Mae Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yn rhoi gwybodaeth fanwl am y cyfatebiadau a ganfuwyd rhwng eich papur a gyflwynwyd a ffynonellau presennol. Gall hyfforddwyr a myfyrwyr ddefnyddio’r adroddiad i adolygu cyflwyniadau aseiniad ar gyfer gwreiddioldeb ac adnabod cyfleoedd i briodoli ffynonellau yn gywir yn hytrach nag aralleirio. Pan fydd hyfforddwyr yn creu aseiniad a dewis defnyddio SafeAssign, maent yn pennu a yw’r myfyrwyr yn gallu gweld canlyniadau’r adroddiad.

Mae’r adroddiad yn nodi’r holl flociau o destun sy’n cyfateb. Mae angen i hyfforddwyr a myfyrwyr bennu a yw'r testun cyfatebol wedi'i briodoli'n gywir. Mae archwilio pob cyfuniad yn atal gwallau canfod oherwydd gwahaniaethau mewn safonau dyfynnu.

Mae’r Adroddiad Gwreiddioldeb yn arddangos y rhestr o ffynonellau posibl, ac mae pob ffynhonnell wedi ei hamlygu mewn lliw gwahanol. Gall yr adroddiad arddangos hyd at 30 o liwiau i gynrychioli 30 ffynhonnell wahanol.

Mae gwybodaeth Adroddiad Gwreiddioldeb yn addasu i'r sgrin mae'n ymddangos ar, megis iPad® neu iPhone®.


Gwreiddiol: Dod o hyd i'r adroddiad

Eich hyfforddwr sy'n rheoli mynediad myfyrwyr at Adroddiadau Gwreiddioldeb SafeAssign.

Yn ardal y cwrs, dewiswch ddolen yr aseiniad i weld y dudalen Adolygu Hanes Cyflwyniadau. Mae adran SafeAssign yn ymddangos yn y bar ochr graddio. Wrth brosesu'r adroddiad, ymddengys neges Adroddiad wrthi....

Pan fydd yr adroddiad yn barod i’w weld, bydd canran yn ymddangos yn y bar ochr graddio. Ehangwch y ddolen SafeAssign a dewiswch Gweld Adroddiad Gwreiddioldeb i weld y canlyniadau mewn ffenestr newydd.


Gwylio fideo am SafeAssign - Adroddiad Gwreiddioldeb


Ultra: Dod o hyd i'r adroddiad

Os yw’ch hyfforddwr wedi caniatáu mynediad i Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign, gallwch wirio a ydych wedi dyfynnu’ch ffynonellau’n gywir.

Agor yr aseiniad ac adolygu'ch ymgais. Gallwch adolygu'r Adroddiad Gwreiddioldeb yn fuan ar ôl i chi gyflwyno'ch ymgais, hyd yn oed cyn i'ch hyfforddwr bostio graddau. Bydd Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yn ymddangos nesaf at eich aseiniad. Dyma ragolwg o ganlyniadau'r adroddiad ac mae'n cynnwys tair adran: Risg Gyffredinol, Cydweddu Testun Cyffredinol, ac Adroddiadau Gwreiddioldeb .

  • Mae Risg Cyffredinol yn dangos a yw'ch ymgais yn risg isel, canolig neu uchel o ran llên-ladrad. Caiff lefel y risg ei bennu yn seiliedig ar ystod cyfateb y testun ar gyfartaledd yn eich ymgais.

    Mwy ar ddehongli sgoriau SafeAssign

  • Mae Testun Cyfatebol Cyffredinol yn dangos canran uchaf y testun cyfatebol a'r ganran gyffredinol ar gyfer darnau'ch ymgais. Am blymio i mewn? Gallwch weld yr adroddiadau llawn yn adran Adroddiadau Gwreiddioldeb.
  • Mae Adroddiadau Gwreiddioldeb yn dangos canran y testun cyfatebol posibl ar gyfer pob darn o’ch cyflwyniad, gan gynnwys cwestiynau ac atodiadau. Dewiswch unrhyw un o’r cofnodion yn y rhestr i weld y canlyniadau mewn ffenestr newydd.

