Gwylio fideo am Fathau o gynnwys cwrs
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Cael mynediad at gynnwys mewn cwrs
Ar frig y dudalen, gallwch agor yr offer a ddefnyddir yn aml. Dewiswch yr eiconau i wirio calendr y cwrs, i gymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth, cael mynediad at eich graddau ac anfon neges. Pan fyddwch wedi gorffen, dewiswch yr eicon Cynnwys i ddychwelyd i'r holl gynnwys mae'ch hyfforddwr wedi'u gwneud yn weladwy.
Os bydd modd i chi gael mynediad at gynnwys ar ddyddiad yn y dyfodol, gall eich hyfforddwr ddangos yr eitem yn y rhestr cynnwys gyda'r dyddiad hwnnw. Ni allwch ei agor, ond rydych yn cael eich rhybuddio er mwyn i chi wybod bod y gwaith ar ddod.
Pan fydd rhywun yn cyfrannu at sgwrs neu drafodaeth, mae eicon gweithgarwch yn ymddangos nesaf at deitl yr eitem ar dudalen Cynnwys y Cwrs.
Bydd enw a llun eich hyfforddwr yn ymddangos. Dewiswch y Cofrestr i weld pawb sydd wedi cofrestru ar eich cwrs. Os yw'ch hyfforddwr yn defnyddio'r nodwedd presenoldeb, gallwch gael mynediad i'ch cofnodion o'r panel Manylion a Gweithrediadau.
Gallwch uwchlwytho ffeiliau i apiau gwe sy'n rhedeg yn y “cwmwl” ac nid ydynt yn cael eu gosod ar eich cyfrifiadur, megis Google Workspace ac OneDrive®.
Mathau o gynnwys
Mae'r tabl hwn yn disgrifio'r mathau o gynnwys y gall eich hyfforddwyr eu hychwanegu at gyrsiau.
Eicon | Math o Gynnwys | Disgrifiad |
---|---|---|
Aseiniad | Mae hyfforddwyr yn defnyddio aseiniadau i asesu eich gwybodaeth am gynnwys ac amcanion cwrs. Mae'ch hyfforddwyr yn aml yn neilltuo graddau i aseiniadau. Mae hyfforddwyr hefyd yn gallu creu aseiniadau ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr. | |
Prawf | Mae hyfforddwyr yn defnyddio profion i asesu'ch gwybodaeth. Mae hyfforddwyr hefyd yn gallu creu profion ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr. | |
Dolen i drafodaethau | Mae hyfforddwyr yn gallu darparu dolen i drafodaeth wrth ymyl cynnwys cysylltiedig. Er enghraifft, efallai gofynnir i chi ddarllen ffeil ac wedyn ymateb mewn trafodaethau. | |
Dyddlyfr | Gall hyfforddwyr ddefnyddio dyddlyfrau i gyfathrebu’n breifat â chi a gallant raddio eich cyfraniadau. | |
Dogfen | Gall hyfforddwyr greu tudalen neu "daflen" ac ychwanegu testun, sain, fideo, ffeiliau a delweddau. Yn seiliedig ar y gosodiadau neu ar yr hyn a ganiateir gan y porwr, gall ffeiliau sain, fideo a delweddau ymddangos yn fewnol. | |
Ffeil | Dewiswch deitl ffeil i'w lawrlwytho. | |
SCORM | Gall hyfforddwyr ychwanegu pecynnau cynnwys ar y we o gyhoeddwyr academaidd neu ddylunwyr addysgol. Mae pecynnau SCORM yn agor mewn ffenestr newydd a gallant gyfrif tuag at radd. | |
Sain | Mae ffeiliau sain yn ymddangos yn fewnol neu'n agor mewn ffenestri neu dabiau newydd. Mae gennych reolyddion i rewi a chwarae'r sain ac i addasu lefel y sain. | |
Dogfen Gwmwl a Blannwyd | Os yw'ch sefydliad yn defnyddio'r nodwedd hon, gall hyfforddwyr gysylltu ffeil Word, Excel, neu PowerPoint ddarllen yn unig â'ch cwrs. Mae'r cynnwys hefyd yn ymddangos yn amlinelliad eich cwrs. | |
Dogfen Google | Os yw'ch sefydliad yn defnyddio'r nodwedd hon, gall hyfforddwyr gysylltu ffeiliau Google Docs, Sheets neu Slides darllen yn unig â'ch cwrs. Mae'r cynnwys hefyd yn ymddangos yn amlinelliad eich cwrs. | |
Dogfen Gydweithredol Google | Os yw'ch sefydliad yn defnyddio'r nodwedd hon, gall hyfforddwyr rannu ffeiliau Google Docs, Sheets neu Slides â chi a'ch cyd-fyfyrwyr i'w golygu yn eich cwrs. Mae'r cynnwys hefyd yn ymddangos yn amlinelliad eich cwrs. | |
Delwedd | Mae delweddau'n ymddangos yn fewnol neu'n agor mewn ffenestri neu dabiau newydd. | |
Fideo | Mae ffeiliau fideo yn ymddangos yn fewnol neu'n agor mewn ffenestri neu dabiau newydd. Mae gennych reolyddion i rewi a chwarae'r sain ac i addasu lefel y sain. | |
Dolen | Dewiswch y ddolen i fynd i wefan neu adnodd. | |
Ffolder | Cynhwysydd cynnwys yw ffolder. Gall hyfforddwyr ddefnyddio ffolderi ac is-ffolderi i grwpio deunydd cysylltiedig, megis ffolder "Astudiaethau Achos Wythnos 1" y tu mewn i ffolder "Aseiniadau Wythnos 1". Mae ffolderi'n ei gwneud yn haws dod o hyd i ddeunyddiau ac yn lleihau'r sgrolio. | |
Modiwl dysgu | Mae Modiwlau yn caniatáu i chi lywio o un eitem o gynnwys i'r nesaf heb ymyriadau neu gliciau ychwanegol. Mae modiwl dysgu yn cadw'ch ffocws ar y wers neu gysyniad. |
Beth os nad ydw i'n gweld rhai o'r cynnwys?
Os bydd modd i chi gael mynediad at gynnwys ar ddyddiad yn y dyfodol, gall eich hyfforddwr ddangos yr eitem yn y rhestr cynnwys gyda'r dyddiad hwnnw. Ni allwch ei agor, ond rydych yn cael eich rhybuddio er mwyn i chi wybod bod y gwaith ar ddod.
Efallai bydd angen i chi gwblhau gwaith cwrs arall ac ennill gradd benodol cyn i chi allu cael mynediad at eitem. Eich hyfforddwr sy'n gosod y rheolau mynediad a gall ddewis dangos y rheol i chi. Er enghraifft, os oes angen i chi ennill 80 pwynt neu ragor, byddwch yn gweld yr eicon clo ar dudalen Cynnwys y Cwrs nesaf at y cynnwys neu ffolder. Dewiswch y ddolen dan yr eitem i weld y rheol mynediad.
Gall eich hyfforddwr osod sawl rheol mynediad. Mae angen i chi fodloni'r holl reolau mynediad cyn i chi allu cael mynediad at y cynnwys.