Sut ydw i'n anfon e-bost?
Yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol, gallwch gael mynediad at negeseuon cwrs o'r dudalen Offer neu o ddolen yn newislen y cwrs.
- Ar ddewislen y cwrs, dewiswch Offer > Anfon E-bost.
- Ar y dudalen Dewis Defnyddwyr neu Dewis Grwpiau, dewiswch y derbynyddion yn y blwch Ar gael i'w Dewis a dewiswch y saeth sy'n pwyntio i'r dde i'w symud i'r blwch Dewiswyd. Mae ôl-saeth ar gael i symud defnyddiwr allan o'r rhestr derbynyddion. Dewiswch Gwrth-droi'r Detholiad a bydd y defnyddwyr a ddewiswyd ddim wedi'u ticio bellach tra bod y rheini heb eu dewis bellach wedi'u ticio.
I ddewis nifer o ddefnyddwyr mewn rhestr yn Windows, gwasgwch y bysell Shift a dewiswch y defnyddiwr cyntaf a’r olaf. I ddewis defnyddwyr ar hap, gwasgwch y bysell Ctrl a dewiswch bob defnyddiwr sydd ei angen. Ar gyfer Macs, pwyswch y fysell Command yn hytrach na’r fysell Ctrl. Gallwch hefyd ddefnyddio swyddogaeth Dewis y Cwbl i anfon e-bost i'r holl ddefnyddwyr.
- Teipiwch eich Pwnc a'ch Neges. Anfonir copi o'r neges at yr anfonwr. Mae tudalen derbynneb yn ymddangos ar ôl anfon y neges sy'n rhestru’r holl dderbynyddion.
- Dewiswch Atodi Ffeil i bori am ffeiliau o'ch cyfrifiadur. Gallwch atodi ffeiliau lluosog. Ar ôl i chi ychwanegu un ffeil, bydd yr opsiwn i atodi ffeil arall yn ymddangos.
- Dewiswch Cyflwyno.
Datrys problemau e-bost mewn cyrsiau
Mae'r offeryn e-bost cwrs yn offeryn anfon-yn-unig yn y Wedd Cwrs Wreiddiol. Rydych yn derbyn e-byst o Blackboard yn eich rhaglen e-bost allanol, megis Gmail neu Yahoo, nid o fewn Blackboard ei hun. Gallwch anfon negeseuon yn uniongyrchol o'ch cwrs i gyfrifon e-bost allanol defnyddwyr eraill. Mae ymatebion hefyd yn mynd i'r cyfrif e-bost allanol.
- Sut ydw i'n gwneud fy nghyfeiriad e-bost yn weladwy? Nid yw'ch cyfeiriad e-bost yn weladwy oni bai eich bod yn dewis ei wneud yn weladwy i aelodau'r cwrs. I newid y gosodiad hwn, ewch i ddewislen Fy Blackboard > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Gosod Opsiynau Preifatrwydd.
- Allaf newid fy nghyfeiriad e-bost allanol? Gallwch newid y cyfeiriad e-bost a ddefnyddir yn eich cyrsiau. Ewch i ddewislen Fy Blackboard > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Golygu Gwybodaeth Bersonol. Wedyn, teipiwch y cyfeiriad e-bost y byddai'n well gennych ei ddefnyddio a dewiswch Cyflwyno.
- Pam na chafodd fy e-bost ei anfon?
- NI fydd Blackboard Learn yn adnabod ffeiliau neu gyfeiriadau e-bost gyda bylchau neu gymeriadau arbennig, megis #, &, %, a $. Dylech ddefnyddio llythrennau a rhifau yn unig mewn enwau ffeiliau a chyfeiriadau.
- Peidiwch ag anfon e-bost trwy Blackboard heb linell pwnc. Os yw'r llinell pwnc yn wag, mae'n bosib na fydd y neges yn cael ei hanfon yn gywir.
- Ydw i'n gallu gweld cofnod o fy e-byst? Nid yw'r Wedd Cwrs Wreiddiol yn cadw cofnod o e-byst yn Blackboard. Pan fyddwch yn derbyn neu'n anfon e-bost, mae'r e-bost yn ymddangos ym mewnflwch eich cleient e-bost allanol. Cadwch gopi o negeseuon pwysig rhag ofn y bydd eu hangen arnoch yn y dyfodol.
Video: Messages
The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.
Video: Messages in Blackboard Learn shows you how to view and send course messages.