Occupational Information Network (O*NET) - cronfa ddata ar-lein am ddim sy'n cynnwys diffiniadau galwedigaethol.
Teipiwch yn y blwch Ychwanegu i weld rhestr o alluoedd.
Defnyddiwch alluoedd i ddangos eich lefel o fedrusrwydd
Gallwch ddangos eich lefel gwybodaeth ym mhob un o’r cymwyseddau a ychwanegwch i’ch proffil. Os ydych yn fedrus iawn mewn maes penodol, rhowch wybod i ddarpar gyflogwyr!
Pan fyddwch yn creu gallu, nodwch ble dysgoch neu ymarferoch y sgil. Dewiswch brofiad gwaith neu brosiect i’w gysylltu â’r cymhwysedd. Dewiswch deilsen gallu ar unrhyw adeg i ychwanegu profiad gwaith a phrosiectau ychwanegol. Gallwch hefyd ychwanegu cymwyseddau pan fyddwch yn creu neu olygu profiad gwaith neu brosiect.
Pob tro y byddwch yn cysylltu cymhwysedd gyda phrofiad gwaith a phrosiectau, bydd y lefel sgil yn cynyddu. Mae lefelau galluoedd yn amrywio o wrthi'n dysgu i medrus.
I ddileu gallu, dewiswch y gallu, wedyn dewiswch yr X. Pan fyddwch yn dileu gallu, rydych yn cael gwared â'r cofnod ac unrhyw gysylltiadau gyda phrofiad gwaith a phrosiectau.
Prosiectau
Ychwanegwch weithgaredd prosiect i'ch proffil o'ch tudalen glawr neu o dudalen Prosiectau. Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth hon:
- Enw'r Prosiect: Enw'r prosiect a weithioch arno
- Disgrifiad: Disgrifiad o'r prosiect a beth wnaethoch chi
- Dolenni i ddelweddau a fideos o'r prosiect: Dangoswch fideo neu gasgliad o ddelweddau. Mae MyEdu yn gallu dangos fideos o YouTube™ a Vimeo, a delweddau o Flickr a SlideShare. Gallwch ddarparu dolen i un yn unig, felly dewiswch yr un sy'n dangos y prosiect orau.
- Math o Brosiect: Yn cynnwys academaidd, allgyrsiol, swydd, interniaeth, personol a gwirfoddol
- Galluoedd: Rhestr o alluoedd y datblygoch tra'n gweithio ar y prosiect hwn, rhaid eu hychwanegu un ar y tro
Caiff y prosiect a'r galluoedd eu hychwanegu i'r dudalen Prosiect a'r dudalen glawr. Mae cofnod y prosiect diweddaraf yn ymddangos yn gyntaf.
Dewiswch Golygu nesaf at bob cofnod i'w olygu neu ddileu. Pan fyddwch yn dileu prosiect, rydych yn cael gwared â'r cofnod ac unrhyw gysylltiadau gyda galluoedd.
Profiad gwaith
Ychwanegwch brofiad gwaith i'ch proffil o'ch tudalen glawr neu o'r dudalen Profiad Gwaith. Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth hon:
- Cwmni: Enw'r cwmni lle roeddech yn gweithio
- Teitl Swydd: Teitl eich swydd
- Dyddiadau Cychwyn a Gorffen: Pryd gychwynnoch chi gyda'r cwmni a phryd orffennoch chi
- Lleoliad y Swydd: Ble oedd lleoliad y swydd
- Disgrifiad: Disgrifiad o'r swydd
- Galluoedd: Rhestr o alluoedd ddatblygoch chi tra'n gweithio yn y swydd hon, rhaid eu hychwanegu un ar y tro
Caiff eich profiad gwaith ei ychwanegu at dudalen Profiad Gwaith a'r dudalen glawr. Mae cofnod y profiad gwaith diweddaraf yn ymddangos yn gyntaf.
Dewiswch Golygu nesaf at bob cofnod i'w olygu neu ddileu. Pan fyddwch yn dileu profiad gwaith, rydych yn cael gwared â'r cofnod ac unrhyw gysylltiadau gyda galluoedd.
Ychwanegu, trefnu, golygu a dileu teils
- Ychwanegwch deils o'r Llyfrgell Deils, a ddaw ar ôl eich casgliad o deils.
