Mae'r pynciau cymorth hyn yn rhoi manylion am y Lansiwr Blackboard Collaborate sydd ar gael yn fersiynau 4.4 a'n hwyrach o Floc Adeiladu Blackboard Collaborate.

Defnyddwyr Windows 8.x: Os ydych yn y wedd Metro ar hyn o bryd, newidiwch i’r wedd Bwrdd Gwaith i allu dilyn y cyfarwyddiadau a roddir.


Gosod y lansiwr ar Windows

  1. Ar dudalen Manylion yr Ystafell, dewiswch Ymuno â'r Ystafell neu dewiswch ddolen recordiad o'r tabl Recordiadau. Bydd Blackboard Collaborate yn eich annog i lawrlwytho gosodwr y lansiwr.
    • Os mai dyma'ch tro cyntaf yn defnyddio'r lansiwr, dewiswch Lawrlwytho'r Lanswir yn y ffenestr naid Eich tro cyntaf i ddefnyddio Blackboard Collaborate?.
    • Os ydych eisoes wedi gosod y lansiwr, efallai na fydd eich porwr yn ei ganfod, a byddwch yn cael eich annog i lawrlwytho'r lansiwr. Gall hyn ddigwydd os clirioch eich cache a briwsion y tro diwethaf wnaethoch gau eich porwr, defnyddio pori diogel neu breifat, neu ddefnyddio porwr gwahanol. Os mai dyma'r achos, nid oes angen i chi ail-lwytho'r gosodiad eto. Dewiswch Lansio Blackboard Collaborate nawr i sgipio'r lawrlwthiad, yna agorwch eich ffeil .collab
  2. Mae ffenestr naid yn eich atgoffa i osod y lansiwr. Peidiwch â dewis Iawn eto. Byddwch yn gwneud hyn ar ôl i chi osod y lansiwr.
  3. Agor y dewin gosod Blackboard Collaborate. Mae porwyr yn ymdrin â'r sefyllfa hon yn wahanol a bydd ymddygiad pob porwr yn amrywio gan ddibynnu ar sut rydych wedi ffurfweddu gosodiadau'ch porwr.

    Os yw eich porwr hefyd yn gofyn i chi agor y ffeil .collab, peidiwch â gwneud hynny tan eich bod wedi gosod y lansiwr.

    Pan fyddwch yn rhedeg y gosodwr, mae'n bosib y byddwch yn gweld deialog Gwybodaeth ar y Gosodwr sy'n dweud "mae'r ffeil cabinet hon yn llwgr a ni ellir ei defnyddio." Mae'n golygu bod y broses o lawrlwytho'r gosodiad yn anghyflawn. Bydd hyn yn digwydd os byddwch yn colli eich cysylltiad yn ystod y broses o lawrlwytho. Lawrlwytho’r gosodwr eto.

    • Firefox a Chrome: cadw'r ffeil gosodwr Windows BlackboardCollaborateLauncher-Win.msi. Y man cadw di-ofyn yw llyfrgell Lawrlwythiadau eich porwr. Agorwch y llyfrgell Lawrlwythiadau ac agorwch y ffeil a lawrlwythwyd i gychwyn dewin gosod Blackboard Collaborate.
    • Internet Explorer: Rhedeg neu gadw'r ffeil gosodwr Windows BlackboardCollaborateLauncher-Win.msi. Dewiswch Rhedeg i gychwyn dewin gosod Blackboard Collaborate.
  4. Cychwynnwch y dewin gosod. Os welwch y sgrin Addasu, Trwsio neu Dynnu'r gosodiad, mae'r lansiwr eisoes wedi'i osod. Dewiswch Canslo i adael y dewin gosod. Pan fyddwch wedi gorffen, mae'r dewin gosod yn gosod lansiwr Windows ac yn ei ychwanegu at y ddewislen Cychwyn.

    Gall defnyddwyr Windows 8 neu'n hwyrach ddod o hyd i'r lansiwr ar dudalen Cychwyn yng ngwedd Metro.

  5. Yn y ffenestr naid, dewiswch Iawn i gadarnhau eich bod wedi gosod y lansiwr.
  6. Agorwch meeting.collab i ymuno â'ch sesiwn neu play.collab i chwarae'ch recordiad. Os nad ydych yn gweld proc i wneud hynny, agorwch y ffeil yn eich ffolder Lawrlwythiadau.

Ymuno â sesiwn neu chwarae recordiad

  1. I ymuno â sesiwn, dewiswch Ymuno â'r Ystafell ar dudalen Manylion yr Ystafell. I chwarae recordiad, dewiswch ddolen yn nhabl Recordiadau.
  2. Gall Collaborate eich procio i wneud gwahanol bethau os ydych yn ddefnyddiwr newydd neu'n un sy'n dychwelyd.
    • Os mai dyma'ch tro cyntaf yn defnyddio Lansiwr Blackboard Collaborate: Lawrlwythwch a gosod y lansiwr.
    • Os ydych wedi gosod Lansiwr Blackboard Collaborate: Agorwch y ffeil meeting.collab.
    • Os ydych wedi gosod y lansiwr ond bod Blackboard Collaborate yn eich annog i'w lawrlwytho: Dewiswch Lansio Blackboard Collaborate nawr.
  3. Bydd eich porwr yn eich annog i agor y ffeil .collab. Mae sut rydych yn agor y ffeil yn dibynnu ar ba borwr rydych yn ei ddefnyddio.
    • Mae Firefox yn gofyn beth hoffech ei wneud gyda'r ffeil .collab Dewiswch Agor gyda ac yna Lansiwr Blackboard Collaborate o'r gwymplen. Os does dim cwymplen, dewiswch Dewis ac agorwch eich ffolder Lawrlwythiadau i ddewis Lansiwr Blackboard Collaborate.
    • Mae Internet Explorer yn gofyn beth hoffech ei wneud gyda'r ffeil .collab Dewiswch Agor.
    • Mae Chrome yn lawrlwytho'r ffeil .collab ac yn ei chyflwyno ar waelod ffenestr eich porwr. Dewiswch enw'r ffeil i'w agor.

      Os ydych eisiau i ffeiliau eich sesiynau yn y dyfodol i agor yn awtomatig, dewiswch Agor ffeiliau o'r math hwn bob tro o'r ddewislen ac yna agorwch y ffeil.

Bydd sesiwn Blackboard Collaborate yn agor.


Agor ffeiliau .collab yn awtomatig

I agor ffeiliau .collab yn awtomatig y tro nesaf y byddwch yn lansio Blackboard Collaborate, defnyddiwch Chrome fel eich porwr.

Pan fyddwch yn lawrlwytho eich ffeil .collab, bydd Chrome yn dangos y ffeil ar waelod ffenestr eich porwr. Agorwch y ddewislen a dewiswch Agor ffeiliau o'r math hwn bob tro, yna agorwch y ffeil .collab i lansio'ch sesiwn neu i chwarae'ch recordiad. Y tro nesaf y byddwch yn lawrlwytho ffeil .collab, mae’n lansio Blackboard Collaborate yn awtomatig.