Mae'n bosibl y byddwch yn gweld bod Cwestiynau Paru yn weddol gymhleth. Yn y pwnc hwn, rydym wedi cynnwys camau'r myfyrwyr ar gyfer rhyngweithiadau y Bysellfwrdd, Troslais a JAWS®.

Manylebau'r camau profi:

  • Mac OSX 10.11.6 / Chrome 67.0 / Bysellfwrdd
  • Mac OSX 10.11.6 / Safari 11.1 / Troslais
  • Windows 10 Home / Firefox 61.0 / JAWS 2018

Rhyngweithio â bysellfwrdd

  1. Pan fydd yn cael ei agor y tro cyntaf, ymddengys bod y ffocws wedi'i golli.
  2. Pwyswch Tab i ffocysu ar saeth opsiwn yr ateb cyntaf y proc cyntaf sy'n cyd-fynd.
  3. Pwyswch y bylchwr i'w ysgogi.
    1. Os does dim eitem wedi'i dewis ar y pryd, bydd y ffocws yn symud i'r botwm radio cyntaf yn y rhestr.
    2. Os oes opsiwn wedi'i dewis ar y pryd, bydd y ffocws yn symud i'r opsiwn hwnnw.
  4. I lywio a dewis ateb, edrychwch ar Llywio ymysg yr atebion posib: Bysellfwrdd.
  5. I ganslo allan yr atebion, pwyswch Escape.
    • Bydd y ffocws yn dychwelyd i saeth yr opsiwn ateb.
  6. Pan fyddwch yn barod i gyflwyno'ch aseiniad, tabiwch i fotwm Cyflwyno a phwyswch y bylchwr.
  7. Bydd y ffocws yn symud i'r pennawd Cyflwyno Aseiniad yn y deialog sydd newydd agor.
  8. Pwyswch Tab unwaith eto i fotwm Cyflwyno, sy'n cau'r deialog ac yn mynd â chi yn ôl i dudalen Manylion a Gwybodaeth yr Aseiniad.
  9. O dan Graddio, fe welwch wybodaeth ar y cyflwyniad.

Llywio ymysg yr atebion posib: Bysellfwrdd

  1. I lywio'r rhestr, pwyswch y saethau i fyny ac i lawr.
    • Dewisir yr opsiwn i ffocysu.
  2. Llywio gyda bysell y saeth i lawr:
    1. I ryngweithio gyda'r eitemau a ffocysir arnynt ar bob botwm radio megis fideo, delweddau, dolenni, pwyswch Tab.
    2. I fynd yn ôl i'r opsiwn botymau radio, pwyswch Shift + Tab ac yna parhewch i lywio trwy'r botymau radio gyda'r saethau i fyny ac i lawr.
  3. I ryngweithio gyda'r eitemau hynny yn y botwm radio, pwyswch y bylchwr.
  4. Ar gyfer delweddau mewnol, bydd y wedd mwy yn ymddangos.
    1. Pwyswch Escape i gau a bydd y ffocws yn dychwelyd i'r ddelwedd.
    2. Pwyswch Shift + Tab i osod y ffocws yn ôl ar y botwm radio.
  5. Ar gyfer fideos, bydd y ddolen i'r fideo yn ymddangos mewn ffenestr newydd.
    1. Dychwelwch i ffenestr yr asesiad a bydd y ffocws yn aros ar y fideo.
    2. Pwyswch Shift + Tab i osod y ffocws yn ôl ar fotwm radio'r fideo hwnnw.
  6. Ar gyfer dolenni, bydd y ddolen hefyd yn agor mewn ffenestr newydd.
    1. Dychwelwch i ffenestr yr asesiad a bydd y ffocws yn aros ar y ddolen.
    2. Pwyswch Shift + Tab i osod y ffocws yn ôl ar fotwm radio'r ddolen honno.
  7. Ar gyfer dogfennau ac atodiadau, gosodwch y ffocws ar yr elipsis a phwyswch y bylchwr.
    1. Bydd y ffocws yn symud i opsiwn Lawrlwytho Ffeil.
    2. Dewiswch lawrlwytho'r ffeil.
    3. Unwaith i chi ei lawrlwytho, mae'n bosibl y bydd angen i chi lywio yn ôl i'r cwestiynau yn seiliedig ar leoliad y ffeil.
  8. Pan mae gennych opsiwn i'w dewis, sicrhewch fod y ffocws ar y botwm radio. Pwyswch Shift + Tab os ydych dal ar gynnwys rhyngweithiol y botwm radio hwnnw.
  9. I ddewis yr eitem i ffocysu arni, pwyswch Enter neu'r bylchwr.
    • Bydd yr opsiynau'n cau a'r ffocws yn dychwelyd i saeth yr ateb.
  10. Pwyswch Tab eto i osod y ffocws ar ateb y proc nesaf ac ailadroddwch y broses lywio.

