Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Olrhain Cynnydd
Mae olrhain cynnydd yn caniatáu i chi olrhain eich cynnydd ar gwrs o ran cynnwys yn eich cwrs.
Cynnydd eitem gynnwys
Gallwch adolygu eich cynnydd ar dudalen Cynnwys y Cwrs wrth ochr enw'r eitem. Mae statws cynnydd yr eitem yn cael ei ddangos mewn cylch.
Mae ymddangosiad y cylch yn newid yn seiliedig ar eich cynnydd:
- Bydd yn wag os nad ydych wedi cyrchu'r eitem eto
- Caiff ei lenwi'n rhannol os rydych wedi agor yr eitem neu wedi'i chyrchu drwy Ally
- Bydd tic gwyrdd pan fyddwch wedi marcio'r eitem fel cwblhawyd neu wedi cyflwyno'r eitem
Gallwch farcio eitemau fel dogfennau, ffeiliau a uwchlwythwyd, neu ddolenni fel cwblhawyd. Os ydych eisiau adolygu'r eitem eto, gallwch fynd yn ôl a dad-farcio'r eitem. Mae'n rhaid marcio dyddlyfrau a thrafodaethau fel eu bod wedi'u cwblhau â llaw os nad ydynt yn rhan o ddilyniant mewn modiwl dysgu.
Mae rhai eitemau yn cael eu marcio'n awtomatig fel eu bod wedi'u cwblhau pan fyddwch yn eu cyflwyno.
- Aseiniadau
- Cynnwys LTI a Raddir
- Profion
Cynnydd modiwl dysgu
Mae Modiwlau Dysgu yn dangos crynodeb o'ch cynnydd mewn modiwl. Mae'r bar cynnydd yn dangos y nifer o eitemau rydych wedi'u cwblhau neu wedi dechrau arnynt allan o gyfanswm y modiwl. Mae eitemau wedi'u cwblhau yn las, eitemau rydych wedi dechrau arnynt yn ddu, ac eitemau heb eu hagor yn llwyd.
Dewiswch Dechrau i fynd i'r eitem gyntaf yn y modiwl. Dewiswch Parhau i fynd i'r eitem nesaf yn y modiwl.
Mae hofran dros y bar cynnydd yn dweud wrthych am y nifer o eitemau rydych wedi'u cwblhau neu wedi dechrau arnynt allan o'r nifer o eitemau sydd wedi'u rhyddhau.
Unwaith bod yr holl eitemau mewn ffolder neu fodiwl wedi'u cwblhau, bydd yn marcio'r ffolder gyfan neu'r modiwl cyfan fel eu bod wedi'u cwblhau'n awtomatig.