- Dewiswch deilsen i olygu pa wybodaeth i'w dangos.
- Ar eich tudalen glawr, fe drefnir y teils yn awtomatig yn y drefn y'u crëwyd gennych. Dewiswch Trefnu Teils i symud eich teils.
- Dilëwch y teils nad ydych eu hangen mwyach.
- I symud teilsen i leoliad arall, dewiswch a llusgwch y deilsen i'r lleoliad newydd.
- I ddileu teilsen, dewiswch yr X sy'n ymddangos yn y gornel dde ar y top. Rhaid i chi ddewis Trefni Teils i ddileu teils. Nid yw’n bosibl dileu pob math o deil.
Cerdyn proffil
Mae'ch teils yn ymddangos ar eich cerdyn proffil. Gallwch ddefnyddio'r cerdyn proffil i gael rhagflas o sut mae'ch proffil yn ymddangos i eraill.
Teils sydd ar gael
Dewiswch o’r mathau o deils sydd ar gael yn y llyfrgell. Dim ond unwaith allwch chi ychwanegu rhai teils, a gallwch ychwanegu rhai nifer o weithiau.
| Enw | Gellir ychwanegu hwn unwaith yn unig | Gellir ychwanegu nifer o deils | Gellir dileu | Gweld fel tudalen ar wahân |
|---|---|---|---|---|
| Statws Gyrfa | Ie | Ie | ||
| Dosbarthiad | Ie | Ie | ||
| Cymwyseddau | Ie | Gallwch ddileu'r deilsen o'r dudalen glawr, ond mae'r wybodaeth yn dal i ymddangos ar y dudalen Galluoedd. Rhaid i chi ddileu'r wybodaeth o'r dudalen Galluoedd i'w ddileu'n barhaol. | Dewiswch Galluoedd o dan eich avatar i weld eich teils galluoedd a sgiliau mewn tudalen ar wahân. | |
| Cyrsiau Os oes gennych gyrsiau cyfredol o MyEdu, mae'ch gwybodaeth yn parhau ar y dudalen glawr, ond ni fyddwch yn gallu eu hychwanegu neu eu golygu. |
Ie | Ie | ||
| Math o Radd | Ie | Gallwch newid y wybodaeth ar y deilsen, ond ni allwch ei dileu. | ||
| Cynnydd Gradd | Ie | Gallwch newid y wybodaeth ar y deilsen, ond ni allwch ei dileu. | ||
| Ieithoedd Estron | Ie | Ie | ||
| Tref gartref | Ie | Ie | ||
| Sefydliad | Ie | Gallwch newid y wybodaeth ar y deilsen, ond ni allwch ei dileu. | ||
| Prif bwnc a GPA | Ie | Gallwch newid y wybodaeth ar y deilsen, ond ni allwch ei dileu. | ||
| Mudiadau | Ie | Ie | ||
| Prosiectau | Ie | Gallwch ddileu'r deilsen o'r dudalen glawr, ond mae'r wybodaeth yn dal i ymddangos ar y dudalen Prosiectau. Rhaid i chi ddileu'r gwybodaeth o dudalen Prosiectau er mwyn ei dileu'n barhaol. | Dewiswch Prosiectau o dan eich avatar i weld eich teils prosiect mewn tudalen ar wahân. | |
| Dyddiad ysgol a graddio | ||||
| Rhwydweithiau Cymdeithasol Gyda'r uwch broffil, nid yw Facebook a Twitter wedi'u hintegreiddio gyda'ch proffil, ond maen nhw'n cael eu rhannu gydag eraill trwy deilsen Rhwydweithiau Cymdeithasol. |
Ie | Ie | ||
| Profiad Gwaith | Ie | Gallwch ddileu'r deilsen o'r dudalen glawr, ond mae'r wybodaeth yn dal i ymddangos ar dudalen Profiad Gwaith. Rhaid i chi ddileu'r wybodaeth o dudalen Profiad Gwaith i'w dileu'n barhaol. | Dewiswch Profiad Gwaith o dan eich avatar i weld teils profiad gwaith mewn tudalen ar wahân. | |
| Dewis Lleoliad Gwaith | Ie | Ie |