Rhyngweithio â VoiceOver

  1. Pan fyddwch yn agor yr aseiniad, bydd Troslais yn cyhoeddi "pennawd lefel 1" ac enw'r aseiniad.
  2. I gyrraedd cynnwys yr aseiniad yn gyflym, pwyswch Control + Option + Command + h i gyrraedd "pennawd lefel 2 Cynnwys yr Aseiniad."
  3. Pwyswch Control + Option a'r Saeth i'r Dde o rif y cwestiwn, cyfanswm nifer y pwyntiau, ac yna'r cwestiwn a'r wybodaeth ddisgrifiadol.
  4. Y set nesaf yw'r Prociau a'r Atebion. Maen nhw'n gweithio mewn parau.
    1. Er enghraifft, mae gan bob proc un "botwm naid" fesul ateb.
    2. Y ffordd orau o lywio yw ar ôl y cwestiwn a'r wybodaeth ddisgrifiadol, pwyswch Control + Option + Saeth i'r Dde, a bydd Troslais yn cyhoeddi "Proc" ac yna "Atebion".
  5. Ar ôl i chi glywed "Atebion", yr opsiwn gorau yw i bwyso Control + Option + Command + j i gyrraedd botwm yr ateb cyntaf.
    • Bydd Troslais yn rendro rhif y cwestiwn, testun y proc ac yna'r "botwm naid wedi crebachu".
  6. Pwyswch y bylchwr i ysgogi ac agor y rhestr o opsiynau.
    1. Os yw wedi'i dewis ar y pryd, bydd y ffocws yn symud i'r botwm radio cyntaf yn y rhestr.
    2. Os oes opsiwn wedi'i dewis ar y pryd, bydd y ffocws yn symud i'r botwm radio hwnnw.
  7. I lywio a dewis ateb, edrychwch ar Llywio ymysg yr atebion posib: Troslais.
  8. I ganslo allan yr atebion, pwyswch Escape.
    • Bydd y ffocws yn dychwelyd i rif y cwestiwn, testun y proc a'r botwm naid wedi crebachu.
  9. Pan rydych yn barod i gyflwyno'ch aseiniad, defnyddiwch fotwm Cyflwyno. Ewch naill ai i ddewislen ffurflenni a dod o hyd i Cyflwyno neu pwyswch Control + Option + Command + j i neidio trwy elfennau'r ffurflen.
  10. Pan fydd botwm Cyflwyno wedi'i ysgogi, bydd y ffocws yn symud i ddeialog gwe Cyflwyno Aseiniad.
  11. Pwyswch Tab unwaith i fynd i fotwm Cyflwyno, sy'n cau'r deialog ac yn mynd â chi yn ôl i dudalen Manylion yr Aseiniad. Bydd y ffocws ar enw "pennawd lefel 1" yr aseiniad.
  12. Gallwch wirio'ch lleoliad yn sydyn trwy chwilio am "Cyflwynwyd ar" neu trwy alw'r ddewislen dolenni a dod o hyd i ddolen "Cyflwynwyd y Cyflwyniad ar...".