Cynllun newydd yr adroddiad

Mae’r Adroddiad Gwreiddioldeb newydd ar gael ar gyfer amgylcheddau Moodle a Blackboard Learn SaaS. Mae hefyd ar gael yn Blackboard Learn 9.1 Q2 2019.

Rhennir Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yn dair adran:

  • Crynodeb o’r Adroddiad
  • Dyfyniadau
  • Cyflwyniad

Crynodeb o’r Adroddiad

Mae Crynodeb o'r Adroddiad yn ymddangos yn y panel ar dop yr adroddiad. Dewiswch Gweld Crynodeb o'r Adroddiad i weld Risg Gyffredinol dyfyniadau anghywir yn y papur, gan gynnwys y ganran o destun cyfatebol neu debyg. Os yw'r myfyriwr wedi cynnwys atodiadau lluosog, maen nhw'n ymddangos gyda gwybodaeth yr adroddiad.

Dyfyniadau

Dyfyniadau

Fe restrir y ffynonellau sy'n cynnwys testun sy'n cyd-fynd â thestun y papur a gyflwynwyd ym mhanel de'r adroddiad. Dewiswch fath y ffynhonnell i ddysgu rhagor am y testun sy'n cyfateb. Ar gyfer pob ffynhonnell, mae rhif yn ymddangos sy'n cyd-fynd â'r testun a amlygwyd yn y cyflwyniad. Nesaf at y ffynhonnell, gallwch ddewis Dangos y testun cyfatebol i doglo'r testun cyfatebol. Gallwch hefyd ddewis Agor y ffynhonnell gyfatebol i ymweld â ffynhonnell y testun cyfatebol mewn ffenestr newydd.

Os yw papur myfyriwr arall yn cael ei restru fel dyfyniad, mae’r cyflwyniad yn gysylltiedig â sefydliad arall ac efallai na allwch ei weld oherwydd deddfau preifatrwydd.

Pan fydd cyflwyniad myfyriwr yn cael ei dileu o gwrs, bydd y cynnwys yn aros yn y gronfa ddata a gellir ei defnyddio i ganfod cyfatebiadau ar gyfer cyflwyniadau eraill gan fyfyrwyr yn y dyfodol. Yn yr achos hwn, fe restrir "papur nad yw'n bodoli" fel y ffynhonnell yn yr Adroddiad Gwreiddioldeb. Bydd SafeAssign yn canfod cyfatebiad, ond ni fyddwch yn gallu agor y ffynhonnell i gymharu'r cyfatebiadau gan fod y ffynhonnell wedi cael ei ddileu.

Pan fyddwch yn lleihau lled yr ardal wylio, mae’r wybodaeth hon yn ymddangos ar y brig.

Cyflwyniad

Mae’r papur a gyflwynwyd yn ymddangos ym mhanel chwith yr adroddiad. Nodir yr holl ddarnau o destun sy’n cyfateb. Mae lliw penodol wedi’i ddynodi ar gyfer pob ffynhonnell - mae hyd at 30 o liwiau unigryw ar gyfer 30 gwahanol ffynhonnell. Mae testun sy’n cyfateb i ffynhonnell yn cael ei amlygu yn lliw’r ffynhonnell a’i nodi gyda rhif. Yn y panel Dyfyniadau, gallwch ddewis Amlygu'r cyfatebiad i droi amlygu'r ffynhonnell i ffwrdd ac ymlaen ar gyfer pob ffynhonnell ar un tro. Gallwch droi’r amlygu i ffwrdd ac ymlaen ar gyfer un dyfyniad yn unig. Dewiswch Tynnu neu Amlygu'r cyfatebiad wrth ochr dyfyniad.

