Yn ôl i’r Datganiad Preifatrwydd

Mae'r dudalen hon yn egluro beth sy'n newydd yn ein Datganiad Preifatrwydd ac yn dangos hanes y newidiadau.

 

Rhagfyr 2020

Newidiadau allweddol yn y fersiwn hon:

  • Rydym wedi diweddaru adrannau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau data yn sgil dirymu'r fframwaith Privacy Shield rhwng yr UE ac UDA. 

  • Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r adran sy’n esbonio sut rydym yn defnyddio gwybodaeth ar gyfer cynhyrchion rydym yn eu darparu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr, yng ngoleuni ein cynnyrch Blackboard Assist newydd.


 Ebrill 2020

Wedi diweddaru lleoliad y swyddfa. Dim newidiadau eraill i'r cynnwys.


Rhagfyr 2019

Newidiadau allweddol yn y fersiwn hon:

  • Cynhwyswyd cyfeiriad gennym at ein Hysbysiad Preifatrwydd California ar wahân a chyfeiriad at yr hawliau CCPA yn yr adran “Eich hawliau”. 

  • Rydym wedi cynnwys eglurhad mewn amrywiol adrannau i wahaniaethu rhwng sut rydym yn defnyddio ac yn rhannu gwybodaeth bersonol at ein dibenion ein hunain fel “rheolydd” (e.e. ar gyfer ein gwefannau, marchnata) a sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol ar ran ein cleientiaid fel “prosesydd”.  

  • Darparwyd mwy o fanylion gennym ar  ein dull preifatrwydd pan fyddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol ar gyfer gwerthuso, gwella a datblygu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau.

  • Diweddarwyd yr adran “Defnyddwyr ein DTLS, ein fersiynau prawf ar-lein neu Addysg Agored” gennym i adlewyrchu ein Gwasanaethau Addysgu a Dysgu Digidol newydd (DTLS).

  • Cynhwyswyd eglurhad gennym ar ein hymrwymiadau yn  yn achos newid i'n strwythur busnes.

  • Eglurwyd gennym, er nad oes hysbysebu ymddygiadol  yn ein cynhyrchion a'n gwasanaethau, y gallwn osod hysbysebu cyd-destunol. 

  • Cynhwyswyd mwy o fanylion gennym am ein dull yn yr adran ar breifatrwydd Plant.


Mai 2018

Rydym wedi ailgynllunio ein Datganiad Preifatrwydd yn llwyr, ond nid ydym wedi newid sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Dyma’r prif welliannau:

  • Rydym yn defnyddio iaith symlach.
  • Fe wnaethom gynnwys crynodeb ar y dechrau ar gyfer y rhai nad oes ganddynt amser i ddarllen yr holl fanylion.
  • Rydyn ni'n esbonio'n well ym mha amgylchiadau yr ydym yn 'rheolwr data,' pryd fyddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol ar ran ein cleientiaid fel 'prosesydd data,' a beth mae hyn yn ei olygu i chi.
  • Fe wnaethom strwythuro'r wybodaeth allweddol mewn tair adran (defnyddwyr y wefan, defnyddwyr ein cleientiaid a defnyddwyr ein fersiynau treial) i adlewyrchu bod y ffordd yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth yn dibynnu ar eich perthynas â ni.
  • Rydyn ni'n disgrifio'n fwy manwl pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut yr ydym yn ei defnyddio, a gyda phwy rydyn ni'n ei rhannu.
  • Rydym yn amlinellu ein gweithgareddau marchnata yn gliriach.

Mehefin 2017

Dewch o hyd i fersiwn archif Mehefin 2017 o'n Polisi Preifatrwydd yma.