Heblaw am y cynnwys ar y safle help hwn, sydd ar gael mewn amryw iaith, mae'r adnoddau cysylltiedig ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydych yn gwybod eich bod yn brysur. I'ch helpu i ddefnyddio'ch technoleg Blackboard yn llwyddiannus i gynyddu ymrwymiad myfyrwyr, i arbed amser i chi ac i wella perfformiad myfyrwyr, cynigwn nifer o adnoddau, digwyddiadau a chyfleoedd hyfforddiant.
Cael Atebion i'ch Cwestiynau
Blackboard Help
Cael help i ddefnyddio cynnyrch Blackboard gyda fideos, awgrymiadau arfer gorau, tiwtorialau a mwy.
Cymuned Blackboard
Cysylltu, rhannu a dysgu gan eich cyfoedion. Postiwch gwestiwn ar y bwrdd trafod, dilynwch sgyrsiau rhwng eich cyfoedion neu cyflwyno adborth ar gynnyrch yn y gyfnewidfa syniadau. Mae mannau cymunedol ar wahân ar gyfer gweinyddwyr systemau a datblygwyr.
community.blackboard.com
community.blackboard.com/developers
community.blackboard.com/community/systemadministrator
Cyfnewidfa Syniadau Blackboard
 nodwedd yr hoffech i ni ei ychwanegu at ein cynnyrch? Rhannwch eich syniadau, gweld syniadau a gyflwynwyd gan eich cyfoedion, a phleidleisio ar y prif ofynion am welliannau.
community.blackboard.com/community/ideas
Gwasanaethau Cefnogaeth
Cyfrif Twitter Blackboard Support
Dilynwch y cyfrif hwn i ryngweithio gyda chefnogaeth i gleientiaid, i ddysgu am ddiweddariadau i gynnyrch ac i adolygu gwybodaeth rhyddhau.
Statws Gwasanaethau Blackboard
Gweld diweddariadau amser real a gosod hysbysiadau ac argaeledd a statws cyfredol gwasanaethau Blackboard sy'n seiliedig ar y cwmwl.
Cymerwch olwg ar Gynnyrch Diweddaraf Blackboard
Nodiadau Rhyddhau ar gyfer Learn SaaS, Hunan-Letya a Lletya a Gefnogir
Cadw i fyny gyda'r gwelliannau diweddaraf i swyddogaethau, trwsiadau chwilod a gwaith cynnal a chadw cyffredinol i Blackboard Learn.
help.blackboard.com/Learn/Administrator/Hosting/Release_Notes
help.blackboard.com/Learn/Administrator/SaaS/Release_Notes
Blackboard Collaborate
Cofrestrwch ar gyfer eich treial am ddim o'n datrysiad un clic ar we-gynadledda ac ystafell ddosbarth rithwir. Ymrwymwch â'ch dysgwyr gyda'r datrysiad cydweithredol hwn sy'n hawdd ei defnyddio.
Dysgwch o'ch Cyfoedion ac Arbenigwyr Blackboard
Blackboard Learn ac Oriau'r Swyddfa Dechnegol
Ymunwch yn y gyfres hon o weminarau unwaith y pythefnos a hwylusir gan Gymorth a Chymuned Blackboard i glywed am y nodweddion newydd diweddaraf, cynnyrch newydd a ryddhawyd a'r prif broblemau hysbys a'u trafod.
community.blackboard.com/groups/learn-office-hours
Oriau Swyddfa Dechnegol: https://community.blackboard.com/groups/home/78
Grŵp Rhithwir SaaS
Mae Grŵp Rhithwir SaaS yn cwrdd bob wythnos i gydweithio a rhannu eu profiadau. Mae'r grŵp hwn ar gyfer cwsmeriaid Blackboard sydd naill ai'n defnyddio neu'n ystyried defnyddio SaaS yn eu hawyrgylch ar Blackboard Learn.
community.blackboard.com/groups/saas-virtual-user-group
Cyfres Gweminarau Map Dysgu Addysgu a Dysgu Blackboard
Ymunwch â'n arweinwyr Rheoli Cynnyrch wrth iddynt roi'r newyddion diweddaraf i chi ar y newydd bethau a'r pethau sy'n dod yn fuan ar gyfer eich hoff gynnyrch Blackboard gan gynnwys Blackboard Learn (profiad Gwreiddiol a phrofiad Ultra), Blackboard Collaborate, a'n hapiau symudol (Blackboard a Blackboard Instructor). Bob chwarter, rydym yn cynnal gweminarau map er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf ar y cynnyrch Addysgu a Dysgu a ddefnyddir gan eich sefydliad bob dydd.
community.blackboard.com/groups/productroadmaps
Cylchlythyr Diweddariadau Cynnyrch Addysgu a Dysgu Blackboard
Mae'r cylchlythyr misol hwn yn sôn am bopeth sydd angen i chi wybod am Blackboard Learn, Blackboard Collaborate, Blackboard Ally a'r apiau symudol.
bbbb.blackboard.com/NAHE_ProductNewsletterSubscribe
Tanysgrifiwch i Garfannau Addysgu a Dysgu
Mae paratoi i ddiweddaru Learn neu i symud i brofiad Ultra ar gyfer Collaborate neu Learn yn gofyn am gynllunio, paratoi a chefnogaeth ofalus. Dyna pam rydym yn hapus i allu cynnig rhaglenni carfan sy'n eich darparu â gwybodaeth werthfawr ac arferion gorau er mwyn sicrhau eich llwyddiant. Cynigwn carfannau unwaith y chwarter. Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau ar y sesiynau sydd ar ddod.
community.blackboard.com/groups/cohorts
Dogfennaeth Blackboard i Ddatblygwyr
Gallwch ganfod pob dogfen sydd ei hangen arnoch i ddechrau adeiladu integreiddiadau yn erbyn cynhyrchion Blackboard yma:
docs.blackboard.com