Dewiswch floc cyfatebol o destun i ddangos gwybodaeth am y ffynhonnell wreiddiol a'r tebygolrwydd y copïwyd y bloc neu frawddeg o'r ffynhonnell.

Opsiynau a gwybodaeth ychwanegol

Dan y cyflwyniad, gallwch ddod o hyd i fanylion fel nifer y geiriau, dyddiad y cyflwyniad, a dangosyddion unigryw y cyflwyniad a'r atodiad.

Gallwch weld fersiwn y mae modd ei argraffu o'r Adroddiad Gwreiddioldeb. Y fersiwn hwn y mae modd ei argraffu yw'r wedd fwyaf effeithiol o'r adroddiad ar gyfer defnyddwyr sy'n dibynnu ar dechnoleg gynorthwyol. Ar frig y dudalen, dewiswch Argraffu i weld y fersiwn argraffadwy. Llwythwch y PDF i lawr i’w e-bostio i eraill.


Atodiadau ac ymgeisiau niferus

Mae SafeAssign yn cydnabod ymgeisiadau lluosog ar gyfer aseiniad unigol fel y’u cyflwynwyd gan yr un myfyriwr ar gyfer yr un aseiniad. Nid yw SafeAssign yn gwirio cynnwys yr ymgais gyfredol yn erbyn cynnwys cyflwyniadau blaenorol.

Os yw myfyriwr yn cynnwys mwy nag un atodiad gydag aseiniad, byddant yn cael eu rhestru yn yr adroddiad. Dewiswch ddolen enw ffeil i weld testun y ffeil yn y panel chwith ac edrychwch ar ei gyfrif geiriau yn y panel de.

Gallwch agor yr holl ffynonellau ar yr un pryd. Bydd pob ffynhonnell yn agor mewn tab newydd. Os rydych yn defnyddio Google Chrome TM bydd angen i chi ganiatáu hyn yng ngosodiadau Chrome. Ewch i Pop-ups and redirects a dewiswch Sites can send pop-ups and use redirects.


Dehongli sgoriau SafeAssign

Mae sgorau cyfateb brawddegau yn cynrychioli’r tebygolrwydd canrannol y bydd gan ddwy frawddeg yr un ystyr. Mae’r nifer yn adlewyrchu’r cilydd i’r tebygolrwydd fod y ddwy frawddeg hyn yn debyg ar hap. Er enghraifft, mae sgôr o 90 y cant yn golygu fod yna debygolrwydd o 90 y cant fod y ddwy frawddeg yma'r un fath. Mae 10 y cant o debygolrwydd eu bod yn debyg ar hap ac nid oherwydd bod y papur a gyflwynwyd yn cynnwys deunydd o’r ffynhonnell bresennol - boed wedi ei briodoli yn gywir neu beidio.

Mae’r sgôr SafeAssign cyffredinol yn dynodi’r tebygolrwydd fod y papur a gyflwynwyd yn cynnwys cyfatebiadau i’r ffynhonnell bresennol. Mae’r sgôr hwn yn ddangosydd rhybudd yn unig. Adolygwch bapurau i weld a yw’r cyfatebiadau wedi eu priodoli’n gywir.

  • Isel: Sgorau dan 15 y cant: Mae’r papurau hyn fel arfer yn cynnwys rhai dyfyniadau neu frawddegau cyffredin neu ddarnau o destun sy’n cyd-fynd â dogfennau eraill.
  • Canolig: Sgoriau rhwng 15 y cant a 40 y cant: Mae’r papurau hyn yn cynnwys deunydd a ddyfynnwyd neu wedi ei aralleirio sylweddol neu’n cynnwys llên-ladrad.
  • Uchel: Sgorau dros 40 y cant: Ceir tebygolrwydd cryf iawn fod testun yn y papurau hyn wedi eu copïo o ffynonellau eraill. Mae'r papurau hyn yn cynnwys testun wedi'i dyfynnu neu aralleirio i ormodedd ac awgrymir yn gryf y dylid adolygu'r papurau hyn.