Llywio ymysg yr atebion posib: Troslais

  1. I lywio'r rhestr, pwyswch y saethau i fyny ac i lawr.
    • Dewisir yr opsiwn i ffocysu.
  2. Llywio gyda bysell y saeth i lawr:
    1. I ryngweithio gyda'r eitemau a ffocysir arnynt megis fideo, delweddau, dolenni, pwyswch Tab.
    2. I fynd yn ôl i'r opsiwn botymau radio, pwyswch Shift + Tab ac yna parhewch i lywio trwy'r botymau radio gyda'r saethau i fyny ac i lawr.
  3. Ar gyfer delweddau mewnol, pwyswch Enter a bydd y wedd mwy yn ymddangos.
    1. Pwyswch Escape i gau a bydd y ffocws yn dychwelyd i'r ddelwedd.
    2. Pwyswch Shift + Tab i osod y ffocws yn ôl ar y botwm radio.
  4. Ar gyfer fideos, pwyswch Enter i agor y ddolen i'r fideo mewn ffenestr newydd.
    1. Dychwelwch i ffenestr yr asesiad a bydd y ffocws yn aros ar y fideo.
    2. Pwyswch Shift + Tab i osod y ffocws yn ôl ar fotwm radio'r fideo hwnnw.
  5. Ar gyfer dolenni, pwyswch Enter i agor y ddolen mewn ffenestr newydd.
    1. Dychwelwch i ffenestr yr asesiad a bydd y ffocws yn aros ar y ddolen.
    2. Pwyswch Shift + Tab i osod y ffocws yn ôl ar fotwm radio'r ddolen honno.
  6. Ar gyfer dogfennau ac atodiadau, gosodwch y ffocws ar "Mwy o opsiynau ar gyfer (proc neu ateb) y botwm naid wedi crebachu."
  7. Pwyswch y bylchwr i agor y ddewislen.
    1. Bydd y ffocws yn symud i opsiwn Lawrlwytho Ffeil ar y ddewislen.
    2. Pwyswch y bylchwr i'w ddewis.
    3. Pan fydd wedi'i lawrlwytho, bydd y ffocws yn aros ar fotwm Mwy o opsiynau.
  8. Pan fydd y ffocws wedi'i osod ar y botwm radio rydych chi eisiau fel eich ateb, pwyswch Enter neu'r bylchwr.
    • Bydd yr opsiynau'n cau a'r ffocws yn dychwelyd i saeth yr ateb.
  9. Pwyswch Tab eto i osod y ffocws ar ateb y proc nesaf ac ailadroddwch y broses lywio.

Rhyngweithio â JAWS

  1. Pan fyddwch yn agor yr aseiniad, bydd JAWS yn cyhoeddi enw pennawd lefel 1 yr aseiniad.
  2. I gyrraedd cynnwys yr aseiniad yn gyflym, gallwch bwyso "h" neu "2" i fynd i "bennawd Cynnwys yr Aseiniad."
  3. Pwyswch y saeth i lawr i rif y cwestiwn, cyfanswm nifer y pwyntiau, a'r cwestiwn a gwybodaeth ddisgrifiadol.
  4. Y set nesaf yw'r Prociau a'r Atebion. Maen nhw'n gweithio mewn parau.
    1. Er enghraifft, mae gan bob proc un "ddewislen botwm" fesul ateb.
    2. Y ffordd orau i lywio yw ar ôl gwybodaeth ddisgrifiadol y cwestiwn, pwyswch y saeth i lawr eto, a bydd JAWS yn cyhoeddi "Proc" ac yna "Atebion".
  5. Ar ôl i glywed "Atebion", yr opsiwn gorau yw i bwyso "b" i gyrraedd botwm yr ateb cyntaf.
    • Bydd JAWS yn rendro rhif y cwestiwn, testun y proc ac yna'r "botwm naid wedi crebachu".
  6. Pwyswch y bylchwr i ysgogi ac agor y rhestr o opsiynau.
    1. Os does dim eitem wedi'i dewis ar y pryd, bydd y ffocws yn symud i'r botwm radio cyntaf yn y rhestr.
    2. Os oes opsiwn wedi'i dewis ar y pryd, bydd y ffocws yn symud i'r botwm radio hwnnw.
  7. I lywio a dewis ateb, edrychwch ar Llywio ymysg yr atebion posib: JAWS.
  8. I ganslo allan yr atebion, pwyswch Escape.
    • Bydd y ffocws yn dychwelyd i gwestiwn #, testun y proc a'r botwm naid wedi crebachu.
  9. Pan rydych yn barod i gyflwyno'ch aseiniad, defnyddiwch fotwm Cyflwyno. Naill ai ewch i'r rhestr o ffurflenni a dewch o hyd o hyd i'r botwm Cyflwyno neu pwyswch "b" i neidio trwy'r botymau.
  10. Pan fydd botwm Cyflwyno wedi'i ysgogi, bydd y ffocws yn symud i ddeialog Cyflwyno Aseiniad.
  11. Pwyswch Tab unwaith i fynd i fotwm Cyflwyno, sy'n cau'r deialog ac yn mynd â chi yn ôl i dudalen Manylion yr Aseiniad. Bydd y ffocws ar enw "pennawd lefel 1" yr aseiniad.
  12. Gallwch wirio'ch lleoliad yn sydyn trwy chwilio am "Cyflwynwyd ar" neu trwy alw'r ddewislen dolenni a dod o hyd i ddolen "Cyflwynwyd y Cyflwyniad ar...".

