Mewn trafodaethau, gallwch rannu meddyliau a syniadau am ddeunyddiau dosbarth. Yn Blackboard Learn, mae aelodau cwrs yn gallu cael y trafodaethau ystyrlon sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth draddodiadol, ond gyda'r fantais o gyfathrebu'n anghydamserol. Nid oes angen i gyfranogwyr fod yn yr un lleoliad neu gylchfa amser, a gallwch gymryd yr amser i ystyried eich ymatebion yn ofalus.

Gallwch ddefnyddio'r trafodaethau ar gyfer y tasgau hyn:

  • Cwrdd â’ch cyfoedion ar gyfer cydweithredu a rhyngweithio cymdeithasol.
  • Cyflwyno cwestiynau ynglŷn ag aseiniadau gwaith cartref, darlleniadau, a chynnwys cwrs.
  • Arddangos eich dealltwriaeth neu weithrediad o ddeunydd cwrs.

Agor y Bwrdd Trafod

  1. Gallwch ddod o hyd i'r bwrdd trafod mewn dau le:
    • Ar ddewislen y cwrs, dewiswch Trafodaethau.
    • Ar ddewislen y cwrs, dewiswch Offer ac yna Bwrdd Trafod.
  2. Bydd prif dudalen y Bwrdd Trafod yn ymddangos gyda rhestr o'r fforymau trafod sydd ar gael. Ar y dudalen hon, gallwch chi gyflawni'r camau hyn:
    1. Dewiswch deitl fforwm i weld y negeseuon. Mae teitlau fforymau mewn print trwm yn cynnwys postiadau heb eu darllen.
    2. Dewiswch fforwm i agor y trywydd o bostiadau.
    3. Dewiswch y rhif yn y golofn Postiadau heb eu Darllen i gael mynediad cyflym at negeseuon heb eu darllen ar y fforwm.

Rhagor am greu ymateb

Gall grwpiau cwrs gael eu byrddau trafod eu hunain. Mae cylchoedd trafod grŵp ar gael i ddefnyddwyr sy’n aelod o’r grŵp yn unig. Os oes bwrdd trafod grŵp ar gael, gallwch ddod o hyd iddo yn y ddolen grwpiau ar ddewislen y cwrs neu yn ardal Fy Ngrwpiau.

Mwy ar agor trafodaethau gyda JAWS®

Gallwch olygu neu ddileu'ch ymatebion os caniateir hyn gan eich hyfforddwr. Os byddwch yn postio ymateb ar gam a bod yr opsiynau i olygu neu ddileu ddim yn ymddangos, cysylltwch â'ch hyfforddwr.

Mwy ar olygu a dileu ymatebion


Agor trafodaeth

Mae trafodaethau yn fforwm ar-lein am gysyniadau cwrs. Mae'n bosibl y bydd eich hyfforddwr yn disgwyl i chi greu eich trafodaethau eich hun a chymryd rhan mewn rhai sy'n bodoli eisoes. Gall eich hyfforddwr hefyd raddio'ch cyfraniadau.

Gall eich hyfforddwr hefyd greu trafodaeth grŵp i chi allu trafod pwnc â grŵp o’ch cyd-ddisgyblion.

Rhagor am drafodaethau grŵp

Os yw’ch hyfforddwyr wedi ychwanegu dyddiad cyflwyno ar gyfer trafodaethau a raddir, gallwch agor trafodaethau o’ch tudalennau Graddau, y calendr, a’r ffrwd gweithgarwch.

O gwrs, dewiswch yr eicon Trafodaethau ar far llywio eich cwrs. Dewiswch y drafodaeth o'r rhestr sy'n ymddangos. Gall trafodaethau hefyd ymddangos gyda deunyddiau cwrs eraill ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Nid yw trafodaethau yng Ngwedd Cwrs Ultra yn defnyddio fforymau nac edeifion.

