Mae safle cymorth Blackboard yn anelu at ddatrys eich problemau a'ch grymuso i ddefnyddio cynnyrch Blackboard yn llawn. Gall unrhyw un weld y cynnwys cymorth ar gyfer unrhyw gynulleidfa - myfyriwr, hyfforddwr, a gweinyddwr - heb orfod mewngofnodi.


Sut ydw i'n llywio'r safle?

Dydw i ddim yn gwybod pa gynnyrch Blackboard rydw i'n ei defnyddio:

Atebwch ychydig gwestiynau syml amdanoch chi'ch hun i leihau'r opsiynau cynnyrch.

Rwy'n gwybod pa gynnyrch Blackboard rwy'n ei defnyddio:

  • Teipiwch gwestiwn neu derm yn y bar chwilio. Yna, defnyddiwch yr opsiynau hidlo cynnyrch a rôl i leihau'r canlyniadau.

    -NEU-

  • Dewiswch y ddewislen llywio islaw'r logo help i weld pob cynnyrch, rôl a phwnc sydd ar gael ar y safle cymorth.
    Ar ôl i chi agor y ddewislen, dewiswch y caret nesaf at eitem i ehangu neu gwympo'r adran honno. Wedyn, dewiswch y cynnyrch, rôl neu bwnc rydych ei eisiau. Mae'r dudalen rydych yn ei dewis neu'n ei gweld ar hyn o bryd yn ymddangos yn las.
    I gau'r ddewislen, dewiswch yr X fawr.

Pam na allaf fewngofnodi i help.blackboard.com?

Mae'r gallu i fewngofnodi'n gyfyngedig i awduron a golygyddion Blackboard a llond llaw o gyfranogwyr cleientiaid sy'n ysgrifennu cynnwys. Ni fydd defnyddwyr eraill yn gallu mewngofnodi. Ond, peidiwch â phoeni. Does dim angen i chi fewngofnodi i weld y cynnwys!


Ydw i'n gallu cael cymorth mewn ieithoedd eraill?

Gallwch, mae Blackboard yn cyfieithu'r cymorth ar gyfer rhai cynnyrch i ieithoedd eraill. Gallwch weld pa ieithoedd sydd ar gael yn y gornel dde ar dop y dudalen.


Sut ydw i'n darganfod pa fersiwn rwy'n defnyddio?

Os oes gan URL eich safle y gair "ultra" ynddo, rydych yn defnyddio profiad Ultra Blackboard Learn. Mae'ch sefydliad yn defnyddio rhaglen Meddalwedd-fel-Gwasanaeth (SaaS), sydd angen diweddariadau a gwelliannu cyson oddi wrth ein tîm datblygu cynnyrch. Os rydych yn gweld unrhyw beth arall, mae'n debygol eich bod yn defnyddio profiad Gwreiddiol Blackboard Learn.

Ar dudalen mewngofnodi eich safle Blackboard, dewiswch Manylion gosod ar waelod y dudalen.

  • Mae'r manylion gosod yn nodi'r union fersiwn o Blackboard Learn rydych chi'n ei defnyddio ac yn rhestru'r galluoedd y mae gan eich sefydliad fynediad atynt.
  • Mae 9.1.201404 yn dynodi eich bod yn defnyddio diweddariad mis Ebrill 2014 o Learn 9.1. Mae gweddill y rhif yn dynodi’r adeiladwaith penodol. Dim ond gweinyddwyr a Chefnogaeth Blackboard fydd â diddordeb yn y rhan hwn o’r rhif.