Mae aelodau grŵp yn aml yn rhannu set gyffredin o ffeiliau ac yn cydweithio arnynt. Y cam cyntaf er mwyn rhannu dogfennau â grŵp yn y Casgliad o Gynnwys yw creu ffolder y gall pob aelod o'r grŵp gael mynediad ato. Does dim rhaid i chi greu ffolder grŵp er mwyn i aelodau gydweithio â'i gilydd, ond gall fod yn fwy defnyddiol pennu ffolder penodol i rannu casgliad o ffeiliau ymysg y grŵp.

Ar ôl i ddefnyddiwr greu ffolder y grŵp, rhaid i'r defnyddiwr ddarparu'r caniatâd priodol i aelodau eraill y grŵp. Os yw hyfforddwr wedi creu grwpiau yn y cwrs, gall defnyddwyr rannu'r ffoler â holl aelodau grŵp drwy ddilyn un cam. Os caiff aelodau eu hychwanegu neu eu tynnu o'r grŵp, bydd y Casgliad o Gynnwys yn rhannu'r ffolder yn awtomatig ag aelodau newydd y grŵp.


Rhannu ffolder gyda grŵp cwrs

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, llywiwch i'r ffolder sy'n cynnwys ffolder y grŵp.
  2. Dewiswch eicon caniatâd ffolder y grŵp. Neu, yn newislen y ffolder, dewiswch Golygu > Caniatâd.
  3. Yn newislen Dewis Defnyddwyr Penodol yn ôl Man, dewiswch Grŵp Cwrs (neu Grŵp Mudiad os yw'r grŵp yn berchen i fudiad).
  4. Bydd y dudalen yn dangos yr holl grwpiau cwrs rydych wedi ymrestru arnynt. Defnyddiwch y blychau ticio i ddewis y grŵp neu grwpiau er mwyn rhannu'r ffolder.
  5. Dewiswch y caniatâd priodol. I roi caniatâd llawn i'r grŵp, dewiswch bob blwch ticio.
  6. Dewiswch Cyflwynoi gadw’ch newidiadau.

Rhannu ffolder gyda grŵp defnyddwyr

Os ydych am rannu ffolder gyda grŵp o ddefnyddwyr sy'n bodoli y tu allan i grŵp cwrs neu sefydliad, rhaid i chi roi caniatâd i bob person.

  1. Dewiswch eicon caniatâd y ffolder. Neu, yn newislen y ffolder, dewiswch Golygu > Caniatâd.
  2. Dewiswch Dewis Defnyddwyr Penodol.
  3. Nodwch enw defnyddiwr pob aelod o'r grŵp, wedi'u gwahanu gyda choma, yn y maes Enw Defnyddiwr. Dewiswch Pori i leoli enwau defnyddwyr anhysbys.
  4. Dewiswch y blychau ticio i roi caniatâd priodol i'r defnyddwyr hyn. I roi caniatâd llawn i holl aelodau'r grŵp, dewiswch bob blwch ticio.
  5. Dewiswch Cyflwynoi gadw’ch newidiadau.

Dylai'r sawl sy'n creu ffolder y grŵp roi gwybod i bob aelod o'r grŵp ble mae'r ffolder wedi'i chadw. Ar ôl i chi greu'r ffolder a rennir, y ffordd hawsaf a chyflymaf i aelodau'r grŵp gael mynediad at y ffolder newydd hwn yw i bob person greu nod tudalen i'r ffolder.

Creu nod tudalen ar gyfer ffolder grŵp

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, dan Neidio I > Offer, dewiswch Nodau Tudalen.
  2. Dewiswch Creu Nod Tudalen.
  3. Enwch y nod tudalen a phorwch am ei leoliad.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Unwaith i chi greu'r nod tudalen, gallwch ddewis Nodau Tudalen yn newislen y Casgliad o Gynnwys er mwyn cael mynediad sydyn atynt. Mae crëwr y ffolder grŵp yn gallu cael mynediad at y ffolder yn uniongyrchol trwy ei ffolder enw defnyddiwr.

Gall defnyddwyr hefyd ddod o hyd i'r ffolder grŵp trwy dethol Chwilio yn yr ardal Offer.