Mae llên-ladrad yn drosedd ddifrifol gyda goblygiadau difrifol.

Cyfieithiad o ddiffiniad Merriam-Webster o lên-ladrad:

  • Defnyddio geiriau neu syniadau rhywun arall fel pe byddent eich geiriau neu syniadau chi
  • Dwyn a defnyddio—syniadau neu eiriau rhywun arall—fel eich syniadau neu eiriau chi
  • Defnyddio cynhyrchiad rhywun arall heb gydnabod y ffynhonnell
  • Cyflawni lladrad llenyddol
  • Cyflwyno syniad neu gynnyrch sy'n deillio o ffynhonnell sydd eisoes yn bodoli fel un newydd a gwreiddiol1

Prin iawn yw’r rhai sy’n ystyried copïo o’r we i fod yn dwyll difrifol. Fodd bynnag, ystyrir unrhyw beth a gyhoeddir ar y we i fod yn fynegiant gwreiddiol o syniad, sydd wedi ei ddiogelu gan ddeddfau hawlfraint.

Gall cyflawni llên-ladrad ddinistrio eich enw da personol, academaidd, a phroffesiynol. Gall hyn gael oblygiadau cyfreithiol ac ariannol.2


Gallwch osgoi llên-ladrad

Dysgu am lên-ladrad. Mae sawl math o lên-ladrad—o glonio i ailgylchu. Gwybod y mathau o lên-ladrad er mwyn eu hosgoi (ar gael yn Saesneg yn unig).

Dysgu sut i ddyfynnu'ch ffynonellau. Cadarnhewch ba arddull o ddyfynnu ffynonellau mae'ch hyfforddwyr yn ei disgwyl oherwydd mae ganddynt nifer i ddewis o'u plith. Dysgwch pa arddull yw dewis eich hyfforddwr. Os gallwch ddewis, dewiswch un arddull a’i ddefnyddio’n gyson.

Cynllunio gwaith eich aseiniadau. Crynhowch eich syniad gwreiddiol a chynlluniwch sut rydym yn bwriadu ei fynegi. Crëwch ddrafftiau ac amlinelliadau, dynodwch pa ffynonellau y bwriadwch eu canfod, ac esboniwch sut ydych yn bwriadu eu defnyddio.

Ymgyfarwyddwch â'ch pwnc. Y mwyaf cyfarwydd rydych gyda'r pwnc, y mwyaf tebygol ydych i ddefnyddio'ch geiriau'ch hun. Y mwyaf o ffynonellau edrychwch arnynt, y mwyaf cyfarwydd byddwch gyda'r pwnc. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw trywydd o’ch ffynonellau.

Cymerwch nodiadau pan fyddwch yn adolygu ffynonellau. Gall cymryd nodiadau da helpu i drefnu'ch syniadau ac i fynegi syniadau rhywun arall yn eich geiriau eich hun.

Dyfynnwch eich ffynonellau. Os ydych yn ansicr, byddwch yn or-ofalus a dyfynnwch eich ffynonellau.

Byddwch yn ofalus i nodi syniadau a geiriau person arall yn glir. Nid yw dyfynnu ffynonellau'n ddigon. Byddwch yn glir o ran pwy ddywedodd beth. Pan mae'n ofynnol, rhowch gydnabyddiaeth i'ch ffynonellau.


Gwirio am lên-ladrad posib

Mae SafeAssign yn ddarn o offer sydd ar gael i chi a'ch hyfforddwyr. Mae SafeAssign yn helpu i hyrwyddo gwreiddioldeb ac yn creu cyfleoedd i'ch helpu i adnabod sut i briodoli ffynonellau'n gywir yn hytrach na'u haralleirio.

Mae SafeAssign yn seiliedig ar algorithm paru testun unigryw sy’n gallu nodi cydweddu union ac anunion rhwng papur a deunydd ffynhonnell. Cymharir aseiniadau yn erbyn sawl cronfa ddata yn cynnwys miliynau o erthyglau yn dyddio o’r 1990au hyd heddiw. Ar ôl y gymhariaeth, fe gynhyrchir adroddiad sy'n rhoi manylion am ganran y testun yn eich papur sy'n cyd-fynd â ffynonellau sy'n bodoli eisoes.


Ffynonellau

1"Plagiarize." Merriam-Webster. Merriam-Webster, n.d. Gwe. 17 Ebr. 2019.

2"6 Consequences of Plagiarism." 6 Consequences of Plagiarism. N.p., n.d. Gwe. 17 Ebr. 2014.

"Home." Plagiarism.org. N.p., n.d. Gwe. 15 Ebr. 2014.

"How to Avoid Plagiarism in Your Work." Grammarly. N.p., n.d. Gwe. 17 Maw. 2020.