Ychwanegu metaddata at eitem y Casgliad o Gynnwys
- Llywiwch i'r ffolder sy'n cynnwys yr eitem rydych eisiau ei olygu.
- Dewiswch fath o fetaddata o ddewislen yr eitem.
Metaddata cyffredinol
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Metadata Cyffredinol | |
Enw | Teipiwch enw ar gyfer yr eitem. Ni fydd hyn yn newid enw'r ffeil. |
Disgrifiad | Teipiwch ddisgrifiad ar gyfer yr eitem. |
Allweddeiriau | Rhestrwch eiriau allweddol sy'n gysylltiedig â'r eitem, wedi'u gwahanu â choma. |
Amcanion Dysgu | Rhestrwch amcanion dysgu sy'n gysylltiedig â'r eitem, wedi'u gwahanu â choma. |
Metaddata personol
Mae tudalen Metaddata Personol yn caniatáu i ddefnyddwyr deipio priodoleddau ar gyfer eitem. Diffinnir y priodoleddau gan y sefydliad.
Metaddata IMS
Mae tudalen Rheoli Metaddata IMS yn caniatáu i ddefnyddwyr deipio priodoleddau sy'n cyd-fynd â Safon Metaddata IMS.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Metadata IMS | |
Dynodwr | Label unigryw ar gyfer yr eitem. |
Math o Gatalog | Math o gatalog llyfrgell lle catalogir yr eitem hon. |
Cofnod Catalog | Y rhif catalog ar gyfer yr eitem. |
Iaith | Iaith yr eitem. |
Math o Adnodd | Y math o adnodd, megis Ymarfer, Ysgogiad, Holiadur, Diagram, Ffigur, Graff, Mynegai, Sleid, Tabl, Testun Naratif, Arholiad, Arbrawf, Datganiad o Broblem neu Hunanasesiad. |
Cyd-destun Addysgol | Yr amgylchedd dysgu nodweddiadol lle y bwriedir defnyddio’r gwrthrych dysgu. Er enghraifft, Addysg Gynradd, Addysg Uwchradd, Addysg Uwch, Cylch Cyntaf Prifysgol, Ail Gylch Prifysgol, Ôl-raddedig Prifysgol, Cylch Cyntaf Ysgol Dechnegol, Ail Gylch Ysgol Dechnegol, Hyfforddiant Proffesiynol, Hyfforddiant Parhaus neu Hyfforddiant Galwedigaethol. |
Ystod Oedran | Yr ystod oedran ar gyfer y defnyddwyr arfaethedig. |
Anhawster | Nodwch lefel anhawster yr eitem hon. |
Adnodd Rhad ac am Ddim | Ticiwch y blwch hwn os yw'r eitem hon am ddim. |
Defnydd Cyfyngedig | Ticiwch y blwch hwn os oes cyfyngiad ar yr eitem hon. |
Metadata IMS Llawn
Mae tudalen Rheoli Metaddata IMS Llawn yn caniatáu i ddefnyddwyr fanteisio ar yr holl feysydd sydd ar gael ar Fodel Gwybodaeth Metaddata Adnodd Dysgu IMS.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Metadata Cyffredinol | |
Dynodwr Cyffredinol | Label unigryw ar gyfer yr eitem. |
Teitl Cyffredinol | Y teitl ar gyfer yr eitem. |
Catalog Cyffredinol | Math o gatalog llyfrgell lle catalogir yr eitem hon. |
Cofnod Cyffredinol | Rhif y catalog ar gyfer yr eitem benodol hon. |
Iaith Gyffredinol | Iaith yr eitem. |
Disgrifiad Cyffredinol | Disgrifiad cyffredinol ar gyfer yr eitem. |
Gair Allweddol Cyffredinol | Disgrifiad yr eitem perthynol i'w bwrpas a nodir. |
Cwmpas Cyffredinol | Cyd-destun hanesyddol yr eitem. |
Strwythur Cyffredinol | Strwythur yr eitem. |
Lefel Cydgasglu Gyffredinol | Maint swyddogaethol yr adnodd. Dewiswch 1-4 o'r rhestr. |
Cylch Oes | |
Fersiwn y Cylch Oes | Rhifyn yr eitem. |
Statws y Cylch Oes | Cyflwr golygu'r eitem. |
Rôl y Cylch Oes | Y math o gyfraniad. |
Endid y Cylch Oes | Yr endid unigol neu endidau sy'n gysylltiedig â'r eitem. Mae enghreifftiau'n cynnwys awdur, cyhoeddwr, neu adran prifysgol. |
Dyddiad y Cylch Oes | Dyddiad cyfraniad yn y cylch oes. |
Metaddata | |
Dynodwr Metadata | Label unigryw ar gyfer y metaddata. |
