Beth yw WebDAV?

Gallwch ddefnyddio WebDAV i rannu ffeiliau dros y rhyngrwyd. Mae WebDAV yn gydnaws â'r rhan fwyaf o systemau gweithredu. Wrth osod WebDAV, a elwir hefyd yn ffolder gwe, gallwch chi reoli pob un o’r ffeiliau ar gyfer eich cwrs.

Ar Mac, byddwch yn creu lleoliad a rennir yn hytrach na ffolder gwe.

Defnyddiwch ffolderi gwe i wneud y canlynol:

  • Creu ffolderi a symud eitemau rhwng ffolderi yn hawdd
  • Ailenwi ffeiliau a ffolderi a’u dileu
  • Llusgo cynnwys o yriannau a ffolderi lluosog i mewn i'r ffolder gwe neu'r lleoliad a rennir.
  • Gweld a golygu ffeil yn hawdd mewn ffolder gwe. Nid oes rhaid ichi lawrlwytho’r ffeil, ei golygu, a’i huwchlwytho eto.

Efallai bydd eich sefydliad yn cyfyngu mynediad at y nodwedd hon.


Gwybodaeth am enwau ffeiliau

Mae'n dderbyniol defnyddio'r nodau hyn mewn enwau ffeiliau:

  • a-z
  • 0-9
  • atalnod llawn '.'
  • tanlinell '_'

Mae cefnogaeth hefyd ar gyfer holl nodau safonol ISO 8859. Ni chaniateir unrhyw nodau neu symbolau estron.

Newidir pob bwlch i danlinell '_' yn enw'r ffeil a lwythir i fyny. Ni chefnogir nodau arbennig mewn enwau ffeil.


Gosod ffolder we ar gyfer Microsoft Windows©

I gysylltu â ffolder gwe, defnyddiwch gyfeiriad gwe ffolder y Casgliad o Gynnwys ac enw defnyddiwr a chyfrinair dilys.

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, dewiswch Creu Ffolder Gwe, ar gyfer y ffolder lefel uchaf. Mae dechrau o'r lleoliad hwn yn sicrhau mynediad WebDAV at bob ffolder a gynhwysir yn y Casgliad o Gynnwys. Gallwch ddewis unrhyw ffolder yn y Casgliad o Gynnwys, ond mae rhaid i lwybr y ffolder gwe fod yn llai na 240 nod. Mae gan bob ffolder gyfeiriad gwahanol.
  2. Ar dudalen Defnyddio Ffolderi Gwe, de-gliciwch a chopïwch yr URL sy’n ymddangos ar gyfer Cyfeiriad Gwe cyfredol. Byddwch yn gludo'r cyfeiriad yn nes ymlaen.

Ar ôl i chi gopïo'r URL, dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer eich system gweithredu er mwyn cwblhau'r cyswllt.

Creu Ffolderi Gwe yn Windows 10

Gan ddefnyddio cyfeiriad gwe'r ffolder, dilynwch y camau hyn i greu'r ffolder gwe yn Windows XP.

  1. Agorwch y Chwilotwr Ffeiliau.
  2. Dewiswch Y Cyfrifiadur hwn yn y ddewislen ar y chwith.
  3. Dewiswch Ychwanegu lleoliad rhwydwaith yn y rhuban ar dop y dudalen.
  4. Pan ofynnir i chi lle rydych eisiau creu'r lleoliad rhwydwaith, dewiswch Dewis lleoliad rhwydwaith personol. Dewiswch Nesaf.
  5. Pan ofynnir i chi am leoliad eich gwefan, gludwch y cyfeiriad gwe copïoch chi yn y camau uchod. Dewiswch Nesaf.
  6. Pan fyddwch chi’n cael eich annog i gofnodi enw defnyddiwr a chyfrinair, teipiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Blackboard Learn.Dewiswch Iawn.
  7. Cewch eich annog i gofnodi enw ar gyfer y lleoliad. Nodwch enw a dewiswch Nesaf.
  8. Ar dudalen Cwblhau'r Dewin Ychwanegu Lleoliad Rhwydwaith , dewiswch Gorffen.
  9. Bydd y ffolder gwe'n agor. Bydd nawr yn cael ei restri yn Cyfrifiadur o dan Lleoliad Rhwydwaith.

Creu Ffolderi Gwe yn Windows 7 a Windows Vista

Gan ddefnyddio cyfeiriad gwe'r ffolder, dilynwch y camau hyn i greu'r ffolder we yn Windows 7.

