Hidlwch y rhestr o nodweddion i ddysgu rhagor.

Beth mae'r categorïau'n golygu?

Dilynwch y dudalen hon i gael diweddariadau ar e-bost pan fyddwn yn cyhoeddi nodiadau rhyddhau newydd


Ynglŷn â SafeAssign

Defnyddir SafeAssign i hyrwyddo gwreiddioldeb ac i greu cyfleoedd i helpu myfyrwyr i adnabod sut i briodoli ffynonellau'n gywir yn hytrach nag aralleirio. Mae'n cymharu aseiniadau a gyflwynwyd yn erbyn set o bapurau academaidd i nodi’r meysydd sy’n gorgyffwrdd rhwng yr aseiniadau a gyflwynwyd a gweithiau presennol Mae SafeAssign yn effeithiol fel ataliad ac offeryn addysgol. Gall hyfforddwyr ddefnyddio SafeAssign i archwilio llên-ladrad posib mewn aseiniadau a gyflwynwyd. Os caniateir gan hyfforddwyr, gall myfyrwyr adolygu eu gwaith eu hunain am lên-ladrad posib.

Rhagor am sut mae SafeAssign yn gweithio


Ailddyluniad Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign

Ar gael ar gyfer Moodle a Blackboard Open LMS | Rhyddhawyd ar 20 Medi 2018

Rydym wedi diweddaru dyluniad Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign ym mhob un o amgylcheddau Moodle a Blackboard Open LMS. Mae'r Adroddiad Gwreiddioldeb newydd yn defnyddio athroniaeth dyluniad Ultra ac yn cynnwys ychydig wybodaeth newydd ynglŷn â'r risg gyffredinol bod cyflwyniad wedi cael ei gopïo o ffynhonnell arall. Mae rhyngwyneb newydd yr adroddiad hwn hefyd yn fwy ymatebol ar gyfer dyfeisiau symudol ac yn fwy hygyrch i ddarllenwyr sgrin na'r hen ddyluniad; byddwn yn ceisio cydymffurfiaeth VPAT ar gyfer y dyluniad newydd hwn yn fuan! Mae’r rhyddhad hwn yn caniatáu i dîm SafeAssign fod yn fwy ailadroddol a darparu diweddariadau i ddyluniad newydd yr adroddiad ar sail fwy aml a heb orfodi cael diweddariad i blatfform yr LMS. Byddwn yn parhau i sôn am newidiadau ar dudalennau cymorth SafeAssign, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y tudalennau hyn hefyd am wybodaeth newydd!

Gall ddefnyddwyr newid yn ôl i hen ddyluniad yr Adroddiad Gwreiddioldeb am ychydig yn hirach er mwyn symleiddio'r cyfnod pontio.

Gall ddefnyddwyr Blackboard Learn ddisgwyl diweddariad ar gyfer Learn sy'n cynnwys dyluniad newydd yr Adroddiad Gwreiddioldeb yn fuan!

Archwiliwch yr Adroddiad Gwreiddioldeb newydd



Nodiadau Rhyddhau ar gyfer Fersiynau Blaenorol

Mae'r nodiadau rhyddhau ar gyfer fersiynau blaenorol ar gael yn Saesneg yn unig.

Nodiadau rhyddhau sy'n cydweddu â Blackboard Learn 9.1 Ebrill 2014 ac yn hwyrach

Nodiadau rhyddhau sy'n cydweddu â Blackboard Learn 9.1 SP14 ac yn gynharach


Categorïau Nodiadau Rhyddhau

Gwasanaeth Canolog

Platfform Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) yw SafeAssign a gyhoeddir gan Amazon Web Services (AWS). Yn y nodiadau rhyddhau, rydym yn cyfeirio at feddalwedd SafeAssign a'r caledwedd a letyir yn AWS fel y Gwasanaeth Canolog. Mae'r Gwasanaeth Canolog yn darparu trosiant y ddogfen, storfa, a dadansoddiad o wreiddioldeb ac yn darparu rhyngwyneb yr Adroddiad Gwreiddioldeb ar gyfer holl ddefnyddwyr SafeAssign.

Un fersiwn o'r Gwasanaeth Canolog sy'n bodoli ar gyfer yr holl ddefnyddwyr, sy'n golygu bod mwyafrif y diweddariadau i'r Gwasanaeth Canolog yn berthnasol i bob cwsmer ar yr un pryd yn yr un modd. Mae'n bosibl bydd rhai materion yn ymwneud â swyddogaeth neu achlysuron lle mae rhai diweddariadau ar gael i gwsmeriaid penodol yn unig. Yn yr achosion hyn, byddwn yn esbonio'r eithriadau yn y nodiadau rhyddhau ar gyfer y Gwasanaeth Canolog, yr Adroddiad Gwreiddioldeb neu'r Integreiddiadau perthnasol.

Adroddiad Gwreiddioldeb

Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yw'r brif rhyngwyneb defnyddiwr ar gyfer yr holl ddefnyddwyr. Gwasanaethir yr Adroddiad Gwreiddioldeb gan y Gwasanaeth Canolog a gellir ei diweddaru heb orfod diweddaru LMS defnyddwyr. Mae hyn yn ein caniatáu i drwsio chwilod a diweddaru pwyntiau mewn modd hyblyg ac mae'n helpu Blackboard i ddarparu profiad o ansawdd uchel i bob defnyddiwr beth bynnag eu LMS neu integreiddiad.

Integreiddiadau

Darperir dogfennau a data defnyddwyr i Wasanaeth Canolog SafeAssign trwy integreiddio gyda'r LMS. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig integreiddiadau gyda Blackboard Learn a Moodle. Crëir integreiddiad Blackboard Learn trwy floc adeiladu a chrëir integreiddiad Moodle trwy ategyn. Mae Blackboard yn cynnal yr integreiddiadau hyn ar ran ein cleientiaid.

Gellir diweddaru'r integreiddiadau hyn yn annibynnol neu ar y cyd â diweddariadau i'r Adroddiad Gwreiddioldeb a/neu Wasanaeth Canolog. Yn yr achosion hyn, byddwn yn esbonio diweddariadau ar gyfer meysydd perthnasol o'r gwasanaeth yn y nodiadau rhyddhau.