Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Ynghylch cwestiynau mannau poeth

Mae cwestiynau mannau poeth yn dangos delwedd i chi y mae angen i chi ollwng pin ar un neu fwy o'r mannau poeth mae eich hyfforddwr wedi'u creu yn y ddelwedd honno. Mae cwestiynau mannau poeth yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gwahanol ddisgyblaethau. Mewn cwrs anatomeg, er enghraifft, efallai gofynnir i chi nodi rhannau corff. Mewn cwrs daearyddiaeth, i farcio lleoliad penodol ar fap. Mewn cwrs ieithoedd modern, i ddewis dilledyn penodol. Mewn cwrs ecoleg neu fioleg, efallai gofynnir i chi nodi ba rywogaethau neu unigolion sy'n perthyn i'r cynefin cyfatebol mae'r brif ddelwedd yn ei ddisgrifio, neu'r rhai nad ydynt yn perthyn.


Mathau o gwestiynau mannau poeth

Fe welwch fathau gwahanol o gwestiynau mannau poeth mewn prawf neu aseiniad.

  • Man Poeth Safonol: Mae'n dangos delwedd i chi y mae angen i chi ollwng pin yn un neu fwy o'r mannau poeth mae eich hyfforddwr wedi'u creu yn y ddelwedd. Nid ydych yn gwybod lleoliad y mannau poeth.
  • Man Poeth Amlddewis: Mae'n dangos delwedd i chi y mae angen i chi ollwng pin yn un neu fwy o'r mannau poeth mae eich hyfforddwr wedi'u creu. Gallwch weld lleoliadau'r mannau poeth. Mae un man poeth yn gywir ac mae'r mannau poeth eraill yno i wrthdynnu eu sylw.
  • Man Poeth Amlateb: Mae'n dangos delwedd i chi y mae angen i chi ollwng pin yn un neu fwy o'r mannau poeth mae eich hyfforddwr wedi'u creu. Gallwch weld lleoliadau'r mannau poeth. Mae un neu fwy o fannau poeth yn gywir ac mae'r mannau poeth eraill yno i wrthdynnu eu sylw.

Gall mannau poeth gynnwys disgrifiadau, a/neu fod yn weladwy neu'n gudd ar y ddelwedd, gan ddibynnu ar sut creodd eich hyfforddwr y prawf neu aseiniad.


Sut atebaf gwestiwn man poeth?

Nid oes angen i chi ddewis pin o'r ddewislen i ateb cwestiwn bellach. Bydd y pin cyntaf yn ymddangos ar y cynfas yn awtomatig pan fyddwch yn dewis y ddelwedd â'r llygoden. I ychwanegu pinnau ychwanegol, dewiswch eicon y pin o'r bar offer uwchben y ddelwedd ar y cwestiwn man poeth neu'r fysell P.

Gallwch ddod o hyd i ardaloedd man poeth ar ffurf petyral, cylch neu bolygon, gan ddibynnu ar dewis eich hyfforddwr ar gyfer yr asesiad.

Select hotspot using the pin icon above the question image
  1. Symudwch yr "eicon pin" porffor a ollyngwyd ar y ddelwedd i'r lleoliad cywir ar y ddelwedd.

    Gallwch ddefnyddio rheolyddion y bysellfwrdd i symud pinnau.

Drop the purple pin icon over the selected section on the image to mark your hotspot selection
  1.  

    Gall yr hyfforddwr ofyn i chi nodi mwy nag un eitem yn y ddelwedd. Mae gennych yr opsiwn i ychwanegu mwy nag un pin at y ddelwedd, hyd yn oed os oes dim ond un man poeth. Gwnewch gamau 1 a 2 eto yn ôl yr angen.

Depending on the question, you may need to mark more than one hotspot on the image
  1. Mewn rhai achosion, gall eich hyfforddwr ddangos y mannau poeth mae wedi'u creu i chi. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd un neu fwy o'r mannau poeth yno i wrthdynnu eich sylw (opsiynau ateb anghywir). Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn rhoi'r pin ar y mannau poeth cywir.

  2. Dewiswch “Cyflwyno” neu “Cyflwyno'n Hwyr” pan fyddwch wedi gorffen yr asesiad.
  3. Dewiswch "Cyflwyno” i orffen eich cyflwyniad.
  4. Dewiswch “Cau” i fynd yn ôl i dudalen manylion yr asesiad.

Sut allaf gadw fy ateb ar gyfer cwestiwn man poeth?