Bob tro byddwch yn agor trafodaeth, bydd unrhyw atebion ac ymatebion newydd yn ymddangos gyda “Newydd” i ddangos unrhyw weithgarwch newydd sydd wedi digwydd ers eich ymweliad diwethaf.

Rhagor am greu ymatebion ac atebion

Uwchben y rhestr Cyfranogwyr yn yr adran Awdur, gallwch weld pwy sydd wedi creu'r drafodaeth.


Postio ymateb yn gyntaf

Mae'n bosibl y bydd eich hyfforddwr yn mynnu eich bod yn ymateb i drafodaeth cyn i chi allu darllen ymatebion ac atebion eraill. Pan fyddwch yn “postio’n gyntaf”, ni chewch eich dylanwadu gan ymatebion eich cyd-ddisgyblion. Pan fyddwch yn agor y math hwn o drafodaeth, bydd neges yn ymddangos: Postio ymateb er mwyn gweld gweithgarwch y drafodaeth. Ni allwch weld gweithgarwch trafodaethau eto. Bydd ymatebion ac atebion yn ymddangos pan fyddwch yn postio ymateb.

Ni fydd y rhestr Cyfranogwyr yn dangos nifer yr ymatebion ac atebion a wnaed gan bobl eraill nes i chi bostio ymateb.


Creu trafodaeth

Gallwch greu trafodaethau i'ch cyd-ddisgyblion gyfrannu atynt. Gall eich hyfforddwr ddileu unrhyw drafodaethau, atebion ac ymatebion.

Rhagor am ddileu eich trafodaethau, ymatebion ac atebion

Os yw’ch hyfforddwr yn ei ganiatáu, gallwch greu trafodaethau i'ch cyd-ddisgyblion gymryd rhan ynddynt. Gall eich hyfforddwr ddileu unrhyw drafodaethau, atebion ac ymatebion.

  1. Yn eich cwrs, dewiswch eicon Trafodaethau yn y bar llywio.
  2. Dewiswch yr arwydd plws yn y gornel dde uchaf i agor y ddewislen. Os nad yw’r arwydd plws yn ymddangos, nid oes gennych ganiatâd i greu trafodaethau.
  3. Yn y ddewislen, dewiswch Ychwanegu Trafodaeth. Bydd eich trafodaeth yn ymddangos ar frig y rhestr. Dim ond eich hyfforddwr sy'n gallu ei symud yn y rhestr neu ei hychwanegu at ffolder.
  4. Ar y dudalen Trafodaeth Newydd, teipiwch deitl ystyrlon. Dewiswch deitl eich trafodaeth yn ofalus. Ar ôl i chi symud eich cyrchwr oddi wrth linell y teitl, bydd teitl y drafodaeth yn cael ei gadw. Dim ond eich hyfforddwr sy'n gallu golygu'r teitl.
  5. Dechrau'r drafodaeth gyda chwestiwn, syniad neu ymateb. Gallwch ddefnyddio’r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun, atodi ffeiliau, a phlannu ffeiliau amlgyfrwng. Os ydych yn edrych ar y golygydd ar sgrin lai, dewiswch yr eicon plws i weld y ddewislen opsiynau. Er enghraifft, dewiswch Mewnosod/Golygu Ffeiliau Lleol—a gynrychiolir gan eicon y clip papur. Pori am ffeil o'ch cyfrifiadur. Mae ffenestr statws yn ymddangos i ddangos y cynnydd wrth uwchlwytho'r ffeil.

    I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.

  6. Dewiswch Cadw.

Ar brif dudalen Trafodaethau, mae teitl eich trafodaeth yn ymddangos gyda’r label Crëwyd gan fyfyriwr.

Pan fydd aelodau'r cwrs yn agor eich trafodaeth, byddwch yn cael eich rhestru fel yr awdur yn y panel ochr.

Gallwch olygu neu ddileu eich postiadau eich hun a gallwch ddileu eich trafodaethau eich hun os nad yw neb wedi ymateb.