Catalog Metadata | Ffynhonnell gwerth llinyn canlynol. |
Cofnod Metadata | Nodwedd o’r disgrifiad yn hytrach na’r adnodd. |
Rôl Metadata | Y math o gyfraniad. |
Endid Metadata | Yr endid neu’r endidau sy'n gysylltiedig, gyda’r mwyaf perthnasol yn gyntaf. |
Dyddiad Metadata | Dyddiad cyfraniad. |
Cynllun Metadata | Strwythur y metadata, gan gynnwys y fersiwn. |
Iaith Metadata | Iaith yr eitem. |
Technegol | |
Fformat Technegol | Data technegol yr eitem. Mae enghreifftiau'n cynnwys PDF, ffeil cronfa ddata, neu ddogfen Word. |
Maint Technegol | Maint yr eitem mewn beitiau. Dylid defnyddio'r digidau rhwng 0-9 yn unig. Noder bod yr uned yn feitiau, nid MB, GB, ayyb. |
Lleoliad Technegol | Lleoliad yr eitem yn y Casgliad o Gynnwys. |
Math Technegol | Y math o ofyniad. |
Enw Technegol | Enw’r eitem ofynnol. |
Fersiwn Isafswm Technegol | Fersiwn isaf yr eitem ofynnol. |
Fersiwn Uchafswm Technegol | Fersiwn uchaf yr eitem ofynnol. |
Sylwadau Gosodiad Technegol | Disgrifiad ynghylch sut i osod yr adnodd. |
Gofynion Llwyfannau Technegol Eraill | Unrhyw angen arbennig i gyrchu'r eitem. Er enghraifft, mae angen Adobe Reader i gael mynediad at ffeil PDF. |
Hyd Technegol | Yr amser y mae eitem barhaol yn ei gymryd pan y'i chwaraeir ar y cyflymder a fwriadwyd, mewn eiliadau. |
Addysgol | |
Math o Ryngweithio Addysgol | Y math o ryngweithio a gefnogir gan yr eitem. |
Math o Adnodd Dysgu Addysgol | Y math penodol o adnodd, y math blaenaf yn gyntaf. |
Lefel Rhyngweithio Addysgol | Lefel y rhyngweithio rhwng defnyddiwr a’r gwrthrych dysgu. |
Dwysedd Semantig Addysgol | Mesur goddrychol o ddefnyddioldeb y gwrthrych dysgu o gymharu â’i faint neu hyd. |
Rôl Defnyddiwr Bwriadedig Addysgol | Y math o ddefnyddiwr yr eitem. Mae enghreifftiau'n cynnwys Hyfforddwr, Myfyriwr, a llyfrgellydd. |
Cyd-destun Addysgol | Yr amgylchedd dysgu nodweddiadol lle y bwriedir defnyddio’r gwrthrych dysgu. Er enghraifft, Addysg Gynradd, Addysg Uwchradd, Addysg Uwch, Cylch Cyntaf Prifysgol, Ail Gylch Prifysgol, Ôl-raddedig Prifysgol, Cylch Cyntaf Ysgol Dechnegol, Ail Gylch Ysgol Dechnegol, Hyfforddiant Proffesiynol, Hyfforddiant Parhaus neu Hyfforddiant Galwedigaethol. |
Ystod Oedran Nodweddiadol Addysgol | Yr ystod oedran ar gyfer y defnyddwyr arfaethedig. |
Anhawster Addysgol | Nodwch lefel anhawster yr eitem hon. |
Amser Dysgu Nodweddiadol Addysgol | Bras amser neu amser nodweddiadol y mae’n ei gymryd i weithio gyda’r adnodd. |
Disgrifiad Addysgol | Y sylwadau ar sut i ddefnyddio’r gwrthrych dysgu. |
Iaith Addysgol | Iaith naturiol y defnyddiwr. |
Hawliau | |
Cost Hawliau | P'un ai a oes angen talu i ddefnyddio'r eitem ai peidio. |
Hawliau Hawlfraint a Chyfyngiadau Eraill | P’un ai a yw hawlfraint neu gyfyngiadau eraill yn gymwys ai peidio. |
Disgrifiad o Hawliau | Sylwadau ar amodau defnyddio’r adnodd. |
Cydberthynas | |
Math o Gydberthynas | Natur y berthynas rhwng yr eitem sy’n cael ei disgrifio a’r un sy’n cael ei hadnabod gan Adnodd (7.2). |
Dynodwr y Gydberthynas | Dynodwr unigryw yr eitem arall. |
Disgrifiad o’r Gydberthynas | Nodweddion yr eitem mewn cydberthynas ag eitemau eraill yn y Casgliad o Gynnwys. |
Catalog Cydberthynas | Ffynhonnell gwerth y llinyn canlynol. |
Cofnod Cydberthynas | Y gwerth gwirioneddol. |
Anodiad | |