Cedwir safleoedd pinnau yn awtomatig wrth iddynt gael eu gollwng ar y ddelwedd, neu wrth iddynt gael eu symud.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn ychwanegu pin nad ydwyf eisiau ei ddefnyddio ar ddamwain?

Gallwch ddileu'r pin drwy ddewis y pin ac wedyn dewis y botwm "Clirio'r detholiad" uwchben y ddelwedd a uwchlwythwyd, neu gan ddefnyddio'r botwm dileu ar eich bysellfwrdd. Bydd y ddau opsiwn yn dileu pob pin a ddewiswyd.

Pa lwybrau byr ar y bysellfwrdd sydd ar gael wrth ollwng pin ar ddelwedd?

  • Defnyddiwch Tab a Shift+Tab i ddewis pinnau
  • Defnyddiwch y fysell P i greu pin newydd
  • Defnyddiwch y bysellau saeth i symud pinnau
  • Defnyddiwch Alt neu Option + bysellau saeth i symud pin a ddewiswyd mewn camau llai (1 picsel ar y tro)
  • Defnyddiwch Delete i ddileu pin a ddewiswyd

Gwylio fideo am Gwestiynau Mannau Poeth

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.

Fideo: Cwestiynau Mannau Poeth ar gyfer Myfyrwyr

Hygyrchedd a chwestiynau mannau poeth

Mae Tîm Cynnyrch Ultra yn parhau i weithio i ddarparu gwelliannau hygyrchedd newydd ac i gefnogi technolegau cynorthwyol. Yn flaenorol, roedd angen defnyddio llygoden a chysymud llaw a llygad er mwyn ateb cwestiynau mannau poeth. Nawr, gan ddefnyddio bysellfwrdd, gallwch:

  • Creu pin i farcio man poeth
  • Dewis man poeth
  • Ailfeintio mannau poeth
  • Symud mannau poeth
  • Dileu mannau poeth

Rhyngweithiadau a llwybrau byr ar y bysellfwrdd

  1. Pan fyddwch yn ateb cwestiwn man poeth mewn prawf neu asesiad, bydd y ffocws ar y ddolen "dogfennaeth help" ar y faner hysbysiadau.

    Dysgu mwy am lywio'r Golygydd Testun Cyfoethog â'r bysellfwrdd.

  2. Pwyswch tab i ddarllen y rheolyddion bysellfwrdd i gyflawni'r gweithredoedd canlynol:
    • Rheolyddion Cyffredinol
      • Creu pin â'r fysell P i farcio man poeth newydd
      • Dewis mannau poeth â Tab a Shift+Tab
      • Symud man poeth â'r bysellau saethau
      • Defnyddio Shift + bysellau saeth i ailfeintio mannau poeth
      • Defnyddio Alt / Option + bysellau saeth i symud neu ailfeintio mannau poeth mewn camau llai (1 picsel ar y tro)
      • Dewis y fysell Delete i ddileu man poeth a ddewiswyd yn flaenorol
      • Nesáu â Shift+Z
      • Pellhau â Shift+X
      • Ehangu'r wedd â Shift+F
      • Cau'r wedd â ESC
    • Rheolyddion Petyral a Chylch
      • Ailfeintio man poeth â Shift + bysellau saethau
      • Ychwanegu man poeth petryal newydd (pan fydd y cynfas wedi'i ffocysu) â'r fysell R
      • Ychwanegu man poeth cylch newydd (pan fydd y cynfas wedi'i ffocysu) â'r fysell C
    • Rheolyddion Polygon
      • Lluniadu man poeth newydd ar ffurf polygon (pan fydd y cynfas wedi'i ffocysu) â'r fysell P
      • Gadael y modd lluniadu ag ESC
      • Symud eicon lluniadu â'r bysellau saethau
      • Symud eicon lluniadu'n fanwl gywir ag Option/Alt + bysellau saethau
      • Ychwanegu pwynt polygon newydd ag Enter
      • Tynnu'r pwynt a grëwyd yn ddiweddaraf â Delete
  3. Gallwch ychwanegu man poeth ar ffurf Petryal, Cylch neu Bolygon drwy ddewis y botwm â'r un label ar y ddelwedd gefndir. Symudir y ffocws i'r man poeth a grëwyd.
  4. Pwyswch y botwm Dileu pob un i ddileu'r mannau poeth a grëwyd.
  5. Pwyswch y fysell Tab i "Ychwanegu cynnwys ychwanegol" at eich ateb.
  6. Ar ôl creu pob man poeth, gallwch barhau i lywio â'r fysell Tab i roi'r opsiynau "Cadw a Chau" neu "Cyflwyno" ar waith, i gadw eich gwaith.