  1. Agorwch Cychwyn > Cyfrifiadur.
  2. Ar waelod y cwarel ar y dde, de-gliciwch a dewiswch Ychwanegu lleoliad rhwydwaith.
  3. Bydd y Dewin Ychwanegu Lleoliad Rhwydwaith yn agor. Dewiswch Nesaf.
  4. Pan ofynnir i chi lle rydych eisiau creu'r lleoliad rhwydwaith, dewiswch Dewis lleoliad rhwydwaith personol. Dewiswch Nesaf.
  5. Pan ofynnir i chi am leoliad eich gwefan, gludwch y cyfeiriad gwe copïoch chi yn y camau uchod. Dewiswch Nesaf.
  6. Pan fyddwch chi’n cael eich annog i gofnodi enw defnyddiwr a chyfrinair, teipiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Blackboard Learn. Dewiswch Iawn.
  7. Cewch eich annog i gofnodi enw ar gyfer y lleoliad. Nodwch enw a dewiswch Nesaf.
  8. Ar dudalen Cwblhau'r Dewin Ychwanegu Lleoliad Rhwydwaith , dewiswch Gorffen. Os cewch eich annog i roi enw defnyddiwr a chyfrinair eto, teipiwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair Blackboard Learn. Dewiswch Iawn.
  9. Bydd y ffolder gwe'n agor. Bydd nawr yn cael ei restri yn Cyfrifiadur o dan Lleoliad Rhwydwaith.

Datrys problemau gyda Windows 7:

  1. Ar rai fersiynau o Windows, ni allwch gysylltu â ffolderi gwe heb ddefnyddio SSL. Mae erthygl Sail Wybodaeth Microsoft KB841215 yn disgrifio sut i ddatrys y broblem hon.
  2. Os yw Office 2003 wedi'i osod, ymddengys bod ffolderi gwe ddim yn gweithio. Dylai uwchraddio i Office 2007 ddatrys hyn.

Datrys problemau ar gyfer Windows Vista:

  1. Ar rai fersiynau o Windows, ni allwch gysylltu â ffolderi gwe heb ddefnyddio SSL. Mae erthygl Sail Wybodaeth Microsoft KB841215 yn disgrifio sut i ddatrys y broblem hon.

Gosod Ffolderi Gwe yn Windows XP

Gan ddefnyddio cyfeiriad gwe'r ffolder, dilynwch y camau hyn i greu'r ffolder gwe yn Windows XP.

  1. Agorwch Fy Nghyfrifiadur.
  2. Dewiswch Y Rhwydwaith.
  3. Dewiswch Ychwanegu Lle ar y Rhwydwaith.
  4. Bydd y Dewis Ychwanegu Lle ar y Rhwydwaith yn agor. Dewiswch Nesaf.
  5. Pan ofynnir i chi lle rydych eisiau creu'r lle ar y rhwydwaith, dewiswch Dewis lleoliad arall ar y rhwydwaith. Dewiswch Nesaf.
  6. Pan ofynnir i chi am leoliad eich lle ar y rhwydwaith, gludwch y cyfeiriad gwe copïoch chi yn y camau uchod. Dewiswch Nesaf.
  7. Pan fyddwch chi’n cael eich annog i gofnodi enw defnyddiwr a chyfrinair, teipiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Blackboard Learn. Dewiswch Iawn.
  8. Byddwch yn cael eich procio i nodi enw ar gyfer y Lle ar y Rhwydwaith. Nodwch enw a dewiswch Nesaf.
  9. Ar dudalen Cwblhau'r Dewin Ychwanegu Lleoliad Rhwydwaith , dewiswch Gorffen.
  10. Os byddwch chi’n cael eich annog i gofnodi enw defnyddiwr a chyfrinair eto, teipiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Blackboard Learn. Dewiswch Iawn.
  11. Bydd y ffolder gwe'n agor. Bydd nawr yn cael ei restri yn Y Rhwydwaith.

Datrys problem ar gyfer Windows XP:

  1. Mewn rhai fersiynau o Windows, fel Gweinyddwr Windows 2003 x64, bydd y camau hyn yn methu. Yn yr achosion hynny, agorwch anogwr cmd (Dechrau/Rhedeg "cmd.exe") a dilynwch y gorchymyn: defnyddiwch * https://cdev-saas-ultra-test.blackboard.com/bbcswebdav/courses/ocean.org.101 i greu eich cyswllt eich hun â'r ffolder gwe.
  2. Ar rai fersiynau o Windows, ni allwch gysylltu â ffolderi gwe heb ddefnyddio SSL. Mae erthygl Sail Wybodaeth Microsoft KB841215 yn disgrifio sut i ddatrys y broblem hon.

Symud ffeiliau i’r ffolder gwe

  1. Ar ôl agor y ffolder gwe, ewch i’r ffolder yr hoffech gadw ffeiliau neu ffolderi ynddi.
  2. Mewn ffenestr ar wahân, dewch o hyd i’r ffolder ar eich cyfrifiadur sy’n cynnwys y ffeiliau a’r ffolderi yr hoffech eu trosglwyddo.
  3. Ar ôl agor y ffolder a’ch ffolder gwe, bydd modd llusgo a gollwng ffeiliau neu ffolderi i symud eitemau rhyngddynt. Dewiswch eitem a’i llusgo i’r ffolder gyrchfan. Gollyngwch hi yn y ffolder gan ryddhau botwm y llygoden. Bydd unrhyw ffeiliau a ffolderi y byddwch yn eu symud i'r ffolder gwe'n cael eu copïo i'r Casgliad o Gynnwys.
  4. Os yw’n well gennych, gallwch chi ddefnyddio copïo a gludo i symud ffeiliau rhwng y ffolder gwe a lleoliad ar eich cyfrifiadur.
  5. Yn y Casgliad o Gynnwys, dewiswch Adnewyddu i weld y ffeiliau wedi'u huwchlwytho.