Llywio ymysg yr atebion posib: JAWS

  1. I lywio'r rhestr, pwyswch y saethau i fyny ac i lawr.
    • Dewisir yr opsiwn i ffocysu.
  2. Sicrhewch fod modd ffurflenni ymlaen. Os oes angen, pwyswch Enter i alluogi modd ffurflenni.
  3. Llywio gyda bysell y saeth i lawr:
    1. I ryngweithio gyda'r eitemau a ffocysir arnynt megis fideo, delweddau, dolenni, pwyswch Tab.
    2. I fynd yn ôl i'r opsiwn botymau radio, pwyswch Shift + Tab ac yna parhewch i lywio trwy'r botymau radio gyda'r saethau i fyny ac i lawr.
    3. Efallai bydd angen i chi bwyso Enter i ail-alluogi modd ffurflenni.
  4. Ar gyfer delweddau mewnol, pwyswch Enter a bydd y wedd mwy yn ymddangos.
    1. Pwyswch Escape i gau a bydd y ffocws yn dychwelyd i'r ddelwedd.
    2. Pwyswch Shift + Tab i osod y ffocws yn ôl ar y botwm radio.
  5. Ar gyfer fideos, pwyswch Enter i agor y ddolen i'r fideo mewn ffenestr newydd.
    1. Dychwelwch i ffenestr yr asesiad a bydd y ffocws yn aros ar y fideo.
    2. Pwyswch Shift + Tab i osod y ffocws yn ôl ar fotwm radio'r fideo hwnnw.
  6. Ar gyfer dolenni, pwyswch Enter i agor y ddolen mewn ffenestr newydd.
    1. Dychwelwch i ffenestr yr asesiad a bydd y ffocws yn aros ar y ddolen.
    2. Pwyswch Shift + Tab i osod y ffocws yn ôl ar fotwm radio'r ddolen honno.
  7. Ar gyfer dogfennau ac atodiadau, gosodwch y ffocws ar "Mwy o opsiynau ar gyfer (proc neu ateb) y botwm wedi crebachu."
  8. Pwyswch y bylchwr i agor y ddewislen.
    1. Bydd y ffocws yn symud i opsiwn Lawrlwytho Ffeil ar y ddewislen.
    2. Pwyswch y bylchwr i'w ddewis.
    3. Pan fydd wedi'i lawrlwytho, bydd y ffocws yn aros ar fotwm Mwy o opsiynau.
  9. Pan fydd y ffocws wedi'i osod ar y botwm radio rydych chi eisiau fel eich ateb, pwyswch y bylchwr.
    • Bydd yr opsiynau'n cau a'r ffocws yn dychwelyd i saeth yr ateb.
  10. Pwyswch Tab eto i osod y ffocws ar ateb y proc nesaf ac ailadroddwch y broses lywio.