Unigolyn yr Anodiad | Y defnyddiwr sy'n gwneud sylwadau ar eitem. |
Dyddiad yr Anodiad | Y dyddiad y gwnaethpwyd sylwadau ynghylch eitem. |
Disgrifiad o’r Anodiad | Sylwadau ar ddefnydd addysgol yr eitem. |
Dosbarthiad | |
Pwrpas y Dosbarthiad | Disgrifiad o nodwedd o'r eitem yn ôl cofnodion dosbarthu. |
Ffynhonnell y Dosbarthiad | Y dosbarthiad penodol. |
Tacson y Dosbarthiad | Y cofnod dosbarthiad ar gyfer yr eitem; mae rhestr mewn trefn o dacsonau yn creu llwybr tacson. |
ID y Dosbarthiad | Dynodwr y Tacson mewn system dacsonomig. |
Cofnod y Dosbarthiad | Enw neu label y tacson (heblaw am y dynodwr). |
Disgrifiad o’r Dosbarthiad | Disgrifiad testunol o’r gwrthrych dysgu perthynol i'w bwrpas penodedig. |
Gair Allweddol y Dosbarthiad | Disgrifiad allweddol o’r gwrthrych dysgu perthynol i'w bwrpas penodedig. |
Math o Adnodd | Y math o adnodd, megis Ymarfer, Ysgogiad, Holiadur, Diagram, Ffigur, Graff, Mynegai, Sleid, Tabl, Testun Naratif, Arholiad, Arbrawf, Datganiad o Broblem neu Hunanasesiad. |
Metadata Dublin Core
Gall defnyddwyr deipio priodoleddau sy'n cyd-fynd â safon Metaddata Craidd Dulyn.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Metadata Dublin Core | |
Teitl | Enw ar gyfer yr eitem. Ni fydd hyn yn newid enw'r ffeil. |
Creawdwr | Y person neu sefydliad a wnaeth yr eitem. |
Pwnc | Pwnc yr eitem. |
Disgrifiad | Disgrifiad o'r eitem. |
Cyhoeddwr | Enw'r person neu sefydliad a gyhoeddodd yr eitem. |
Cyfrannwr | Enwau'r bobl a gyfrannodd at gynnwys yr eitem. |
Dyddiad | Y dyddiad a grëwyd yr eitem. |
Math | Categori neu genre ar gyfer yr eitem hon. |
Fformat | Y math o gyfryngau neu faint a hyd yr eitem. Mae'n bosibl y defnyddir y wybodaeth hon i nodi'r meddalwedd neu galedwedd sydd eu hangen i ddefnyddio'r adnodd. |
Dynodwr | Cyfeirnod unigryw ar gyfer yr eitem hon, er enghraifft rhif sy'n gysylltiedig â'r eitem mewn system adnabod. |
Ffynhonnell | Enw'r adnodd o le daw'r eitem hon. |
Iaith | Iaith yr eitem. |
Cydberthynas | Cyfeiriad at ffynhonnell sy'n gysylltiedig â'r eitem hon. |
Cwmpas | Lleoliad ac ystod dyddiadau'r eitem hon. |
Hawliau | Gwybodaeth am Hawliau Eiddo Deallusol a Hawlfraint. |
Metadata Deinamig
Gall hyfforddwyr ychwanegu metaddata at eitem y Casgliad o Gynnwys wrth ychwanegu'r eitem at gwrs. Gall hyfforddwyr ddisodli'r metaddata hwnnw neu gadw cysylltiad â'r Casgliad o Gynnwys fel bod metaddata'n cael ei uwchraddio yn y cwrs pan fydd yn cael ei ddiweddaru yn y Casgliad o Gynnwys.
Metaddata | Disgrifiad |
---|---|
Blwch ticio | Dewiswch y blwch ticio priodol er mwyn dethol yr holl briodoleddau posib ar gyfer y math hwnnw o fetaddata. |
Casglwr Metadata | Dewiswch yr arwydd plws i ehangu a dewis y priodoleddau metaddata priodol. Dewiswch yr arwydd minws i gwympo'r rhestr. |
Dewiswch o blith yr opsiynau canlynol:
Opsiwn | Disgrifiad |
---|---|
Gwerthoedd | Dewiswch flwch Cadw'r gwerthoedd hyn wedi'u cysoni i gynnal cysylltiad deinamig rhwng y Casgliad o Gynnwys a'r cwrs ar gyfer yr eitem. Os na ddewisir yr opsiwn hwn, yna copiir y metadata'n unig i'r cwrs. Ni adlewyrchir unrhyw newidiadau a wnaethpwyd i fetadata'r eitem yn y cwrs ac i'r gwrthwyneb. |
Fformat | Dewiswch rhwng fformat tablaidd neu gywasgedig ar gyfer y metadata. Mae'r maes Fformat Enghreifftiol yn dangos sut mae pob opsiwn yn ymddangos. |