Ar ôl i chi gopïo pob ffeil a ffolder, datgysylltwch o'r ffolder gwe. Os na fyddwch yn datgysylltu, bydd y cysylltiad yn aros ar agor tan ichi gau’r cyfrifiadur. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur mae eraill yn ei ddefnyddio hefyd, bydd ganddynt fynediad at bopeth yn y Casgliad o Gynnwys.

Pan fydd angen ichi ddefnyddio’r ffolder gwe yn y dyfodol, ewch i My Network Places a dewiswch lwybr byr y ffolder gwe a greoch chi.


Creu lleoliad a rennir ar gyfer Mac©

I gysylltu â ffolder gwe, a elwir yn lleoliad a rennir ar Mac, defnyddiwch gyfeiriad gwe ffolder y Casgliad o Gynnwys gydag enw defnyddiwr a chyfrinair dilys.

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, dewiswch Creu Ffolder Gwe, ar gyfer y ffolder lefel uchaf. Mae dechrau o'r lleoliad hwn yn sicrhau mynediad WebDAV at bob ffolder a gynhwysir yn y Casgliad o Gynnwys. Gallwch ddewis unrhyw ffolder y tu mewn i'r Casgliad o Gynnwys, ond mae rhaid i'r llwybr lleoliad a rennir fod yn llai na 240 nod. Mae cyfeiriad gwahanol gan bob ffolder a ddewisir.
  2. Ar y dudalen Defnyddio Lleoliad a Rennir, copïwch yr URL sy'n ymddangos ar gyfer Cyfeiriad Gwe cyfredol. Byddwch yn gludo'r cyfeiriad yn nes ymlaen.
  3. Ar y bar Finder, dewiswch Go > Connect to Server.
  4. Yn y ffenestr Connect to Server, gludwch yr URL a gopïoch yng ngham 2 i'r blwch Server Address. Dewiswch Cysylltu.

    Cliciwch ar y symbol plws wrth ymyl y cyfeiriad a ludwyd i’w gynnwys ym mlwch Favorite Servers. Pan fyddwch yn cadw cyfeiriad fel hoff weinydd, ni fydd yn rhai i chi ei gopïo a gludo bob tro. Yn y dyfodol, dechreuwch gyda cham 3 i gysylltu â'r lleoliad hwn a rennir.

  5. Os bydd ffenestr WebDAV File System Authentication yn ymddangos, teipiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Blackboard Learn. Dewiswch Iawn.
  6. Ar ôl i chi gysylltu â'r lleoliad a rennir, bydd eicon y rhwydwaith Mac yn ymddangos ar eich bwrdd gwaith. Dwbl-gliciwch yr eicon i agor y lleoliad a rennir. Mae'r lleoliad a rennir yn dangos y ffeiliau a'r ffolderi yn y Casgliad o Gynnwys.

Symud ffeiliau i’r lleoliad a rennir

  1. Gyda'r lleoliad a rennir ar agor, llywiwch i'r ffolder lle rydych eisiau ychwanegu ffeiliau neu ffolderi.
  2. Mewn ffenestr ar wahân, dewch o hyd i'r ffolder ar eich cyfrifiadur sy'n cynnwys y ffeiliau a ffolderi rydych eisiau eu trosglwyddo.
  3. Ar ôl agor y ffolder a’ch lleoliad a rennir, bydd modd llusgo a gollwng ffeiliau neu ffolderi i symud eitemau rhyngddynt. Dewiswch eitem a’i llusgo i’r ffolder gyrchfan. Gollyngwch hi yn y ffolder gan ryddhau botwm y llygoden. Bydd unrhyw ffeiliau a ffolderi y byddwch yn eu symud i'r lleoliad a rennir yn cael eu copïo i'r Casgliad o Gynnwys.
  4. Os yw’n well gennych, gallwch chi ddefnyddio copïo a gludo i symud ffeiliau rhwng y lleoliad a rennir a lleoliad arall ar eich cyfrifiadur.
  5. Yn y Casgliad o Gynnwys, dewiswch Adnewyddu i weld y ffeiliau wedi'u huwchlwytho.

Ar ôl i chi ddefnyddio'r lleoliad a rennir, efallai bydd rhai ffeiliau'n ymddangos gydag enwau ffeil dyblyg sy'n dechrau gyda "._" neu ".DS Store." Gallwch eu dileu'n ddiogel o'r Casgliad o Gynnwys.

Pan fyddwch wedi copïo pob ffeil a ffolder, caewch y ffenestr a llusgwch eicon rhwydwaith Mac i'r sbwriel i ddatgysylltu o'r lleoliad a rennir. Os na fyddwch yn datgysylltu, bydd yr eicon a’r cysylltiad yn aros ar agor tan ichi gau’r cyfrifiadur. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur mae eraill yn ei ddefnyddio hefyd, bydd ganddynt fynediad at bopeth yn y Casgliad o Gynnwys.