Sut ydw i'n gweld Blackboard Learn mewn iaith arall?

Gallwch weld Blackboard Learn mewn gwahanol ieithoedd gyda phecynnau iaith. Gallwch osod pecynnau iaith ar dair lefel: system, lefel cwrs, a defnyddiwr.

Lefel y system

Mae'ch sefydliad yn diffinio un pecyn iaith fel pecyn diofyn y system. Mae'r iaith hon yn ymddangos os nad oes unrhyw becynnau iaith eraill wedi'u gosod ar lefel cwrs neu ddefnyddiwr.

Lefel y cwrs

Mewn rhai achosion, gall hyfforddwyr osod pecyn iaith gwahanol. Os gorfodir y pecyn iaith, mae pawb yn gweld y pecyn iaith hwnnw. Er enghraifft, gallai hyfforddwr Sbaeneg orfodi pob defnyddiwr i weld deunyddiau'r cwrs yn Sbaeneg. Os nad yw'r pecyn iaith wedi'i orfodi, gallwch osod eich pecyn iaith i iaith arall, os yw ar gael. Mae'ch dewis o becyn iaith yn disodli pecyn iaith y cwrs os nad yw pecyn iaith y cwrs wedi'i orfodi.

Lefel y defnyddiwr

Ar lefel y defnyddiwr, gall unigolion ddewis y pecynnau iaith sy'n well ganddynt.


Ydw i'n gallu cael cymorth ar y safle hwn mewn ieithoedd eraill?

Gallwch, mae Blackboard yn cyfieithu'r cymorth ar gyfer rhai cynnyrch i ieithoedd eraill. I newid yr iaith rydych yn gweld, dewiswch iaith arall yn y gornel dde ar dop y dudalen hon.


Sut ydw i'n newid y pecyn iaith?

  1. Dewiswch iaith ar eich proffil.
  2. Dewiswch becyn iaith o’r gwymplen.
  3. Dewiswch Cyflwyno.

Mae gosodiadau dewis iaith yn aros yn yr un lleoliad pa iaith bynnag y byddwch yn ei dewis.

Mae'r offeryn gwirio sillafu'n cefnogi Saesneg (Yr Unol Daleithiau), Saesneg (Prydain Fawr), Ffrangeg a Sbaeneg. Nid yw'r offeryn gwirio sillafu'n gweithio gyda phecynnau iaith eraill. Os nad yw'r offeryn gwirio sillafu'n adnabod y pecyn iaith, bydd yn defnyddio geiriadur a gefnogir.