Modiwlau dysgu

Cynhwysydd ar gyfer casgliadau trefnedig o gynnwys yw modiwl dysgu. Mae Modiwlau yn caniatáu i chi lywio o un eitem o gynnwys i'r nesaf heb ymyriadau neu gliciau ychwanegol. Mae modiwl dysgu yn cadw'ch ffocws ar y wers neu gysyniad rydych yn ei dysgu. Os yw'ch cwrs yn defnyddio gwerslyfr, mae'n bosibl y bydd eich hyfforddwr yn defnyddio modiwlau i rwpio cynnwys i gyd-fynd â rhediad y deunyddiau hyn.

Mae'n bosibl y bydd eich hyfforddwr yn eich caniatáu i archwilio cynnwys modiwl dysgu mewn unrhyw drefn. Fel arall, gall yr hyfforddwr ei wneud yn ofynnol eich bod yn agor ac yn cwblhau cynnwys cyn symud i'r eitem nesaf. Mae trefn cynnwys yn gallu eich helpu i ddeall cysyniadau cyn symud ymlaen i wersi eraill.


Gweithio mewn modiwl dysgu

Mae modiwl dysgu'n ymddangos mewn modd tebyg i ffolder ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch y teitl neu'r saeth i agor y modiwl a gweld y cynnwys.

Yn ogystal ag eitemau o gynnwys, ffeiliau ac asesiadau, gall eich hyfforddwr ychwanegu gweithgareddau ac offer sy'n hyrwyddo dysgu rhyngweithiol a chydweithrediad.

Er enghraifft, mae'n bosibl y byddwch yn gweld aseiniadau neu brosiectau grŵp yn y modiwl. Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn agor offer cydweithio megis trafodaethau lle gallwch daflu a rhannu syniadau am y pynciau a gyflwynir.

Gallwch weld yr holl gynnwys gweladwy o fewn y modiwl, gan gynnwys dyddiadau cyflwyno. Gallwch agor y cynnwys mewn unrhyw drefn. Os yw’ch hyfforddwr yn gofyn am drefn cynnwys, bydd neges yn ymddangos. Cynhwysir amodau eraill megis dyddiad cyrchu hefyd.

Ar ôl ichi agor eitem o gynnwys, llywiwch drwy'r modiwl gan ddefnyddio'r saethau ar frig ffenestr y porwr.

Pan fydd angen i chi gyrchu'r cynnwys mewn trefn, bydd clo'n ymddangos nesaf at y saeth.

Gallwch adael y modiwl heb ei gwblhau. Pan fyddwch yn dychwelyd, bydd eiconau yn ymddangos nesaf at gynnwys y modiwl os gorfodir y drefn. Mae'r eiconau'n dangos pa gynnwys sy'n gyflawn, ar waith a heb ei gychwyn, er mwyn i chi allu ailgychwyn lle gorffennoch.

Mae cylch gwyrdd gyda thic yn golygu bod y cynnwys yn gyflawn. Mae cylch gwyrdd rhannol lawn yn golygu bod y cynnwys ar waith. Mae eicon clo yn golygu bod y cynnwys heb gael ei ddechrau.

Os yw'r modiwl yn cynnwys ffolderi, byddwch yn llywio trwy gynnwys y ffolderi yn yr un modd ag unrhyw gynnwys arall yn y modiwl. Cofiwch, efallai bydd eich hyfforddwr yn gofyn ichi gyrchu a chwblhau cynnwys o fewn y ffolder cyn symud ymlaen.